Bydd pawb dros 18 oed yn cael cynnig brechlyn Covid erbyn dechrau’r wythnos nesaf – chwe wythnos cyn amserlen Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i 75% o Gymry ar draws yr holl grwpiau blaenoriaeth a grwpiau oedran fod wedi cael eu pigiadau cyntaf fis cyn y targed – y garreg filltir wreiddiol oedd diwedd mis Gorffennaf.

Mae’r ffigurau diweddaraf, a gafodd eu cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Mehefin 7), yn dangos bod 2.18m o bobol – neu 86% o’r boblogaeth oedolion – wedi cael dos cyntaf ac mae bron i 1.25m o bobol hefyd wedi cael ail ddos.

Yn y cyfamser, mae’r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod un farwolaeth newydd wedi’i hadrodd heddiw, ynghyd â 75 o achosion newydd o’r coronafeirws.

Roedd Cymru wedi mynd ddeng niwrnod yn olynol heb gofnodi unrhyw farwolaethau coronafeirws.

“Balch iawn”

“Rwy’n falch iawn o ddweud bod gan Gymru un o’r rhaglenni brechu Covid gorau yn y byd,” meddai Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.

“Byddwn yn cynnig brechiad i bob oedolyn cymwys chwe wythnos cyn yr amserlen ac rydym yn disgwyl cyrraedd 75% o’r nifer sy’n manteisio ar bob grŵp blaenoriaeth a grŵp oedran fis cyn y targed.

“Mae hwn yn gyflawniad rhyfeddol ac yn deyrnged i waith caled pawb sy’n ymwneud â’r rhaglen – i bawb sy’n gwneud y gwaith cymhleth o gynllunio y tu ôl i’r llenni ac i’r miloedd o bobol sy’n brechu ac yn helpu i redeg y clinigau ledled y wlad.

“Rydych chi’n gwneud gwaith gwych. Rwy’n hynod falch a diolchgar am bopeth rydych chi’n ei wneud i helpu i ddiogelu Cymru rhag y feirws ofnadwy hwn.”

“Sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl”

“Llwyddiant ein rhaglen yng Nghymru yw’r trefniadau cyflenwi rydym wedi’u datblygu; yn ein penderfyniad i ddefnyddio pob diferyn o’r brechlyn – nid i wastraffu unrhyw un ac i storio’r brechlyn ym mreichiau pobl, yn hytrach nag mewn oergelloedd,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan.

“Wrth i ni gwblhau’r dosau cyntaf, byddwn yn dyblu ein hymdrechion eto i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.

“Yn amodol ar gyflenwad brechlynnau, rydym yn hyderus y bydd dosbarthu ail ddosau yn parhau i fod mor gyflym a llwyddiannus â’r dosau cyntaf.

“Rydym yn disgwyl i bawb sydd wedi dod ymlaen am eu dos cyntaf gael cynnig ail ddos erbyn diwedd mis Medi.”

Cymru’n arwain y byd o ran dosau cyntaf

Mae Cymru wedi darparu 1,249,268 ail ddos o frechlyn Covid-19, sy’n golygu bod 49.5% o’i phoblogaeth sy’n oedolion wedi cael eu brechu’n llawn.

Mae hyn yn is na’r gyfran yn Lloegr a’r Alban, ond ychydig ar y blaen i Ogledd Iwerddon.

Cymru sydd â’r ganran uchaf ar gyfer dosau cyntaf, gydag 86.5% o’i hoedolion wedi derbyn pigiad cyntaf.

Amcangyfrifir bod 69.3% o gyfanswm poblogaeth Cymru wedi derbyn dos cyntaf.

Mae hyn ar y blaen i holl wledydd eraill y byd gyda phoblogaethau o fwy nag un miliwn, gan gynnwys Israel, sydd yn yr ail safle, ar 63.1%.

Mae Cymru wedi llwyddo i gael mwy na 90% o bobol ym mhob grŵp oedran 65 oed a throsodd wedi’u brechu’n llawn, gyda’r rhai 80 oed a throsodd ar hyn o bryd ar 92.8%, 75 i 79 ar 94.3%, 70 i 74 93.9% a 65 i 69 90.3%, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fodd bynnag, mae rhywfaint o ffordd i fynd gyda grwpiau oedran iau, gyda 78.4% o bobl 60 i 64 oed wedi derbyn y ddau ddos, 51.5% o bobl 55 i 59 oed a 39.5% o bobl 50 i 54 oed.

Mae tua 93.1% o breswylwyr cartrefi gofal yn debygol o fod wedi’u brechu’n llawn, ynghyd ag 88.4% o weithwyr gofal iechyd ac 83.7% o weithwyr cartrefi gofal.

Yn ogystal, mae 88.2% o bobl rhwng 16 a 69 oed a ystyrir yn eithriadol o agored i niwed wedi cael y ddau ddos.