Mae cwch pysgota y Nicola Faith wedi cael ei chodi o’r môr oddi ar arfordir Bae Colwyn.

Fe ddiflanodd y Nicola Faith ar Ionawr 27 ynghyd â’i chriw, a oedd yn cynnwys y sgiper Carl McGrath, 34, a’i griw Ross Ballantine, 39, ac Alan Minard, 20.

Darganfuwyd cyrff y tri dyn yn ddiweddarach a chanfuwyd y llongddrylliad ar Ebrill 13.

Fe’i lleolwyd bron i ddwy filltir forol oddi ar Rhos Point, Llandrillo-yn-Rhos sydd ond 177 metr i ffwrdd o’i safle hysbys diwethaf.

Defnyddiwyd craeniau i godi gweddillion y cwch o wely’r môr.

Deellir y bydd y Nicola Faith yn cael ei chludo i leoliad diogel i’w archwilio ymhellach cyn cael ei hasesu.

Dywedodd y Prif Arolygydd Damweiniau Morol, y Capten Andrew Moll: “Roedd angen cynllunio a gweithredu’r cynllun yma’n ofalus er mwyn sicrhau bod tystiolaeth werthfawr yn cael ei chadw. Rydym yn falch ein bod wedi cyflawni hynny ac wedi ailddarganfod y Nicola Faith yn llwyddiannus.

“Pwrpas ein hymchwiliad oedd er mwyn gwella diogelwch. Cam nesaf yr ymchwiliad fydd sefydlu pa ddigwyddiadau a arweiniodd at y cwch yn troi drosodd, y fecaneg o sut suddodd y cwch a pham.

“Unwaith y bydd yr ymchwiliad wedi’i gwblhau, bydd adroddiad sy’n rhoi manylion y canfyddiadau yn cael ei baratoi a’i gyhoeddi. Yn ogystal â rhoi esboniad i’r teuluoedd, bydd ein hadroddiad yn anelu at atal damwain mor drasig rhag digwydd eto.”