Mae’r cyfyngiadau lleol yng Nghaerffili wedi cael eu hymestyn am wythnos arall.

Mae Caerffili dan gyfyngiadau lleol ers Medi 8 – dyma oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i gyflwyno cyfygniadau o’r fath.

Mae bellach 11 o ardaloedd eraill yn y de, a 4 ardal yn y gogledd dan yr un cyfyngiadau.

Golygai hyn bod bron i 80% o boblogaeth Cymru dan fesurau llymach.

Bydd adolygiad arall o’r cyfyngiadau yng Nghaerffili ymhen wythnos.

“O leiaf saith diwrnod arall”

Yn dilyn cyfarfod gyda’r Prif Weinidog Mark Drakeford dywedodd arweinydd y cyngor, Philippa Marsden a’r prif weithredwr Christina Harrhy brynhawn dydd Iau (Hydref 1), eu bod wedi cytuno i ymestyn y cyfyngiadau am “o leiaf saith diwrnod arall”.

“Mae cyfradd yr haint ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth wedi gostwng o dros 100 i tua 50 dros yr wythnosau diwethaf,” meddai’r arweinydd a’r prif weithredwr.

“Mae hyn yn gyflawniad da ond mae gennym waith pellach i’w wneud i leihau’r ffigwr ymhellach.
“Mae’r feirws yn lledu’n sydyn iawn ac mae’r ffigyrau’n cynyddu’n sydyn ond maen nhw’n cymryd yn hirach i ostwng, felly ni allwn ni gymryd ein troed oddi ar y sbardun.”

Bydd y Cyngor nawr yn datblygu cynllun ar gyfer codi’r cyfyngiadau erbyn yr adolygiad nesaf.