Mae deg o bobl bellach wedi marw o’r coronafeirws yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, lle mae yna bellach 89 o achosion o Covid-19.
Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant eisoes wedi dod â llawdriniaethau a drefnwyd o flaen llaw i ben am y tro, ac mae’r bwrdd iechyd wedi penderfynu agor ysbyty maes yr wythnos nesaf i adleoli cleifion nad oes ganddynt Covid.
Ddydd Iau, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf hefyd fod 22 o achosion o Covid-19 wedi’u nodi ar safle ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful – nid yw’r rhain yn gysylltiedig â’r achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Dywedodd cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus y bwrdd iechyd, yr Athro Kelechi Nnoaham: “Bydd y cyfyngiadau dros dro ar wasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn parhau nes ein bod yn gwbl siŵr ein bod wedi rheoli lledaeniad y feirws ar y safle.
Ysbyty’r Seren
“Bydd agor ein hysbyty maes yr wythnos nesaf yn creu capasiti ar gyfer cleifion sydd angen y gofal mwyaf arbenigol, a bydd yn galluogi eraill i adleoli i leoliad di-Covid.
“Ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn adolygu’r sefyllfa’n barhaus, ac yn cydnabod yr effaith fawr y mae ein penderfyniadau’n ei chael ar ein cleifion, ein cymunedau, a’n staff. Diolchwn i bawb am weithio gyda ni ar yr adeg heriol hon.
“Nid yw’r achosion yn Ysbyty’r Tywysog Siarl yn gysylltiedig â’r achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg,” meddai’r Athro Nnoaham
“Diogelwch ein cleifion a’n staff ar draws ein holl safleoedd yw ein blaenoriaeth gyntaf o hyd ac rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i bob aelod o’n cymuned sy’n parhau i gadw at y canllawiau er mwyn helpu i reoli lledaeniad y feirws hwn,” pwysleisiodd.
Bydd yr ysbyty maes, Ysbyty’r Seren, yn agor ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Iau 8 Hydref i ddarparu gofal i gleifion di-Covid y mae’n briodol i’w rhyddhau, yn feddygol, ond sydd ag anghenion gofal o hyd.
Nifer uchaf o achosion ers mis Gorffennaf
Ddydd Iau, nodwyd 398 o achosion eraill o Covid-19 yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd yn y wlad i 24,383.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod chwe marwolaeth arall wedi’u cofnodi – y nifer uchaf ers mis Gorffennaf – gyda chyfanswm y marwolaethau ers dechrau’r pandemig yn cynyddu i 1,622.