Mae Twrci, Gwlad Pwyl a thair ynys yn y Caribî – Bonaire, Saba a St Eustatius – wedi’u tynnu oddi ar y rhestr o wledydd diogel y gall pobl deithio iddynt heb fynd i mewn i gwarantin ar ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig.

Gwnaed y cyhoeddiad gan Vaughan Gething AoS, y Gweinidog Iechyd oherwydd pryderon y gall y llefydd dan sylw fod yn profi ail don o Covid-19. Dywedodd Mr Gething mewn datganiad:

“Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gydganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd Bonaire, Saba and St Eustatius, Gwlad Pwyl a Thwrci yn cael eu tynnu o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.

“Yfory, byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sadwrn 3 Hydref.”

Dyma beth fydd hynny’n ei olygu i bobl ar eu gwyliau:

– Pryd fydd rhaid i mi hunanynysu?

Daw’r mesurau newydd i rym o 4am ddydd Sadwrn 3 Hydref, sy’n golygu bod gan deithwyr sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig o unrhyw un o’r llefydd hynny tua 36 awr i ddychwelyd os am osgoi cwarantin.

Bydd yn ofynnol i unrhyw un sy’n dychwelyd ar ôl y dyddiad hwnnw hunanynysu am 14 diwrnod.

– Beth yw cyfraddau’r haint yn y gwledydd hyn?

Mae’r gyfradd wythnosol fesul 100,000 o bobl yng Ngwlad Pwyl bellach yn 25.9, i fyny o 15.6 yn yr wythnos flaenorol.

Adroddodd Bonaire, Saba a St Eustatius 142.4 achos newydd fesul 100,000, gyda dim newid o’r wythnos flaenorol.

Mae cyfradd Twrci wedi gostwng i 12.9 o achosion, i lawr o 14.2 yn yr wythnos flaenorol – ond mae ofnau nad yw’r ffigurau hyn yn gywir a bod gwir lefel lledaeniad yr haint yn llawer uwch.

– Mae gen i wyliau wedi’u trefnu i wlad ar y rhestr, beth ddylwn i ei wneud?

Mae Swyddfa Dramor a Chymanwlad y Deyrnas Unedig yn cynghori gwladolion Prydeinig na ddylid gwneud unrhyw deithio heblaw teithio hanfodol i’r gwledydd ar y rhestr cwarantin.

Bydd yn rhaid i bobl sy’n penderfynu teithio ac sy’n dychwelyd ar ôl i’r cwarantîn ddod i rym hunanynysu am bythefnos.