Ar ôl dioddef colledion o £5.4 biliwn mewn hanner blwyddyn yn sgil y diffyg galw am hedfan a achoswyd gan y pandemig, mae Rolls-Royce wedi datgelu cynlluniau i werthu rhannau o’u busnes er mwyn codi £2 biliwn.

Erbyn Mehefin 30 roedd y cwmni wedi gwneud colled o £3.2 biliwn, o gymharu ag elw o £93 miliwn yn y deuddeg mis blaenorol.

Yn ôl y prif weithredwr, Warren East, maent wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ailstrwythuro, yn enwedig yn yr adran aerofod masnachol. Mae 4,000 o swyddi wedi’u torri yn yr adran honno ers mis Mai.

‘Anffodus ond angenrheidiol’

Amddiffynnodd East, Cymro sy’n hanu o Fynwy, y penderfyniad i gael gwared ar swyddi, gan ei alw’n benderfyniad anffodus ond angenrheidiol.

Ym Mai cyhoeddodd y cwmni, sydd wedi’u lleoli yn Derby, y bydd colled o 9,000 o swyddi yn rhyngwladol yn sgil y pandemig, gyda 3,000 ohonynt ym Mhrydain.

Daeth ergyd bellach i’r gweithlu ym Mhrydain ddydd Mercher pan gyhoeddodd Rolls-Royce y bydd ffatri aerofod Annelsey yn Swydd Nottingham yn cau, a ffatrïoedd Swydd Gaerhirfryn yn cyfuno.

Cyhoeddodd Rolls-Royce fod ITP Aero yn Sbaen ymysg y busnesau fydd ar werth, a’u bod yn parhau i ystyried opsiynau ychwanegol ar gyfer gwella eu sefyllfa ariannol.

Nid oes disgwyl i alw am injans mawr, fel y rhai mae’r cwmni yn eu cynhyrchu, gynyddu i’r un lefelau â chyn y coronafeirws tan 2025, a rhybuddiodd y cwmni y gall yr ansicrwydd olygu bod amheuaeth dros eu dyfodol.

Petai ail don o coronafeirws byddai’n rhaid codi arian ychwanegol, a hynny drwy gyfuniad o ddyled, gwerthu rhannau o’r busnes ac ecwiti, meddai’r cwmni.