Mae cwmni ceir Rolls-Royce yn bwriadu torri o leiaf 9,000 o swyddi o’i waith aerofod yn sgil y coronafeirws.

Mae 52,000 o weithwyr gan y cwmni i gyd, ac mae’r colledion yn rhan o “ad-drefnu sylweddol” er mwyn ymateb i lai o alw.

Gallai dileu’r swyddi arbed hyd at £700m, wrth iddyn nhw anelu i arbed £1.3bn yn ystod y flwyddyn.

Fe fydd y cwmni hefyd yn gwario llai ar ffatrioedd, eiddo a meysydd eraill.

“Nid argyfwng rydyn ni wedi’i greu yw hwn,” meddai Warren East, prif weithredwr y cwmni sy’n dod o Gymru.

“Ond mae’n argyfwng rydyn ni’n ei wyneb a rhaid i ymdrin â fe.

“Mae ein cwsmeriaid a’n partneriaid awyr yn gorfod addasu a rhaid i ninnau hefyd.

“Mae cael gwybod nad oes swydd ar eich cyfer chi’n ofnadwy, ac mae’n eithriadol o anodd pan fo pawb ohonom yn ymfalchïo cymain mewn gweithio i Rolls-Royce.

“Ond rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd er mwyn gweld bod ein busnes yn dod trwy’r amserau digynsail hyn.”

Roedd Charles Rolls yn dod o Drefynwy, ac mae’r cwmni wedi buddsoddi’n helaeth yng nghampws Prifysgol Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf.