Mae Helen Mary Jones yn galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i mewn i helpu’r sawl nad ydyn nhw’n gymwys am gynllun Cadw Swyddi Llywodraeth San Steffan
Mae pobol sy’n methu bod yn rhan o Gynllun Cadw Swyddi Llywodraeth San Steffan yn gorfod “byw oddi ar gardiau credyd” i gadw dau ben llinyn ynghyd, meddai llefarydd economi Plaid Cymru.
Ddoe (dydd Mawrth, Mai 19), cyhoeddodd Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, estyniad i’r cynllun Cadw Swyddi mor fuan â dydd Iau (Mai 21) – ond gyda Llywodraeth San Steffan ond yn talu 60% o gyflogau gweithwyr yn hytrach nag 80%.
Dim incwm
Ond mae miliynau o bobol yn anghymwys am y gefnogaeth a dydyn nhw ddim chwaith yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol – sy’n eu gadael nhw heb incwm o gwbl.
Dangosodd arolwg diweddar gan yr Ymgyrch Seibiant Busnesau Newydd fod 83% o ymatebwyr heb fedru derbyn unrhyw gefnogaeth trwy Gredyd Cynhwysol.
Dywed Helen Mary Jones fod y sefyllfa’n “argyfyngus ac yn anghynaladwy”, ac mae’n rhybuddio Llywodraeth San Steffan i beidio â throi clust fyddar.
Mae’n galw arnyn nhw i roi “cefnogaeth hanfodol” i’r sawl sydd wedi cwympo drwy’r rhwyd.
Cardiau Credyd
Dyw James Horton o Ben-y-bont ddim yn gymwys am y Cynllun Cadw Swyddi.
Ar ôl iddo gychwyn swydd newydd cyn y dyddiad terfynol, roedd prosesau mewnol yn golygu nad oedd ar eu cyflogres mewn da bryd ac felly, does ganddo fe ddim incwm.
Er ei fod yn gwybod nad fe yw’r unig un, mae’n cyfaddef ei fod e a’i deulu yn byw oddi ar gardiau credyd, ac mae’n dweud “nad ydyn nhw’n gwybod am ba hyd y gall hyn bara”.
“Mae ’ngwraig a minnau yn dibynnu ar fy nghyflog i fyw,” meddai.
“Mae gyda ni forgais, plant, biliau a char i’w redeg.
“Mae hi’n weithiwr allweddol yn y Gwasanaeth Iechyd ac yn gorfod gweithio oriau hir.
“Rwy’n pryderu o ddifrif y bydd yn dal coronafeirws.”
Stori James yn “rhy gyffredin”
“Mae miloedd o aelwydydd Cymru yn disgyn trwy’r craciau yng Nghynllun Cadw Swyddi Coronafeirws Llywodraeth San Steffan a dydyn nhw ddim chwaith yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol,” meddai Helen Mary Jones.
“Heb iddyn nhw fod ar fai o gwbl, mae’r bobol hyn yn beryglus o agos at fethu talu eu rhent neu eu morgeisi.
“Mae storïau pobol fel James yn rhy gyffredin o lawer.
“Mae’r sefyllfa yn argyfyngus ac yn anghynaladwy.
“All pethau ddim mynd ymlaen fel hyn.
“Rhaid i Lywodraeth San Steffan weithredu nawr i roi cefnogaeth hanfodol i’r bobol hyn sydd wedi cwympo trwy’r rhwyd.
“Byddai troi clust fyddar yn greulon.
“Ond os methan nhw â gwneud hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r bwlch a rhoi ateb Cymreig i’r broblem hon.
“Profwch y gallwch chi sefyll dros Gymru a rhoi i’r bobol hyn y gobaith a’r gefnogaeth mae arnyn nhw ei angen ac y maen nhw yn ei haeddu.”