Mae un o swyddogion heddlu mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig wedi ei “ffieiddio” bod cynnydd sylweddol wedi bod mewn ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaeth brys yng Nghymru a Lloegr.

Dywed Martin Hewitt, Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC), y bydd heddluoedd yn defnyddio “grym llawn y gyfraith” er mwyn erlyn pobol am ymosod ar swyddogion heddlu, gweithwyr ambiwlans a chriwiau tân.

Daw ei sylwadau ar ôl i ffigyrau newydd ddangos bod y nifer o ymosodiadau mewn cyfnod pedair wythnos wedi codi bron i draean o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Mae’r ffigyrau ar ymosodiadau ar weithwyr yn cyferbynnu’n llwyr â’r darlun cyffredinol o ran troseddau yng Nghymru a Lloegr – gwelwyd gostyngiad o 7% mewn troseddau o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

“Rwyf wedi fy ffieiddio i weld cynnydd mewn ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaeth brys sydd ar y rheng flaen yn ein gwarchod, gan gynnwys rhag y feirws,” meddai Martin Hewitt.

Dirwyon coronafeirws wedi gostwng yn y mis diwethaf

Mae data ar wahân yn dangos bod 18,683 o hysbysiadau cosb benodedig wedi cael eu rhoi yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod pandemig y coronafeirwys, rhwng Mawrth 27 ac Awst 17.

Fodd bynnag, dim ond 46 o’r rhain gafodd eu rhoi yn y mis diwethaf.

Cafodd 38 o ddirwyon eu rhoi am beidio gwisgo mwgwd ar drafnidiaeth gyhoeddus, tra bod 8 wedi derbyn dirwy am beidio gwisgo mwgwd mewn siop – sy’n ofynnol yn Lloegr.