Mae golwg360 wedi cael cadarnhad fod Cyngor Tref Aberystwyth wedi rhoi cynnig ar Eglwys Gatholig Gwenffrewi i’w phrynu.

Dywedodd clerc y Cyngor fod “cynnig wedi cael ei wneud ers pythefnos bellach, ond rydym yn dal i ddisgwyl am ymateb”.

Ym mis Rhagfyr, roedd y Cyngor yn ystyried troi at y gyfraith i orfodi’r Eglwys Gatholig i drwsio a chynnal hen eglwys Gatholig y dref.

Roedden nhw wedi ysgrifennu at Archesgob Catholig Cymru, George Stack, yn mynegi gofid am “esgeulustod difrifol iawn” tros Eglwys Gatholig Gwenffrewi ar y Morfa Mawr.

Anghytuno

Roedd y Cyngor Tref yn anghytuno gyda barn yr Eglwys fod problemau mawr gyda chyflwr yr adeilad, gan olygu ei bod yn amhosib cael yswiriant arno.

“Mae arolygon diweddar, gan gynnwys rhai gan arolygwyr proffesiynol… wedi datgelu bod yr eglwys yn strwythurol-gadarn,” meddai’r llythyr sydd wedi ei lofnodi gan gyn Faeres Aberystwyth, Mari Turner.

“Fe wnaeth ymweliad â’r safle gan uwch-swyddog rheoli adeiladau Cyngor Ceredigion gadarnhau hyn, wrth iddo ddatgan nad oes yna resymau dilys dros gau yr eglwys ar sail iechyd a diogelwch.”

Pan gafodd Eglwys Santes Gwenffrewi ei chau yn 2012, roedd yr esgob ar y pryd, yr Esgob Burns, wedi honni nad oedd dewis wedi i Gynghrair Yswiriant yr Eglwys Gatholig ddatgan bod problemau mawr gyda’r adeilad ac y byddai angen llawer o waith i’w ddiogelu – gwerth £360,000.