Mae prif reoleiddiwr Ofqual wedi camu o’r neilltu yn dilyn yr helynt canlyniadau TGAU a Safon Uwch yn Lloegr.

Bydd Sally Collier yn cael ei holynu dros dro gan ei rhagflaenydd, y Fonesig Glenys Stacey.

Mewn datganiad, dywedodd Sally Collier y byddai’n “well i gam nesa’r broses ddyfarnu gael ei oruchwylio gan arweinyddiaeth newydd”.

Mae’n dilyn tro pedol Llywodraeth Prydain ynghylch y ffaith y byddai graddau myfywyr yn cael eu hasesu ar sail algorithm oedd fel pe bai’n gwella canlyniadau disgyblion o ysgolion bonedd.

Daeth penderfyniad yn ddiweddarach y byddai graddau’n cael eu dyfarnu yn ôl asesiadau athrawon.

Fe wnaeth defnyddio’r algorithm olygu bod nifer fawr o fyfyrwyr wedi gweld eu graddau’n cael eu gostwng.

Ymateb

Mewn datganiad, dywedodd Ofqual eu bod nhw’n “cefnogi” penderfynu Sally Collier i gamu o’r neilltu, gan “ddiolch iddi am ei harweiniad a’i gwasanaeth”.

Mae Gavin Williamson, Ysgrifennydd Addysg San Steffan sydd hefyd dan bwysau i ymddiswyddo, wedi diolch iddi hefyd am “ei hymrwymiad” a chroesawu penodiad dros dro y Fonesig Glenys Stacey.

Dywedodd y byddai ei adran “yn parhau i gydweithio’n agos ag arweinwyr Ofqual i sicrhau canlyniadau ac arholiadau teg i bobol ifanc”.

Mae’r Fonesig Glenys Stacey yn dychwelyd ar ôl pum mlynedd wrth y llyw rhwng 2011 a 2016, a bydd bwrdd rheoli newydd ac Ofsted yn ei chefnogi.

Mae disgwyl i gynrychiolwyr o Ofqual fynd gerbon pwyllgor seneddol ar Fedi 2, tra bydd Gavin Williamson yn cyflwyno tystiolaeth i’r pwyllgor ar Fedi 16.

Mae sawl undeb yn galw am ymddiswyddiad Gavin Williamson, gan ddweud ei fod e wedi gadael i Sally Collier ysgwyddo’r bai.