Mae Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn awyddus i glywed barn pobol am yr opsiynau ar gyfer y gwelliannau ar hyd yr A483 yn Wrecsam.

Yr A483 yw un o’r prif ffyrdd sy’n cysylltu’r gogledd â’r de, a’r gogledd â chanolbarth Lloegr.

Dywed Llywodraeth Cymru fod angen gwelliannau ar y ffordd er mwyn lleihau’r tagfeydd wrth y cyffyrdd ar hyd yr A483, yn ogystal â lleihau’r effaith ar economi Wrecsam a’r gogledd.

Mae cynigion ar gyfer y ffordd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a dogfen Symud Gogledd Cymru Ymlaen.

Bwriad y cynigion yw creu rhwydwaith trafnidiaeth ddibynadwy ar draws y rhanbarth ac ar draws ffin Cymru a Lloegr.

Mae’r opsiynau ar gyfer pob cyffordd yn cynnwys:

  • Cyffordd 3 (Ffordd Wrecsam): Mân-newidiadau i’r gyffordd bresennol i ymgorffori’r gwelliannau teithio llesol.
  • (Ffordd Rhuthun): Newidiadau mawr i’r gyffordd bresennol, gan gynnwys system gylchu newydd sy’n cadw trosbont yr A525 ac yn ymgorffori gwelliannau teithio llesol ar hyd yr A525 ar draws yr A483.
  • Cyffordd 5 (Cylchfan Plas Coch / Ffordd yr Wyddgrug): Gwelliannau teithio llesol.
  • Cyffordd 6 (A5156 / Cyfnewidfa Gresffordd): Mân-newidiadau i’r gyffordd bresennol i ymgorffori gwelliannau teithio llesol.

“Mae’r gwelliannau hyn ar y darn hwn o’r A483 yn angenrheidiol. O adael y ffordd fel y mae, byddai’n amharu ar dwf Wrecsam a rhanbarth y gogledd yn ei gyfanrwydd,” meddai Ken Skates.

“Rwy’n pwyso ar bawb sy’n defnyddio’r A483 yn ardal Wrecsam i ddweud eu dweud am y cynlluniau hyn sy’n hanfodol i’r rhanbarth.”

Dywed y Cynghorydd David A Bithell, Arweinydd dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth ei bod hi’n “bwysig bod y gwelliannau’n cael eu gwneud i leihau’r tagfeydd er lles yr ardal”.

“Byddan nhw hefyd yn gwella llwybrau Teithio Llesol yr ardal. Rhowch amser i gymryd rhan a mynegi’ch barn wrth Lywodraeth Cymru,” meddai.

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan Tachwedd 22 ac mae disgwyl cyhoeddiad ynghylch yr opsiynau yng ngwanwyn 2021.

Gallai’r gorchmynion drafft gael eu cyhoeddi’n hwyrach yn 2021 gyda’r gwaith dylunio’n cael ei wneud yn 2022.