Wrth gael ei holi ar BBC 5Live heddiw (dydd Gwener 10 Gorffeannaf), gwrthododd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, gadarnhau y byddai’n dilyn esiampl Llywodraeth y Deyrnas Unedig drwy roi seibiant toll stamp.

Dywedodd Mr Drakeford: “Dwi ddim yn meddwl am funud bod pobl yn tynnu allan o [brynu tai] oherwydd cyhoeddiad a wnaed ddydd Mercher.

“Mae gennym ni system fwy hael yng Nghymru yn barod.

“Nid fy swydd i yw copïo beth sy’n digwydd mewn mannau eraill… fy swydd i yw edrych beth yw’r peth iawn i wneud i Gymru.”

O ran pryd gall Cymru ddisgwyl cyhoeddiad, dywedodd Mr Drakeford: “Byddaf yn cwrdd a’r Gweinidog Cyllid yn nes ymlaen heddiw, fe edrychwn ni ar yr opsiynau.

“Byddwn yn gwneud hynny heddiw… ac fe wnawn ni gyhoeddiad pan ddown ni i gasgliad.”

Meysydd gwersylla’n cael ailagor

Datgelodd y Prif Weinidog ambell fanylyn arall o’i gyhoeddiad yn nes ymlaen heddiw (10 Gorffennaf) a fydd yn llacio’r cyfyngiadau ymhellach.

Bydd meysydd gwersylla’n gallu ailagor o 25 Gorffennaf.

Dywedodd Mr Drakeford: “Byddaf yn dweud heddiw y gall meysydd gwersylla ailagor o 25 Gorffennaf, cyhyd a bod ailagor llety hunangynhaliol wedi bod yn llwyddiant.

“Mae gan feysydd pebyll gyfleusterau a rennir […] felly mae angen inni sicrhau bod meysydd gwersylla’n barod ac yn ddiogel i’w hailagor. Mae ganddynt bythefnos nawr i baratoi ac yna ar y 25ain Gorffennaf, os bydd popeth yn iawn, gallant ailagor.”

Ond pwysleisiodd eto bod angen bod yn ofalus: “Mae’n bwysig ailagor yr economi os gallwn wneud hynny’n ddiogel. Os na allwch chi ddangos i’ch cwsmeriaid eich bod wedi gwneud popeth i’w cadw’n ddiogel, wnawn nhw ddim dod.”

Rhy araf?

Pan holwyd Mr Drakeford pam ei fod yn mynd yn arafach na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, dywedodd:

“Ein ffordd yw gwneud pethau’n ofalus, gam wrth gam. Mis yn ôl fe gafodd dinas Melbourne ddiwrnod heb un achos o’r coronafeirws, a phedair wythnos yn ddiweddarach mae 5 miliwn o bobol dan glo yno – mae cyfrifoldeb arnon ni gyd i gadw’n llygad ar y risgiau […] a gwneud newidiadau mewn ffordd sy’n caniatáu inni gadw llygaid ar bethau.”

A phwysleisiodd Mr Drakeford nad yw Cymru’n arafach ym mhob maes: “Rydyn ni’n gwneud rhai pethe’n gynt na gweddill y Deyrnas Unedig – ni yw’r unig ran o’r Deyrnas Unedig lle mae’n holl ysgolion ar agor, ac wedi bod ers pythefnos.”

Cydbwysedd

Holwyd a oedd o’r farn fod Llywodraeth Cymru wedi cael y cydbwysedd yn iawn rhwng tabio’r economi a gwarchod iechyd y cyhoedd, dywedodd:

“Cydbwyso yw hyn. Bydd gan wahanol bobl wahanol safbwyntiau. Rydyn ni’n hyderus ein bod yn gwneud pethau mewn ffordd sy’n mynd â’r bobl gyda ni. Mae pobl dal yn betrus am y risgiau o ailagor rhannau o’r economi.

Mae pobl yn bryderus, mewn rhai rhannau o Gymru, am dwristiaid yn ailymweld a nhwythau heb weld ymwelydd ers dros dri mis… felly mae angen gweithredu mewn ffordd sy’n mynd a’r cyhoedd gyda ni a thrwy lens iechyd cyhoeddus.”