Mae’r cwmni General Electric, sy’n cynhyrchu peiriannau i’r diwydiant awyrennau, wedi cyhoeddi ei fod am gael gwared ar 369 o swyddi yn Nantgarw ger Caerffili.
Daw yn wedi i 180 o weithwyr orfod gadael y cwmni eisoes ac mae’n golygu y bydd 550 o’r 1,400 o swyddi ar y safle’n cael eu colli.
Dywed y cwmni y gallai 13,000 o’r 52,000 o swyddi maen nhw’n eu cynnal ledled y byd fod yn y fantol yn sgil effaith economaidd pandemig y coronafeirws.
Mae’r Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates wedi ymateb, gan alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu a chefnogi’r diwydiant awyrofod.
“Mae cyhoeddiad heddiw’n ergyd ddifrifol arall i’r diwydiant awyrofod gan ddod mor fuan wedi’r cadarnhad am golli swyddi Airbus ym Mrychdyn,” meddai.
“Heb weithredu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae dyfodol y diwydiant awyrofod mewn perygl difrifol.
“Mae llywodraethau canolog eraill wedi symud yn chwim i ddiogelu eu diwydiannau, a rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud yr un peth i ddiogelu sector sydd yn hanfodol i’n heconomi”.
Ceidwadwyr Cymreig yn galw am gydweithio trawsbleidiol
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am gydweithio trawsbleidiol er mwyn “delio ag effaith hyn a nifer fawr o golledion swyddi diweddar yng Nghymru”.
“Mae’r diwydiant awyrofod, y meysydd awyr a’r rheini sy’n gweithio i gynhyrchu neu i gynnal a chadw awyrennau neu beiriannau, wedi gweld cwymp enfawr mewn galw,” meddai’r Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Cysgodol, Russell George.
“Ac mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn dangos yr effaith mae’r pandemig yn ei gael ar draws pob diwydiant, hyd yn oed rhai hanfodol a strategol megis GE MRO yng Nghymru.
“Rwyf yn adleisio’r hyn wnaeth fy nghydweithiwr Paul Davies, arweinydd yr wrthblaid yn Senedd Cymru, addo’r wythnos diwethaf, sef y bydd efo a’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud popeth yn ein gallu i ddelio ag effaith hyn a nifer fawr o golledion swyddi diweddar yng Nghymru, gan gynnwys gweithio’n drawsbleidiol gyda Llywodraeth Lafur Cymru”.