Mae elusennau wedi dod at ei gilydd i alw ar y Llywodraeth i ganiatáu i aelodau teulu dioddefwyr dementia gael eu trin fel gweithwyr allweddol.

Yn ôl y BBC, mae penaethiaid o elusennau megis Dementia UK a’r Gymdeithas Alzheimer’s wedi arwyddo llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol Matt Hancock.

Mae’r llythyr yn dadlau fod aelodau teuluol yn darparu gofal “allweddol” i ddioddefwyr dementia.

Daw hyn ychydig ddydiau ar ôl i Matt Hancock ddweud y byddai’r Llywodraeth yn cyhoeddi manylion ar sut y byddai ymweliadau cartrefi gofal yn gallu ailddechrau.

“Mae pobol wir eisiau gweld eu teulu ac mae preswylwyr cartrefi gofal yn cael gymaint allan o weld ymwelwyr,” meddai.

“Rwyf yn gobeithio y gallwn wneud newidiadau yn y diwrnodau nesaf.

“Rydym wedi bod yn ofalus iawn hyd yma, ac mae’n rhaid i ni gael hyn yn iawn”.