O heddiw ymlaen, gall twristiaid o Gymru ymweld â 73 o wledydd a thiriogaethau heb hunanynysu ar ddychwelyd ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei rhestr o ‘bontydd awyr’.

Mae’r rhestr yr un fath yn union â’r un a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer trigolion Lloegr.

Ymhlith y gwledydd a ganiateir mae Cyprus, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Sbaen, a gwledydd pellach, fel Awstralia. Golyga hyn, o heddiw (dydd Gwener 10 Gorffennaf) na fydd rhaid i deithwyr o’r gwledydd hyn fynd i mewn i gwarantin ar gyrraedd y Deyrnas Unedig.

Mae hefyd yn golygu, fel Lloegr, fod gwledydd megis China, Portiwgal, Gwlad Thai, y Maldives a’r Unol Daleithiau ymhlith y rhai amlwg sy’n absennol o’r rhestr.

Mewn datganiad i Senedd Cymru ddoe (dydd Iau 9 Gorffennaf), dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai’r rheoliadau newydd yn gymwys o ddydd Gwener Gorffennaf 10.

Dywedodd: “Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am reoli ffiniau’r Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru, drwy gydol y broses hon, wedi ceisio bod yn adeiladol wrth alluogi Llywodraeth y DU i gyflawni ei hamcanion polisi.

“Mae Llywodraeth y DU wedi rhannu ei methodoleg gyda ni ac mae hyn wedi’i adolygu gan y Prif Swyddog Meddygol.”