Mae Bro360 yn gynllun gan gwmni Golwg i greu rhwydwaith o wefannau bro. Mae’r tîm wedi cydweithio â chymunedau yn Arfon a Cheredigion i greu chwech o wefannau bro – y lle ar y we i’r lleisiau lleol. Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol am eu milltir sgwâr tros yr wythnos ddiwethaf…

***

Fideo pwerus am barchu ein gwlad annwyl

“Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi. Yndy, ‘de? Ardal mor hardd â hyn, ac mae pobol yn dal i poliwtio’r amgylchedd?”

Mae Adam yn treulio oriau’n glanhau sbwriel pobol eraill o’n ffyrdd yn Nyffryn Ogwen. Ar ôl cael llond bol, fe grëodd y fideo yma yn holi am help pawb sy’n meddwl y byd o’u gwlad…

Gwylio: Ogwen360.cymru

***

Colli gweinidog amryddawn

Ddydd Llun, torrodd stori ar Clonc360 a oedd yn sioc i bawb yn ardal Llanbed, sef bod y gweinidog Alun Wyn Dafis wedi marw yn 59 oed.

“Roedd yn uchel iawn ei barch gan yr aelodau yng nghapel Brondeifi. Cyflwynodd arddull gyfoes i’w wasanaethau a sefydlodd fand lle’r oedd ef yn canu’r allweddellau.”

Darllen mwy: Clonc360.cymru

***

Edrych nôl ar bedwar diwrnod rhyfeddol i Nantlle Vale

“Yn y dyddiau dyrys di-ffwtbol hyn, efo pawb yn gorfod bodloni ar weld gemau heb gefnogwyr neu hen gemau digon diflas o’r archif, beth am droi’r cloc yn ôl chwe deg mlynedd union, a chanolbwyntio ar un cyfnod o bedwar diwrnod hollol ryfeddol yn hanes Clwb y Vale!”

Ieu Parry a Begw Elain sy’n mynd â ni nôl i dymor 1959-60, pan orffennodd Clwb Pêl-droed Nantlle Vale y tymor â thair gêm anferth…

Darllen mwy: DyffrynNantlle360.cymru

***

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Rhaid gwarchod enwau lleoedd gan Ieuan Wyn ar Ogwen360
  2. Dan gysgod mynydd Epynt gan Elin Mabbutt ar BroAber360
  3. Rheolwr Penparcau yn ennill gwobr y Gymdeithas Bêl-droed gan Mererid Boswell ar BroAber360

***

Papurau bro ar-lein

Yn ogystal â’r gwefannau bro, mae Bro360 yn cynnig lle i bapurau bro gyhoeddi ar-lein yn ystod y pandemig.