Bydd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn cyhoeddi rhagor o lacio rheolau yn ddiweddarach heddiw.

Mewn cynhadledd i’r wasg, mi fydd yn cadarnhau bod tafarndai, caffis, a bwyti yn cael gweini pobol y tu allan o dydd Llun (Gorffennaf 13) ymlaen.

Mi fydd hefyd yn cadarnhau bod trinwyr gwallt, barbwyr a siopau trin gwallt symudol yn cael ailagor drwy apwyntiad ar yr un diwrnod.

Mae disgwyl ambell gyhoeddiad newydd hefyd. Mi fydd yn datgan bod meysydd chwarae a chanolfannau cymunedol yn agor o Orffennaf 20 ymlaen.

Ac mi fydd yn galw ar i’r diwydiant harddwch – busnesau tatŵs ac ati – yn cael eu cynghori i ddechrau paratoi i ailagor ar Orffennaf 27.

Llacio rheolau

Daw hyn oll yn sgil llacio’r cyfyngiadau teithio ar ddechrau’r wythnos. Bellach mae gan bobol rhwydd hynt i deithio lle y mynnan nhw oddi fewn i’r wlad.

Roedd Mark Drakeford eisoes wedi cyhoeddi llacio’r rheolau i dafarndai a thrinwyr gwallt, ond roedd hynny’n amodol ar sefyllfa’r argyfwng. Yn ddiweddarach, bydd yn dweud bod y sefyllfa’n foddhaol.