Ym mis Mai 2012, perfformiais yn Lloegr am y tro cyntaf. Gig bach mewn tafarn ym Mryste – des i’n ffrindiau cynnes gyda threfnydd y gig hyd heddiw, ac roedd hi’n ddiddorol gweld y gwahaniaeth rhwng y gig a pherfformio yng Nghymru.
Yng Nghymru, mae cynulledifaoedd yn fy ngweld i fel un ohonyn nhw. Ar y cyfan, beth bynnag. Efallai bod gigs y gorllewin yn fy ngweld i’n wahanol. Ac yn y gogledd hefyd, mae’n siŵr – gan siomi ochr Mam y teulu! Ond hyd yn oed yn y rhannau o Gymru sydd bellaf o fy nghartref yn Abertawe, mae ganddon ni ryw ddealltwriaeth, ryw hunaniaeth yn gyffredin.
Yn Lloegr, mae’n gallu fy synnu cyn lleied mae pobol yn ei wybod am Gymru.
Dyma enghraifft. Fis yn ôl, gwnes i gig yng Nghasnewydd gyda digrifwr gwleidyddol. Rhywun profiadol dros ben – mae hi’n ymddangos yn gyson yn y cyfryngau Saesneg, yn llawn gwybodaeth am bob math o faterion gwleidyddol cyfoes.
Yn ystod y gig, daeth hecl! Rhywun yn y cefn yn gweiddi jôc – rhywbeth am Mark Drakeford, ac arwyddion 20 milltir yr awr. A doedd y perfformiwr ddim yn gyfarwydd â’r mater o gwbwl. Mwy na hynny, doedd hi ddim yn nabod enw Mark Drakeford! Dyma rywun gwybodus, deallus ar y cyfan – yn teithio i Gymru heb wybod enw’r Prif Weinidog.
Mae’n bwysig i ddigrifwyr ddeall y gynulleidfa. Mae’n bwysig i mi wybod, wrth wneud gigs yn Lloegr, sut berfformiodd Lloegr yn y pêl-droed rai oriau cyn y gig. Mae’n anodd ennyn parch y gynulleidfa heb ddangos parch atyn nhw.
Ond unochrog yw’r berthynas hon. Does dim disgwyl i’r gynulleidfa wybod dim am gefndir y perfformiwr. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod yn ddiddorol gweld faint mae pobol yn ei wybod am Gymru – a faint ’dyn nhw ddim!
Yng Ngŵyl Caeredin yn 2018, gwnaeth fy sioe ddenu llawer o bobol ryngwladol. Dim syniad pam! Amhosib gwybod pa gyfuniad o ffactorau sy’n denu’r bobol sy’n dod.
Ond weithiau, ro’n i’n perfformio i ystafell lawn, gyda neb ohonyn nhw wedi CLYWED am Gymru, heb sôn am wybod dim am y wlad.
Ond mae pethau’n newid. Diddorol yw siarad â digrifwyr mwy profiadol, sy’n cofio cyfnod lle byddai cynulleidfoedd yn Lloegr yn dynwared sŵn dafad os byddai act o Gymru ar y llwyfan. Anaml iawn, iawn mae hynny wedi digwydd i fi. Tybed ydy’r hen ystrydeb yn dechrau diflannu?
Efallai ddim. Mewn gwirionedd, rwy’n credu mai’r rheswm pam fod digrifwyr o Gymru yn derbyn mwy o barch bellach yw oherwydd bod digrifwyr o Gymru wedi bod mor llwyddiannus yn perfformio’n Saesneg. Mae pawb yn gyfarwydd â Rhod Gilbert, digonedd yn gyfarwydd ag Elis James. Bellach, mae pobol wedi arfer â gwrando ar Gymry’n siarad mewn ffordd ddoniol am eu profiadau a’u safbwyntiau. Anodd yw glynu at hen ystrydeb ar ôl clywed am realiti bywydau pobol o Gymru gyfoes.
Rwy’n cofio’r sioc ges i wrth ddysgu bod cyfnitherod fy ngwraig, er eu bod wedi’u geni a’u magu yn Llundain, wrth eu boddau â chyfres Gavin and Stacey. Nid ym maes standyp yn unig y daeth y byd i ddysgu am bobol ddoniol o Gymru, â’u cysylltiad â Chymru’n amlwg. Gyda pherfformwyr fel Ruth Jones a Rob Brydon – a Margaret John a Steffan Rhodri! Perfformwyr gwych, amrywiol.
A dyna sy’n gyffrous. Erbyn i fi ddechrau perfformio, roedd enw gan Gymru fel gwlad sy’n cynhyrchu comedi o ddiddordeb rhyngwladol. Ac nid comedi’n unig, wrth gwrs – gyda Doctor Who yn llwyddiant byd-eang, ac yn cael ei chynhyrchu yng Nghaerdydd, a hynny wedi arwain at fwy o fuddsoddiad yn y diwydiant ffilm a theledu yma.
Mae hynny’n beth hyfryd i fi. Ro’n i’n ffan mawr o Doctor Who cyn i’r rhaglen ddod i Gymru, a gwych oedd clywed mewn adroddiad newydd bod y gyfres wedi cyfrannu £134.6m at economi’r wlad rhwng 2004 a 2021. Yn aml ar ôl gigs, bydd pobol o dramor yn dweud eu bod yn gyfarwydd â Chaerdydd fel lleoliad ffilmio’r gyfres – a rhai hyd yn oed wedi teithio i Gymru yn unswydd i weld rhai o’r lleoliadau enwocaf!
Gyda Doctor Who yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed, mae llawer wedi trafod y ffaith fod y penodau diweddaraf yn gyfle i weld pobol o gefndiroedd gwahanol ar y teledu – gan gynnwys pobol LHDT+, yn enwedig pobol draws, gydag actor du wedi’i gastio ym mhrif ran y Doctor i ddechrau cyn bo hir.
Digon gwir – a gwerth cofio yn hyn i gyd fod y gyfres yn dal i ddenu sylw cadarnhaol iawn i Gymru ei hun. Rwy’n barod iawn i ymuno yn y dathlu – ond rwy’n dal i edrych ymlaen yn fawr i weld pryd welwn ni actor o Gymru yn y brif rôl o’r diwedd. A beth am roi cynnig i berfformiwr o Abertawe o’r enw Steffan?
… Steffan Rhodri, wrth gwrs.