Mae Ffion Dafis, Beti George, Ali Yassine a’r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones wedi cydweithio gyda ffotograffydd adnabyddus ar lyfr newydd am y brifddinas…

Rhoi’r awenau i’r ddinas arwain y ffordd wnaeth ffotograffydd er mwyn creu cyfrol newydd sy’n darlunio Caerdydd.

Enaid y Ddinas yw’r ddiweddaraf yng nghyfres Richard Outram o lyfrau sy’n portreadu ardaloedd arbennig o Gymru drwy air a llun.