Dr Huw Williams, Uwch-ddarlithydd Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yw enillydd Gwobr Gwerddon eleni. Isod, fe geir fersiwn gryno o’r erthygl fuddugol, ac mae hi’n rhoi sylw arbennig i rai o’r trafodaethau ynghylch ymyrraeth filwrol, y syniad o ymyrraeth ddyngarol, a’r cwestiynau moesol o gwmpas y weithred.

*

Damcaniaeth ym maes gwleidyddiaeth yw athrawiaeth rhyfel cyfiawn a gellir olrhain ei gwreiddiau mor bell yn ôl ag athroniaeth ei hun, a ddaeth wedyn dan gryn ddylanwad y meddwl Cristnogol yng ngwaith Awstin Sant a Sant Tomos o Acwin. Daeth y cysyniad i’r amlwg mewn modd pwysig iawn yn ail hanner yr ugeinfed ganrif wrth i rai yn yr Unol Daleithiau geisio beirniadu’r rhyfel yn Fietnam tra’n cefnogi hawl yr Israeliaid, er enghraifft, i amddiffyn ei hunain.  Pwysig iddynt hwythau oedd gallu datgan bod un math o ryfel yn anghyfiawn, a math arall yn gyfiawn.

Yna, yn y nawdegau wrth i bwerau’r gorllewin cymryd lle blaenllaw yng ngwleidyddiaeth ryngwladol wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd, a cheisio ymestyn eu grym a dylanwad, dyma rai yn benthyg y cysyniad o ‘ryfel cyfiawn’ i’w cymhwyso i frwydro mewn gwledydd eraill ar sail dyngarol.  Dyma gysyniad felly a ddefnyddiwyd i amddiffyn yr hawl i ymyrryd mewn gwledydd megis Iraq, er mwyn gwarchod unigolion o fewn y gwledydd rheiny.  Yn wir, roedd yr honiad bod rhyfela o’r fath yn mynd i arwain at sefydlu democratiaethau – byddai’n parchu iawnderau dynol – yn rhan mawr o’r cyfiawnhad cyhoeddus dros y penderfyniadau yna.

Y mae modd cwestiynnu’r meddylfryd yma, ac mae angen ei gwestiynnu, ar sawl wedd.  Yn bennaf, y mae’r cysyniad o ‘ryfel cyfiawn’ yn un sy’n gallu cael ei gamddefnyddio’n llawer rhy parod gan rai wledydd er mwyn dilysu rhyfel a thollti gwaed.  Nid beirniadaeth newydd mo hon, yn wir roedd un athronwyr yr Oleuedigaeth, Immanuel Kant, wedi rhybuddio am hyn nol tua diwedd y 18fed ganrif.

Athronydd o’r 20fed ganrif a ysbrydolwyd gan Kant oedd yr Americanwr John Rawls, ac er nad oedd yn heddychwr traddodiadol, mae modd edrych ar ei ymdriniaeth o’r pynciau yma er mwyn amlygu safbwynt llawer mwy gofalus a sinicaidd tuag at ryfel.  I raddau roedd Rawls yn ysgrifennu o’r galon ar y materion yma, gan ei fod yntau wedi brwydro yn yr ail ryfel byd, colli cyfoedion, a derbyn gymaint o ysgytwad nes iddo droi ei gefn ar yr Eglwys, a throi at athroniaeth yn lle.

Yn ddiddorol digon, ac yn wahanol i Kant, mae Rawls yn derbyn bod yna fath beth a rhyfel cyfiawn – sef rhyfel amddiffynol pan mae gwlad yn adweithio i ymosodiad gan wlad arall.  Ond, i Rawls mae’r syniad o ryfel cyfiawn yn un ‘amodol’; yn hytrach na bod rhyfel cyfiawn yn rhywbeth dylem ni ystyried yn rhan parhaol o’n cyfraith ryngwladol ac yn fater o gyfiawnder yn yr un modd a thegwch a chydraddoldeb gweder, mae’n rheol dros dro sy’n bodoli tra’n bod ni’n datblygu tuag at gymdeithas rynglwadol gyfiawn.  Disgrifir ei athrawiaeth ar ryfel cyfiawn felly fel un o gyfiawnder dros-dro, ac un sydd wedi ei nodweddi ymhellach gan y nod ac egwyddor  o sefydlu heddwch yn y dyfodol, mewn cymdeithas fyd-eang o bobloedd gydweithredol.

Amlygir natur unigryw a phwysig y persbectif hwn trwy ei gymhwyso i’r broblem o ymyrraeth ddyngarol, ac hynny mewn modd sy’n beirniadu’r tueddiad mwy diweddar i honni fod ymyrraeth o’r fath yn gallu bod yn gyfiawn a dyngarol.  Yn wir, yn y cyswllt hwn mae modd dweud bod Rawls yn gwrthod y syniad bod ymyrraeth o’r fath yn gallu cyfri fel rhyfel cyfiawn o unrhyw fath.  Heb son am y ffaith bod rhyfela o’r fath yn cael ei arwain gan wledydd nad ydynt eu hunain dan unrhyw fygythiad, mae’r sefyllfaoedd yma’n aml yn rhai dyrys, cymhleth, lle nad yw’n bosib inni allu llawn deall yr union amodau.  Mewn sefyllfa o’r fath, amheus iawn yw’r posibiliad ein bod ni’n gallu adnabod yr hyn sy’n ‘gyfiawn’.

Lle mae’n bosib bod yn sicr y bydd ymyrraeth yn arwain at ganlyniad positif, a lle bod hynny’n gyson gyda’r nod o heddwch parhaol, mae’n bosib datgan bod Rawls yn cynnig syniad o ‘ryfel cyfiawnadwy’, yn hytrach na rhyfel cyfiawn. Hynny yw, dyma ymyrraeth arfog sydd modd ei gyfiawnhau’n ymarferol ac yn foesol dderbyniol, oherwydd mae sicrwydd o lwyddiant, a’r llwybr at heddwch yn amlwg. Ond nid gweithred ‘cyfiawn’ mo hwn yn yr ystyr o beth cwbl da a theg, ond yn hytrach gweithred sy’n foesol amwys a phroblematig, ond sydd a modd ei gyfiawnhau’n gyhoeddus yn rhannol oherwydd yr addewid o lwyddiant.

Yn ymarferol, wrth gwrs, prin iawn os o gwbl y mae sefyllfaoedd o’r fath yn bodoli, a phe bai ni’n byw mewn byd lle byddai egwyddor o’r fath yma yn rheolaethu yn y sffer rynglwladol, yn hytrach na’r arferion rydym wedi gweld yn datblygu dros y degawdau diwethaf, mae’n ddigon posib na fyddem yn gweld gymaint o ymosodiadau, trais na lladd. Yn sicr mae’r drafodaeth a syniadau ehangach Rawls ar wleidyddiaeth ryngwladol a diplomyddiaeth yn codi pob math o gwestiynau ynghylch y modd y mae gwledydd pwerus y Gorllewin yn benodol yn ymdrin gyda chyd-aelodau’r gymdeithas ryngwladol – cwestiynau sy’n arbennig o berthnasol i faterion eraill lle mae materion o gyfiawnder yn codi, megis iechyd byd-eang a’r argyfwng hinsawdd.

Erthygl yn trafod ymyrraeth filwrol ddyngarol yn cipio Gwobr Gwerddon eleni

Dr Huw Williams, Uwch-ddarlithydd Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dod i’r brig yn un o wobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol