Mae disgwyl y bydd cynnydd yn nifer yr oedolion hŷn yng Nghymru ac mae tystiolaeth y bydd niferoedd pobl â dementia yn cynyddu hefyd. Yn ôl Hanna Thomas, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe, mae’r ddau ffactor yn cynyddu’r galw am asesiadau gwybyddol yn newis iaith pobl. Mae hi’n cynnal astudiaeth ac yn gofyn am wirfoddolwyr i gymryd rhan.

*

Cyflwyniad

Mae Cymru yn heneiddio ar gyfradd uwch na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig (Phillips & Burholt, 2007). Roedd 18% o’r boblogaeth dros 65 mlwydd oed yn 2008, a disgwylir iddo gynyddu i 26% erbyn 2033 (Baxter & Boyce, 2011)

Mae cyfraddau dementia hefyd yn cynyddu’n gyflym ac amcangyfrifwyd y bydd yn effeithio ar 79,700 o bobl yng Nghymru erbyn 2040, sy’n gynnydd o 74% ar ffigwr 2019 (Wittenberg et al, 2019). O ganlyniad i’r boblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd amlder dementia (Ponjoan et al, 2019), mae nifer y Cymry Cymraeg sy’n dioddef o glefyd Alzheimer yn debygol o gynyddu. Felly, mae’r gallu i ganfod y cyflwr yn gynnar yn hanfodol i glinigwyr i sicrhau bod yr ymyriadau a’r gefnogaeth ofynnol yn cael eu sefydlu a’u gweithredu mewn modd amserol ac effeithlon (Yoshida et al, 2011).

Yn aml, mae symptomau cynnar clefyd Alzheimer yn cael eu drysu gyda chlefydau eraill sy’n gallu arwain at gam-ddiagnosis (Bluvshtein, 2004). Mae hyn yn cael ei ddrysu ymhellach pan nad yw unigolion yn cael y cyfle i gyfleu eu symptomau neu fynegi eu teimladau yn eu hiaith o ddewis (Braun et al, 1996). Mae’r ffaith nad oes gan rai unigolion fel y Cymry Cymraeg fynediad at asesiadau gwybyddol priodol sy’n sensitif i iaith a diwylliant yn achos arall o bryder (Chou et al, 2002).

Mae awydd cynyddol yng Nghymru am fynediad at brofion gwybyddol trwy gyfrwng y Gymraeg (Welsh Language Commissioner, 2012; Older People’s Commissioner for Wales, 2016). Fodd bynnag, er gwaethaf y galw yma, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion sy’n siarad Cymraeg yn cael mynediad at wasanaethau trwy gyfwng y Gymraeg (Llywodraeth Cymru, 2015),  â’r ddealltwriaeth bod iaith a diwylliant yn chwarae rhan bwysig ym mywydau oedolion hŷn (Braun et al, 1995; Mueller et al, 2016), yn anaml y mae asesiadau priodol ar gael.

Mae’n hysbys hefyd bod iaith yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad clefyd Alzheimer. Mae hyn yn bwysig oherwydd y gall diffyg asesiadau priodol arwain at effeithiau amrywiol; yn dibynnu ar gyfnod y clefyd.  Er enghraifft, yng nghyfnod cynnar y clefyd, mae cleifion weithiau yn ei chael hi’n heriol i ddod o hyd i’r geiriau cywir mewn sgwrs neu mewn tasg sy’n gofyn iddynt gynhyrchu rhestr o eiriau sy’n perthyn i gategori penodol (Nicholas et al, 1985).

Erbyn y cyfnod canol, agweddau cynhyrchu a deall iaith sy’n dod yn fwy heriol; ac, erbyn cyfnod olaf y clefyd, mae cynhyrchu lleferydd yn medru dod yn annirnadwy ac mae’n bosib na fydd cleifion yn cymdeithasu drwy gyfathrebu (Kempler, 1995).

Y neges allweddol yma yw ei bod hi’n debygol bod rhwystro cyfathrebu trwy beidio â chaniatáu i unigolion ‘ddewis’ eu hiaith mewn asesiad gwybyddol yn ychwanegu at anawsterau a phryder cleifion yn ystod eu dirywiad gwybyddol.

I atgyfnerthu pwysigrwydd yr angen am asesiadau priodol, mae perfformiad unigolion dwyieithog yn yr asesiadau yma yn gallu cael ei rwystro os nad yw’r prawf yn cael ei weinyddu yn eu hiaith o ddewis – neu, mae’n bosib na fydd eu perfformiad yn adlewyrchu gwir allu’r unigolyn os na chaiff yr asesiad ei gwblhau yn ei h/iaith o ddewis (Escobar et al, 1986).

Beth yw’r sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd?

Caiff asesiadau gwybyddol yng Nghymru eu cynnal trwy gyfrwng Saesneg. Fel rheol, mae hyn yn digwydd oherwydd diffyg asesiadau priodol yn Gymraeg; ond hefyd mae’r mwyafrif o siaradwyr Cymraeg yn rhugl yn Saesneg ac felly mae’n bosib bod clinigwyr yn tybio ei bod hi’n briodol i asesu gallu unigolyn Cymraeg trwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Fodd bynnag, mae hyn yn anghywir am sawl rheswm.

I ddechrau, nid yw’r dybiaeth hon yn cydymffurfio â ‘Safon 78’ o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018, sy’n nodi’r pwyntiau sy’n ofynnol i’w hystyried wrth wneud penderfyniadau a chreu polisïau mewn perthynas â darparu gwasanaeth gofal sylfaenol. Er enghraifft, mae’r ‘Safon’ yn nodi bod angen ystyried yr effeithiau y byddai penderfyniadau yn cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg, ac i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg (Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7), 2018).

Yn ogystal, mae’n debygol fod cynnal asesiad Saesneg gydag unigolyn sy’n byw drwy gyfrwng y Gymraeg yn ei roi/rhoi o dan anfantais. Er enghraifft, gall siaradwr Cymraeg fod yn llai hyderus wrth siarad Saesneg ac wrth orfod cyfieithu’r cyfarwyddiadau (yn eu meddwl) i ddeall y dasg cyn rhoi ateb yn Saesneg (Morgan & Crowder, 2003).

Mae’n bwysig ystyried hyn am ddau reswm. Yn gyntaf, gallai unigolion o’r fath gymryd mwy o amser i brosesu a deall cyfarwyddiadau’r dasg; ac o ganlyniad, gynnig ateb yn arafach (oherwydd cyfieithu a phrosesu’r cyfarwyddiadau).

Yn ail, mae’r pwynt diwethaf yn arbennig o bwysig i’w ystyried yng nghyd-destun tasgau wedi’u hamseru, neu’r rheiny sy’n defnyddio amser ymateb (reaction time) yn fesur o berfformiad a gallu gwybyddol (Morgan & Crowder, 2003).

Mae canlyniad y problemau yma yn golygu bod yna risg na fydd sgoriau’r cyfranogwyr yn arwydd dibynadwy o’u perfformiad, ac o bosib yn amcangyfrif eu gallu yn rhy isel. Mewn achosion eithafol, gallai hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng sgôr normal ac annormal neu rhwng presenoldeb neu absenoldeb nam gwybyddol posibl, gyda goblygiadau difrifol ar gyfer gofal iechyd, ymyriadau a chefnogaeth ddilynol.

Iaith yn ychwanegu at bryder cleifion

Mae’n bwysig nodi hefyd bod effeithiau’r anallu yma i gyfathrebu drwy gyfrwng dewisol yr unigolyn yn mynd y tu hwnt i effeithiau posibl ar broffil gwybyddol.

Yn amlwg, mae cwblhau asesiad gwybyddol yn medru ysgogi teimladau o straen/pryder i gleifion beth bynnag, cyn ystyried yr heriau ychwanegol y mae iaith yn eu peri. Mae’r pryder yma sydd ynghlwm â phrofion o’r fath (test anxiety) yn gysylltiedig â pherfformiad gwael yn yr asesiadau (Dorenkamp & Vik, 2018). Felly, mae ychwanegu straen a phryder pellach drwy gynnal asesiad mewn iaith nad yw’n ddewis cyntaf i’r claf, yn mynd i waethygu’r her i gleifion.

Beth sydd ei angen?

O ystyried bod problemau ieithyddol yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad clefyd Alzheimer, a’r ffaith fod dwyieithrwydd mor gymhleth ei natur, mae yna angen mawr am asesiadau gwybyddol sy’n sensitif i brofiadau gwybyddol unigolion dwyieithog (Bluvshtein, 2004).

Mae’n amlwg o’r llenyddiaeth bod unigolion yn medru perfformio’n wahanol mewn asesiadau gwybyddol yn dibynnu a yw’r asesiad yn cael ei gynnal yn eu hiaith o ddewis neu beidio. O ganlyniad, mae’n hanfodol bod unigolion yn cael mynediad at asesiadau gwybyddol yn eu hiaith o ddewis fel nad yw eu galluoedd gwybyddol yn cael eu camfarnu ac er mwyn atal unrhyw ymchwiliadau pellach diangen.

Bwriad yr astudiaeth

Wrth ystyried yr uchod, nod yr astudiaeth yw dilysu dau asesiad clinigol niworseicolegol at ddibenion profi siaradwyr Cymraeg (dwyieithog). Mae’r astudiaeth yn ceisio darganfod a fyddai siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn sgorio’n wahanol wrth gael eu hasesu yn Gymraeg ac yn Saesneg mewn dau asesiad gwybyddol (Archwiliad Gwybyddol Addenbrooke – ACE-III a’r Batri Amlroddadwy ar gyfer Asesiad o Statws Niwroseicolegol – BAASN).

Yn benodol, mae’r astudiaeth yn ceisio darganfod a fyddai’r rhai sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf yn perfformio’n well yn yr asesiadau pan weinyddir hwy yn eu hiaith frodorol (Cymraeg).

Sylwer: Gall y rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr ymchwil gysylltu â’r ymchwilydd Hanna Thomas dros e-bost i gael mwy o wybodaeth: danc@swansea.ac.uk

Cyfeirnodau

Baxter, J. & Boyce, S. (2011). The ageing population in Wales. https://senedd.wales/NAfW%20Documents/ki-020.pdf%20-%2003112011/ki-020-English.pdf

Bluvshtein, M. (2004). Repeatable battery for the assessment of neuropsychological status (RBANS): Russian language adaptation (Traethawd PhD, Prifysgol Capella).

Braun, K. L., Takamura, J. C., & Mougeot, T. (1996). Perceptions of dementia, caregiving, and help-seeking among recent Vietnamese immigrants. Journal of Cross-Cultural Gerontology, 11(3), 213-228.

Braun, K. L., Takamura, J. C., Forman, S. M., Sasaki, P. A., & Meininger, L. (1995). Developing and testing outreach materials on Alzheimer’s disease for Asian and Pacific Islander Americans. The Gerontologist, 35(1), 122-126.

Chou, K. R., Jiann-Chyun, L., & Chu, H. (2002). The reliability and validity of the Chinese version of the caregiver burden inventory. Nursing research, 51(5), 324-331.

Dorenkamp, M. A., & Vik, P. (2018). Neuropsychological assessment anxiety: A systematic review. Practice Innovations, 3(3), 192.

Escobar, J. I., Burnam, A., Karno, M., Forsythe, A., Landsverk, J., & Golding, J. M. (1986). Use of the Mini-Mental State Examination (MMSE) in a community population of mixed ethnicity: Cultural and linguistic artifacts. Journal of Nervous and Mental Disease, 174(10), 607–614

Kempler, D. (1995). Language changes in dementia of the Alzheimer type. Dementia and communication, 98-114.

Llywodraeth Cymru. (2015). Safonau Iechyd a Gofal. https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-05/safonau-iechyd-a-gofal-ebrill-2015.pdf

Morgan, T., & Crowder, R. (2003). Mini Mental State Examinations in English: are they suitable for people with dementia who are Welsh speaking? Dementia, 2(2), 267-272.

Mueller, K. D., Koscik, R. L., Turkstra, L. S., Riedeman, S. K., LaRue, A., Clark, L. R., … & Johnson, S. C. (2016). Connected language in late middle-aged adults at risk for Alzheimer’s disease. Journal of Alzheimer’s Disease, 54(4), 1539-1550.

Nicholas, M., Obler, L. K., Albert, M. L., & Helm-Estabrooks, N. (1985). Empty speech in Alzheimer’s disease and fluent aphasia. Journal of Speech, Language, and Hearing Research, 28(3), 405-410.

Older People’s Commissioner for Wales. (2016). Dementia: More than just memory loss. http://www.olderpeoplewales.com/Libraries/Uploads/More_Than_Just_Memory_Loss.sflb.ashx.

Phillips, J., & Burholt, V. (2007). Ageing in Wales: policy responses to an ageing population. Contemporary Wales, 19(1), 180-197.

Ponjoan, A., Garre-Olmo, J., Blanch, J., Fages, E., Alves-Cabratosa, L., Martí-Lluch, R., … & Ramos, R. (2019). Epidemiology of dementia: prevalence and incidence estimates using validated electronic health records from primary care. Clinical epidemiology, 11, 217.

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018. (2018). https://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/441/made/welsh

Welsh Language Commissioner. (2012). My Language, My Health: The Welsh Language Commissioner’s Inquiry into the Welsh Language in Primary Care.  http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/English/Publications%20List/Health%20inquiry%20full%20report.pdf

Wittenberg, R., Hu, B., Barraza-Araiza, L., & Rehill, A. (2019). Projections of older people with dementia and costs of dementia care in the United Kingdom, 2019–2040. Care Policy and Evaluation Centre, London School of Economics and Political Sciences.  https://www.alzheimers.org.uk/sites/default/files/2019-11/cpec_report_november_2019.pdf

Yoshida, H., Terada, S., Honda, H., Ata, T., Takeda, N., Kishimoto, Y., … & Kuroda, S. (2011). Validation of Addenbrooke’s cognitive examination for detecting early dementia in a Japanese population. Psychiatry research, 185(1-2), 211-214.

*

  • Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon – www.gwerddon.cymru – i bori ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.