Cadi Mair Williams, myfyrwraig PhD Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, sy’n trafod elfen ddadleuol sy’n codi yn ei hymchwil ‘Diffinio hunaniaeth greadigol y Cymry Cymraeg ym myd adloniant Cymru yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf.’
*
‘Gwlad y gân…’ dyma ymadrodd a glywir yn aml wrth ddisgrifio Cymru. Ond pam yr ydym ni’r Cymry’n cael ein cyfrif yn genedl gerddorol ac yn un greadigol? Bwriad yr astudiaeth hon yn ei chyfanrwydd yw mynd o dan groen creadigrwydd y Cymry Cymraeg, gan archwilio effaith ffactorau amgylcheddol a diwylliannol ar greadigrwydd, gan gynnwys yr iaith, yr Eisteddfod ac S4C, er enghraifft.
‘Creadigrwydd’
Mae ‘creadigrwydd’ yn derm cyffredin iawn sy’n cael ei ddefnyddio mewn geirfa bob dydd. Ond, pan mae’n dod i geisio diffinio’r gair, mae’n llawer anoddach na’r disgwyl! Caiff hyn ei adlewyrchu gan waith llawer iawn o ysgolheigion sy’n holi ‘beth yw gwir ystyr y term?’ Dywedodd Thomas Reeves a Richard Clarke mewn erthygl nôl yn 1977: ‘The first problem faced by all researchers in this area has been defining “creativity.” Despite the wealth of research in recent years, the problem remains unresolved and scores of different definitions exist’ (Reeves & Clark, 1977, t.57).
Un cwestiwn arall sydd yn ymddangos yn aml wrth drafod ystyr creadigrwydd yw: ‘I ba raddau mae presenoldeb cynulleidfa yn fodd i greadigrwydd ddigwydd?’ Gwelir bod rhaniad clir ymysg ysgolheigion yn y ddadl hon.
Creadigrwydd Personol neu Greadigrwydd Cymdeithasol?
Ar un llaw, pwysleisia rhai bod creadigrwydd yn weithred rhwng y crëwr â’r gynulleidfa. Nid yw’n ddigonol cael syniad creadigol yn unig – mae angen cymeradwyaeth cynulleidfa, boed yn dorf o bobl, neu’n un person. Yn ôl Csikszentmihalyi a Rich: “Creativity is not the product of single individuals, but of social systems making judgements about individual products” (Csikszentmihalyi a Rich, 1997, t.46).
Os nad yw crëwr yn gallu perswadio’r byd ei f/bod wedi cael syniad creadigol, sut mae’r byd i wybod am eu creadigrwydd?
Yn aml iawn, mae’r gymdeithas yn barnu cynnyrch creadigol yn ôl yr argraff y maent yn ei gael oddi wrth y crëwr ei hun. Yn ôl y seicolegydd cymdeithasol Joseph Kasof, dylai unigolion creadigol wella eu sgiliau er mwyn rheoli hyn, e.e. dysgu sut i wisgo’n gymeradwy, derbyn hyfforddiant sgiliau cymdeithasol i gyfathrebu gyda phobl, a nodweddion tebyg. Byddai hyn yn helpu’r unigolyn i ennill cymeradwyaeth y gynulleidfa am ei g/waith (Kasof, 1995).
Yn syml, er mwyn i’r gymdeithas hoffi dy gynnyrch, mae’n rhaid iddyn nhw dy hoffi di.
Ar y llaw arall, ceir carfan o ysgolheigion sy’n dadlau bod creadigrwydd yn rhywbeth personol gan ddweud nad yw presenoldeb cynulleidfa’n angenrheidiol i rywun fod yn greadigol.
Anghytuna’r seicolegydd gwybyddol Mark A Runco’n llwyr gyda’r sylwadau hyn, “reputation is not creation.” (Runco, 1995, t.380). Yn ei farn ef, ni ellir rheoli ymateb cynulleidfa. Ceir enghreifftiau niferus o weithiau creadigol nodedig a gafodd eu hanwybyddu gan gymdeithas am flynyddoedd maith.
Doedd neb yn talu fawr o sylw i luniau’r arlunydd Van Gogh pan oedd yn fyw, ond erbyn heddiw mae’n cael ei gyfrif fel un o artistiaid mwyaf nodedig ei gyfnod. Roedd cyfoeswyr J.S. Bach yn edmygu ei gerddoriaeth a’i ddawn fel organydd, ond ni fyddai’r un ohonynt wedi rhagweld ei statws dwy ganrif yn ddiweddarach fel un o ffigyrau pwysicaf yn hanes cerddoriaeth y Gorllewin.
Ydy, mae’n wir na fyddai’r cynnyrch creadigol yn gadael ei effaith nac yn ennill enwogrwydd heb gymeradwyaeth cynulleidfa. Er hyn mi fyddai’r cynnyrch creadigol ei hun yn dal i fodoli (Runco, 1995).
Un theori sy’n berthnasol i’r ddadl hon yw’r syniad o gymhelliant mewnol a chymhelliant allanol.
- Cymhelliant mewnol: Y syniad bod unigolyn yn gwneud rhywbeth o wirfodd, am fod y weithred yn ddiddorol neu’n hwyl.
- Cymhelliant allanol: Mae gweithred yr unigolyn yn cael ei yrru gan wobr, clod, edmygedd, enwogrwydd, arian, eilun-addoliaeth…
Cwestiyna astudiaethau Teresa Amabile, Athro Gweinyddiaeth Busnes yn Harvard, i ba raddau y mae cymhelliant mewnol yn addas i greadigrwydd. Lluniodd arbrawf ar ffurf holiadur er mwyn mesur hyn.
Roedd yn rhaid i’r cyfranogwyr gyfansoddi cerdd o dan amodau, ar ôl llenwi holiadur am eu hagweddau tuag at y dasg greadigol. Wedi hynny, roedd grŵp o feirdd arbenigol yn barnu’r gwaith.
Dengys y canlyniadau bod cymhelliant allanol yn cael effaith negyddol ar greadigrwydd (Amabile, 1990). Mae’r arbrawf felly’n cyfiawnhau mai creadigrwydd personol sydd yn allweddol, bod unigolyn ar ei fwyaf creadigol wrth greu rhywbeth er eu mwyn eu hunain ac nid er mwyn plesio cynulleidfa.
Barn y Cymry
Beth yw barn y Cymry Cymraeg ynglŷn â’r ddadl yma, felly? O edrych ar yr ystadegau hyn, allan o 321 o gyfranogwyr, mae’n bur debyg bod y mwyafrif, sef 261 ohonynt (82.3%), yn cytuno gyda chreadigrwydd personol. Mae bod yn greadigol yn ffordd o ddianc oddi wrth fywyd pob dydd, yn fwynhad pur y gellir profi ar ei ben ei hun.
Ar y llaw arall, mae 56 (17.7%) o bobl yn cytuno bod angen presenoldeb cynulleidfa. O bosib, byddai unigolyn proffesiynol yn y celfyddydau, e.e. cerddor offerynnol neu actor theatr, yn cytuno gyda’r lleiafrif, oherwydd bod ei yrfa’n ddibynnol ar gynulleidfa, o’i gymharu gyda cherddor neu actor amatur, sy’n gweld eu creadigrwydd yn fwy o ddiddordeb.
Cynulleidfa a’r Eisteddfod
Er mwyn priodoli’r ddadl o ran diwylliant Cymreig, dw i am ddefnyddio’r Eisteddfod yn enghraifft. Mae’r Eisteddfod wedi bod yn elfen gref yn niwylliant Cymru ers canrifoedd. Gellir disgrifio’r ŵyl fel pinacl creadigrwydd, lle mae’r holl gystadlaethau celfyddydol, gan gynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth, drama, dawns, celf … ar gael mewn un man penodol i bawb ei werthfawrogi a’i fwynhau, fel arfer mewn cae gwlyb yn rhywle yng Nghymru ar ddechrau Awst bob blwyddyn!
Nid oes dwywaith bod cynulleidfa’n ganolbwynt i’r Eisteddfod. Fel arfer, os yw unigolyn yn cystadlu ar yr unawd cerdd dant, mae’n ymarfer am fisoedd er mwyn perffeithio’i berfformiad creadigol, gan obeithio derbyn ymateb positif gan gynulleidfa a beirniadaeth gadarnhaol … ac ymddangos ar y teledu yn rhaglen uchafbwyntiau’r dydd!
Ond wrth gymharu unigolyn sy’n ymgeisio ar gyfer cystadleuaeth y Gadair neu’r Goron, mae’r creu yn dueddol o ddigwydd ‘tu ôl i’r llen’. Ydi, mae’r bardd wedi penderfynu dangos ei waith i feirniaid/gynulleidfa’r Eisteddfod, ond pe bai’r bardd yn penderfynu cadw ei waith iddo/i’i hun, fe fyddai wedi parhau i ddilyn y broses greadigol a gyrhaeddodd ei b/phen-llanw gyda cherdd yn gynnyrch.
Gellir dadlau dros y ddwy ochr i’r ddadl gymhleth hon felly. Ond rhaid cofio, ni ellir derbyn cymeradwyaeth cynulleidfa heb y cynnyrch creadigol ei hun. Mae’n bosib mai ychwanegiad ar ddiwedd y broses greadigol ydi’r gynulleidfa, nad yw’n orfodol, ac mae’n amlwg bod cyfranogwyr yr holiadur yn cytuno.
Mae’r astudiaeth hon yn parhau. Os hoffech fod yn rhan o’r ymchwil a chael y cyfle i leisio eich barn, croeso i chi lenwi’r holiadur ‘Creadigrwydd y Cymry.’ Dyma’r ddolen: https://bangor.onlinesurveys.ac.uk/creadigrwydd-y-cymry
Llyfryddiaeth
- Amabile, Teresa, ‘The Social Psychology of Creativity and Beyond’ yn Mark A Runco a Robert S. Albert (goln.), Theories of Creativity (California: Sage Publications, 1990), 61-91.
- Balkin, Alfred, ‘What Is Creativity? What Is It Not?’, Music Educators Journal, 76:9 (1990), 29–32.
- Csikszentmihalyi, M., a Rich, G. J., ‘Musical improvisation: A systems approach’ yn R. Keith Sawyer (gol.), Creativity in performance (Greenwich: Ablex, 1998), 43-66.
- Csikszentmihalyi, Mihaly, Creativity: The Psychology of Discovery and Invention (New York: Harper Collins, 2013).
- Reeves, T. C., a Clark, R. E., ‘Research on Creativity’, Educational Technology, 17:2 (1977), 57–58.
- Runco, M. A., a Beghetto, R. A., ‘Primary and secondary creativity’, Current Opinion in Behavioural Science, 27 (1995), 7–10.
- Runco, Mark A., ‘Insight for Creativity, Expression for Impact’, Creativity Research Journal, 8:4 (1995), 377–90.
*
- Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon – www.gwerddon.cymru – i bori ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.