Mae ymchwilwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd mewn cydweithrediad â thîm o arbenigwyr wedi bod yn gweithio ar ddatblygu adnodd a fydd yn galluogi ysgolion i werthuso iechyd meddwl a lles disgyblion a staff ysgol. Y nod yw cynnig strategaethau cefnogi a chodi ymwybyddiaeth yr unigolyn o bwysigrwydd gofal iechyd a lles. Mae rhan gyntaf eu gwaith ymchwil wedi canolbwyntio ar ddisgyblion blwyddyn 7 gan y gall y cyfnod pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd fod yn heriol

Yma mae cefndir eu gwaith ymchwil ac adroddiad ar eu canfyddiadau cychwynnol…

Dychwelyd i’r ysgol yn sgil Covid-19

Roedd dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi eleni wedi gwyliau’r haf wedi bod yn rhyddhad i nifer. Wedi cyfnod ansefydlog iawn o dderbyn gwersi ar lein a’r rhwystredigaethau cymdeithasol, doedd hi ddim yn syndod gweld adroddiadau yn y wasg am effaith y pandemig ar iechyd meddwl a lles unigolion, yn enwedig plant a phobl ifanc. Tra bod honiadau bod ‘lles cenhedlaeth gyfan o blant’ wedi’u heffeithio gan reolau llym Covid, rhaid cydnabod nad ffenomen newydd mo’r pryder am iechyd meddwl a lles pobl ifanc.

Argyfwng y gwasanaethau iechyd meddwl plant

Ers tro bellach, mae’r gwasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) wedi bod yn boddi dan atgyfeiriadau. Maen nhw’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â chyflyrau megis gorbryder, iselder ac anhwylderau bwyta. O ganlyniad, mae’r rhestrau aros yn hirfaith, a’r problemau a’r anawsterau yn dwyshau po hiraf yr aros.

Wrth i’r angen am gwnsela a mentora i ymdrin â sgil effeithiau problemau iechyd meddwl mewn ysgolion gynyddu, ni all y gwasanaethau cefnogi ehangu yn ddigon cyflym i fedru delio â nifer yr achosion. Yn ôl un erthygl bapur newydd, roedd traean o’r plant a gafodd eu hatgyfeirio at y  gwasanaeth CAMHS wedi’u gwrthod. Nid oes unrhyw arwydd y bydd y sefyllfa yn newid yn y dyfodol agos.

Codi ymwybyddiaeth

Mae ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cefnogi iechyd meddwl wedi bod yn cynyddu ers sawl blwyddyn. Mae ymchwil cyfredol yn y maes yn dangos bod gofal cyson dros iechyd meddwl a lles yn cael effaith bositif iawn ar unigolion, a gall effeithiau hynny fod yn hir dymor.

Fel arfer, yn yr ysgol y mae’r problemau yn aml yn cael eu hadnabod gyntaf, ac yn wir mae’r cwricwlwm newydd yn cydnabod hynny yn un o’r meysydd dysgu, sy’n ‘ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i wynebu heriau a chyfleodd bywyd’.

Wrth fod yn ymwybodol o iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn gynnar ac ymateb yn fuan, mae’n bosib dadlau bod modd atal y broblem neu o leiaf sichrau nad yw’n mynd yn broblem fwy dyrys a chymleth, anodd ei thrin.

Seicoleg gadarnhaol

Mae’r seicolegydd Martin Seligman yn ei lyfr, Flourish yn trafod gwerth seicoleg cadarnhaol (positive psychology) wrth ymdrin ag iechyd meddwl a lles.  Yn ôl Peterson, ‘Positive psychology is the scientific study of what makes life worth living, ac mae’n canolbwyntio ar brofiadau a theimladau positif.

Mae Seligman wedi datblygu’r model PERMA, model sydd yn cynnig eglurhad cynhwysfawr o les. Llythrenw (acronym) yw PERMA, yn cynrychioli’r pump elfen sy’n ganolog i les, sef P Positive Emotions, EEngagement,  R Relationships, MMeaning, AAchievement/Accomplishment.

Dadl Seligman yw bod y model hwn yn cynnig fframwaith i ni ddeall beth a olygir wrth lles, ac wrth hynny, ein bod ni’n dysgu sut i wella ein lles ein hunain. Dim ond wrth sichrau bod pob un elfen o’r PERMA yn gadarn y gallwn ni flodeuo fel unigolion.

Prosiect cychwynnol

Er mwyn mesur y blodeuo, cafodd y PERMA-profiler ei greu.  Gall unrhyw un lenwi’r holiadur ar y wefan ond, ar gyfer y gwaith ymchwil hwn, cyfieithwyd yr holiadur gyda chaniatâd yr awduron, gyda’r data yn cael eu cadw gan ymchwilwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Yn rhan gyntaf yr ymchwil, gofynnwyd i dri dosbarth blwyddyn 7 mewn tair ysgol yn ne Cymru i lenwi’r holiadur ar eu ffonau symudol wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r ysgol ddiwedd mis Ebrill wedi cyfnod hir o fod adref.  Datgelodd canlyniadau’r proffiliwr PERMA ar lefel dosbarth fod disgyblion pob ysgol yn gweithredu ar lefel is na’r arfer (sub-optimal function).

Ar lefel unigolion, gwelwyd bod sawl unigolyn ymhob dosbarth â sgorau isel iawn a bod angen cymorth ychwanegol arnynt y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.  Er bod enwau’r rhan fwyaf yn gyfarwydd i’r ysgolion roedd y proffilwr wedi adnabod plant ychwanegol. Wrth drafod gyda’r disgyblion yn unigol, roedd amryw o resymau dros hyn er enghraifft tor-priodas diweddar neu marwolaeth yn y teulu.

Wedi cyfnod o 6 wythnos, ail-ddosbarthwyd y proffiliwr PERMA unwaith eto.  Roedd cynnydd yn yr holl sgorau o gymharu â’r holiadur cyntaf, gyda’r disgyblion yn symud o lefel is na’r arfer i lefel arferol.  Fodd bynnag, wrth edrych ar y manylion roedd cynnydd yn nifer y disgyblion oedd yn nodi eu bod yn teimlo’n unig (er bod hynny o fewn y ffin arferol/normal) a chynnydd yn y cofnod am emosiynau negyddol.

Mae’r peilot yn awgrymu bod y proffiliwr PERMA yn cadarnhau pa ddisgyblion sydd yn profi anawsterau iechyd meddwl a lles yn ogystal ag adnabod rhai nad oedd yn hysbys i’r ysgol bod anawsterau ganddynt.  Wrth gyflwyno adnoddau i gefnogi newidiadau bach yn niwylliant dysgu athrawon dros gyfnod byr, mae’r peilot yn awgrymu bod modd dylanwadu ar iechyd meddwl a lles disgyblion trwy gyflwyno newidiadau ac addasiadau bach o fewn systemau’r ysgol.

Y camau nesaf

Bellach mae’r prosiect yn edrych ar bob dosbarth blwyddyn 7 ar draws y tair ysgol.  Mae’r tiwtoriaid dosbarth wedi derbyn hyfforddiant ac wedi llenwi ffurflen PERMA eu hunain.  Bydd adnoddau a chefnogaeth gan athro arbenigol a seicolegydd addysg yn ystod y tymor ar gael i’r athrawon.  Ar ddiwedd y tymor bydd y proffilwr PERMA yn cael ei ailddosbarthu i weld a yw iechyd meddwl a lles y flwyddyn gyfan wedi gwella yn sgíl ymyrraethau ar lawr y dosbarth.

Gan fod sicrhau iechyd meddwl a lles da yn allweddol ar gyfer ymgysylltu a chymhelliant, mae’n bwysig gallu mesur lefelau iechyd a lles er mwyn ymateb yn briodol. Gwerth y proffiliwr PERMA yw cynnig cyfle i ysgolion weld beth yw’r sefyllfa gyffredinol yn ogystal ag adnabod disgyblion unigol.  Os yw disgybl yn ymgysylltu â’i (g)waith ac yn teimlo cymhelliant yna mae potensial iddo/i llwyddo yn academaidd.

Gobaith y prosiect hwn yw gallu datblygu’r prosiect yn adnodd ar-lein ar gyfer ysgolion fel y gallant adnabod iechyd meddwl a lles yr ysgol gyfan yn ogystal ag adnabod disgyblion yn gynnar er mwyn darparu cefnogaeth arbenigol ble fo’r angen.

  • Butler, J. a Kern, M.L. (2016) The PERMA-Profiler: A brief multidimensional measure of flourshing. International Journal of Wellbeing, 6(3), 1-48. Doi:10.5502/ijw.v6i3.1

Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon – gwerddon.cymru – i bori ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.