Cinema is a mirror by which we often see ourselves” – Alejandro González Iñárritu (Cyfarwyddwr Ffilm)

Gan ystyried geiriau Iñárritu, rwy am roi sylwyn yr erthygl hon i sut y mae allbwn sinematig Cymru, yn enwedig ers datganoli yn 1999, yn dangos hyder i bortreadu hunaniaeth a safbwyntiau unigryw Cymreig. Dros y cyfnod gwelwn ystod o ffilmiau sy’n gwrthod y syniad o “un genedl” y Deyrnas Unedig, ffilmiau sy’n ailadrodd hanes o safbwynt y Cymry, yn denu sylw at droseddau’r gorffennol, a ffilmiau sy’n dangos Cymru yn cenedl gynhwysol, fyd-eang ei phersbectif, gyda’r hyder i fagu perthnasau y tu hwnt i’w ffiniau. Rwy’n dadlau bod y meddylfryd a welwn ar y sgrin fawr yn adlewyrchu’r hyder yr ydym yn ei weld bellach yn y cyfryngau ac ar ein sgriniau bach, ac yn rhan o’r drafodaeth ehangach ynghylch ein lle ar lwyfan y byd.

Ers y pandemig Coronafeirws, mae agwedd Cymru a’r hyder i wneud pethau’n wahanol i’r llywodraeth yn San Steffan wedi dod yn amlwg. Yn ystod y cyfnodau clo,, roedd Cymru a’r Alban yn cymryd mesurau mwy pwyllog na’r hyn a welwyd ar draws y ffin. Yn arolwg barn YouGov 2021, roedd 60% yn cytuno bod Llywodraeth Cymru wedi delio gyda’r pandemig yn dda, i gymharu gyda 39% yn cytuno gydag ymdriniaeth San Steffan. Mae sylw’r cyfryngau yn ystod y pandemig wedi rhoi platfform byd-eang i brofi hyder Cymru i dorri’r canfyddiad mai atodiad i Loegr yw hi, a chyfle i ddangos y ffyrdd yr ydym yn gwneud penderfyniadau annibynnol. Mae Sinema Cymru hefyd yn dangos hyn: yn profi bod yr hyn yr ydym yn ei weld ar lefel wleidyddol yn rhan o’r drafodaeth ddiwylliannol.

Dywed Darryl Jones bod y genre arswyd mewn ffilm yn “ymateb i setiau penodol o bryderon diwylliannol-gwleidyddol, drych gwyrgam sy’n galluogi cipolwg ar bethau fel y maent” (tt. 2-3)[i]. Y ffilm ddiweddaraf yn y dosbarth arswyd Cymreig ydi Gwledd (2021), prif ffilm gyntaf y cyfarwyddwr Lee Haven Jones, gyda’r sgript wedi’i hysgrifennu gan Roger Williams. Gyda’r ddau yn Gymry Cymraeg, dywed Jones mewn cyfweliad bod cyflwyno ffilm yn y Gymraeg yn hollbwysig, ffilm sy’n unigryw Gymreig, yn ymwneud â themâu, diwylliant, a mytholeg Cymru.

Yn Gwledd mae teulu cyfoethog yn cynnal swper moethus er mwyn taro bargen fusnes i brynu tir lleol ar gyfer mwyngloddio, ond mae gan y weinyddes ddieithr (Annes Elwy) gynllun arswydus i’w hatal. Wrth wraidd y ffilm mae pryderon ynghylch anghyfartaledd cyfoeth a dinistr ecolegol. Mae’r pryderon yma wedi codi yn y Senedd, gyda Phlaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cytuno bod rhaid datganoli pwerau dros Ystâd y Goron i gefnogi taith Cymru at sero net, er enghraifft. Mae’r ddeiseb ar y mater wedi denu llu o lofnodion yn ddiweddar.[ii]

Yn hanesyddol, roedd ffilmiau am Gymru yn dathlu’r ymerodraeth a’r diwydiannau trwm, er enghraifft y glowyr llon yn ffilm yr Americanwr John Ford, How Green Was My Valley (1942) a’r ffilm gan Stiwdio Ealing o Lundain, Proud Valley (Pen Tennyson, 1940)[iii]. Bellach mae sinema frodorol yn gwrthod y syniad o’r ymerodraeth, o Gymru’n estyniad o Loegr. Gyda lleisiau Cymraeg yn gyfrifol am y ffilmiau, mae’r allbwn yn dra gwahanol. Drwy wylio ffilmiau o Gymru ers 1999 mae cysondeb yn hyder a negeseuon y ffilmiau: bod straeon, hanes, a hunaniaeth Cymru’n groes i’r naratif o’r metropolis.

Mae dwy ffilm yn ymateb i foddi Capel Celyn er mwyn creu cronfa ddŵr Tryweryn i gyflenwi dŵr i Lerpwl. Mae Yr Ymadawiad (Gareth Bryn, 2015) yn pwysleisio effaith dinistrio cymuned Gymreig. Yn Yr Ymadawiad y cwbl sydd ar ôl o’r gymuned yw adfail fferm sydd bellach yn gartref i ysbrydion yn unig; mae’r weithred o hil-laddiad diwylliannol yn ddiwrthdro. Yn Patagonia (Marc Evans, 2010) mae dynes sydd ar ddiwedd ei hoes yn teithio o’r Ariannin i ymweld â beddau ei theulu yng Nghapel Celyn, ac yn dod ar draws yr hanes o orfod codi ac ailosod y fynwent pan foddwyd y pentref. Mae’r ffilmiau yma yn enghreifftiau o gynnig gwrth-naratif i hanes Prydeinig, a dangos persbectif Cymru o droseddau’r gorffennol, troseddau sydd wedi cael effaith y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig. Yn ôl prif gymeriad Y Llyfrgell (Euros Lyn, 2016) sydd wedi’i ffilmio bron yn gyfan yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, “wedi’r cwbl, ffuglen ydi bob hanes yn y bôn”, sydd eto yn ein hysgogi i feddwl am sut mae hanes Cymru wedi cael ei hanwybyddu yn hanes Prydain.

Yn Dark Signal (Edward Evers-Swindell, 2016) fe welwn ffilm arswyd arall, ond y tro hwn yn delio â throseddau cyfoes. Mae Dark Signal yn uniongyrchol yn gwrthod llymder y Torïaid drwy ddangos i ni effaith toriadau gwasanaethau ar gymuned wledig. Yn y ffilm, y llofrudd cyfresol yw’r lleiaf o bryderon Eryri; mae’r teimlad nad yw San Steffan yn eu gwasanaethu’n ddigonol yn dod â mwy o boen i drigolion y gymuned, fel Kate (Joanna Ignaczewska), merch o Wlad Pwyl sy’n ddi-waith ac yn ceisio gofalu am ei mab sydd ag anableddau, a Laurie (Siwan Morris) sy’n colli ei gwaith yn yr orsaf radio am fod y cyfryngau’n cael eu canoli. Yn Dark Signal, Kate yw’r arwr sy’n lladd y llofrudd, sydd eto yn dangos i ni sut mae Cymru yn gynhwysol, ond hefyd yn genedl nad yw’n pardduo’r dosbarth gweithiol, yn wahanol iawn i safbwynt llymder y Ceidwadwyr.

Mae sinema yn ddrych i ni weld ein hunain meddai Iñárritu. Mae Sinema Cymru ddiweddar yn ddrych sy’n adlewyrchu ein hyder i daclo anghydraddoldeb a’n hyder i leisio ein pryderon, ond hefyd ein hyder i ddathlu ein hiaith, diwylliant, a hanes. Er gwaethaf rhai o’r hanesion hyn, mae’r ffilmiau yn dangos, yn ogystal â bod ‘yma o hyd’, fodein lleisiau i’w clywed y tu hwnt i’r sgrin.

 

Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon – gwerddon.cymru – i bori ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.

[i] Jones, D. 2011. “Welsh Nationalist Horror”.Yn: Almanac: The Yearbook of Welsh Writing in English, 15. tt. 1-28.

[ii] Gweler y ddeiseb yma https://www.change.org/p/welsh-secretary-simon-hart-transfer-control-of-the-500m-crown-estate-to-wales-like-in-scotland?redirect=false

[iii] Gweler Cyfaredd y Cysgodion: Delweddu Cymru a’i Phobl ar Ffilm 1935-1951 (2003) gan Gwenno Ffrancon am ddylanwad sinema ar y delweddau o Gymru a’r Cymry a sut grëwyd y stereoteipiau negyddol a fu wedyn yn cylchredeg am ddegawdau.