Thora Tenbrink, Athro ym Mhrifysgol Bangor ac awdur ‘Cognitive Discourse Analysis: An Introduction’ a gyhoeddwyd gan Cambridge University Press yn 2020, sy’n trafod y berthynas rhwng iaith a meddwl.
Mae’r Gymraeg yn ffordd o fyw: dyna beth mae Cymry Cymraeg yn ei ddweud, ac yn ei gredu. Mae’r Gymraeg yn iaith arbennig, gyda hanes unigryw a nodweddion neilltuol, ac mae’n hollbwysig i siaradwyr gael cyfle i fyw eu bywyd mewn ffordd Gymraeg, a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’n amlwg bod y ddau beth yn gysylltiedig: anodd dychmygu byw fel Cymry heb siarad yr iaith. Credaf fod hynny oherwydd perthynas agos rhwng iaith a meddwl. Mae ein hiaith yn effeithio ar ein meddyliau, ac mae’r ffordd y meddyliwn yn sylfaen i’n ffordd o fyw. Mae hyn yn ymddangos yn y ffordd y siaradwn, yn ein hiaith bob dydd. Mae’r ffordd yr ydym yn dewis siarad yn dangos y ffordd yr ydym yn meddwl.
Beth mae hynny’n ei olygu? Ystyriwch yr enghraifft fach ganlynol.
Dychmygwch fod mewn adeilad mawr megis ysbyty neu brifysgol. Dychmygwch eich bod yn awyddus am banad, a chithau’n sicr fod caffeteria yn yr adeilad. Felly rydych yn gofyn i rywun am y ffordd. Yna, dyma’r ateb: “Ceisiwch fynd i fyny’r grisiau, heibio’r lluniau ar y wal, wedyn yn syth ymlaen am ychydig. Rhaid ei fod yno yn rhywle. Edrychwch am yr arwyddion.”
A yw’r person yna yn wybodus iawn, yn eich barn chi? Os nad yw, pam rydych yn meddwl nad yw’r person yn gwybod y ffordd yn iawn? Efallai y byddwch yn meddwl bod hyn yn amlwg. Ond beth yn union o fewn ateb y person sydd yn dangos hyn? Nid yw’r person yn dweud hyn yn eglur. Ond mae’r ffordd y mae’n mynegi’r cyfeiriadau’n bwysig. Mae geiriau megis ceisiwch a rhaid yn mynegi ansicrwydd, a’r cyfarwyddyd i edrych am yr arwyddion hefyd yn awgrymu y gall fod rhywbeth ar goll.
Mewn ffordd, rydym yn dysgu rhywbeth sy’n digwydd ym meddwl y person, heb i’r person ddweud hynny yn glir. Rydym yn dysgu am gyfyngiadau hyfedredd y siaradwr. Ond nid dyna’r cwbl yr ydym yn gallu ei ddysgu o wrando’n ofalus sut y mae pobl yn siarad. Os ydych yn cyferbynnu’r cyfeiriadau hyn â chyfeiriadau wedi eu cynhyrchu yn awtomatig ar y We, bydd yn amlwg bod y siaradwr yn meddwl am bethau gwahanol i’r system awtomatig. Bydd y system yn cyflwyno gwybodaeth uniongyrchol, yn cynnwys pellterau penodol yn hytrach na geiriau fel ychydig, ond ni fydd yn sôn am luniau neu arwyddion. Felly mae’r iaith yn dangos hefyd pa fath o bethau sy’n bwysig i’r siaradwyr – o’i gyferbynnu â systemau awtomatig.
Mynegiant gwahanol mewn ieithoedd gwahanol
Mae’n bwysig nodi bod pob iaith yn mynegi meddyliau ei siaradwyr mewn ffordd wahanol. Er enghraifft, mae gwahaniaeth rhwng “Rhoddodd Elin siwmper amdani” ac “Elin put on a jumper”. Mae’r ddwy frawddeg yn mynegi’r un sefyllfa, ond mewn ffordd wahanol. Yn y Gymraeg, mae Elin yn rhoi’r siwmper amdani, o gwmpas ei hun. Yn y Saesneg, mae Elin yn rhoi’r siwmper arni ei hun, yn llythrennol. Rydym yn meddwl am yr un sefyllfa mewn ffordd wahanol.
Felly, oherwydd fod bron pawb yn rhugl yn y Saesneg hefyd, mae gan Gymry Cymraeg ddwy ffordd o fynegi meddyliau. Weithiau, rydym yn dewis dweud rhywbeth mewn un iaith yn hytrach na’r llall, oherwydd bod hyn yn teimlo’n well, yn fwy addas. Ac weithiau, rydym yn teimlo fel person arall pan fyddwn yn newid yr iaith. Nid yw’r person Cymraeg yr un fath â’r person Saesneg. Oherwydd bod gennym ddewis rhwng dwy ffordd o siarad, mae gennym ddewis rhwng dwy ffordd o feddwl – ac weithiau mae hyn yn golygu hyd yn oed ddewis rhwng dwy ffordd o fyw.
Mae ‘Cognitive Discourse Analysis’, sef dadansoddiad disgwrs gwybyddol, yn ddull o gymharu’n systematig ffyrdd o siarad, ffyrdd o fynegi meddyliau, gan gymharu geiriau a strwythyrau a ddefnyddir mewn sefyllfaoedd allweddol. Bydd hyn yn dangos patrymau megis pwysigrwydd rhai agweddau, sylw neu anwybodaeth o rai o nodweddion y sefyllfa, safbwyntiau gwahanol, ayyb. Hefyd, fel arfer, rydym yn siarad er mwyn cyfathrebu, gan ddefnyddio iaith mewn ffordd sy’n addas i’r rhai yr ydym yn eu cyfarch. Felly bydd y dadansoddiad yn dangos sut yr ydym yn mynegi meddyliau mewn ffordd sy’n galluogi eraill i ein deall ni, neu hyd yn oed i feddwl mewn ffordd debyg. Er enghraifft, wrth egluro lle i ddod o hyd i’n tŷ ni, byddwn yn defnyddio safbwynt y person sy’n ceisio dod yno.
Holi am yr amgylchedd
Ar hyn o bryd yr ydym yn ymchwilio sut mae trigolion Cymru – yn Gymry Cymraeg a Saeson – yn teimlo am yr amgylchedd o’u cwmpas nhw. Rydym wedi casglu data drwy holiadur ysgrifenedig, gyda chwestiynau megis ‘Plis disgrifiwch ardal Y Fenai. Beth sy’n gwneud yr ardal yn arbennig ac yn unigryw?’ Yn yr atebion, mae rhai pobl yn mynegi teimladau cryf, yn dangos ymlyniad at le drwy eiriau fel ‘Lle i enaid cael llonydd. Lle i wylio adar ac i naturiaethu. Etifeddiaeth Gymraeg ac enwau lleoedd’, ac eraill yn disgrifio’r ardal mewn ffordd fwy ymarferol, megis ‘Cynhelir gweithgareddau hwylio yma, y gwyntoedd a’r llanw yn ddelfrydol. Mae’n lle sy’n enwog am werthiant cregyn glas.’
Mae’r data yn dangos gwahaniaethau systematig rhwng yr ardaloedd; mae pobl yn gwerthfawrogi natur mewn rhai lleoedd, neu hanes, neu amrywiaeth o gyfleusterau. Yn ddiddorol, yn y Saesneg, mae llawer o atebion yn mynegi perchnogaeth megis ‘our countryside’ neu ‘we have everything on Anglesey’; nid yw hynny yn digwydd yn y Cymraeg yn ein data. Ar y cyfan, mae’n ymddangos bod Cymry Cymraeg yn canolbwyntio ar hanes, teulu a ffrindiau, tra bod Saeson yn cael eu denu gan harddwch yr ardaloedd a’r cyfleusterau sydd ar gael.
A yw’r ffordd Gymraeg o fyw yng Nghymru yn wahanol i’r ffordd Saesneg? Credaf ei bod hi. Ni allaf ddweud bod y gwahaniaeth rhwng y ffyrdd o fynegi themâu fel ymlyniad lle yn hynod o amlwg yn y disgwrs, ond mae’n bodoli – ac mae’n bosib ei ddarganfod drwy ddadansoddiad manwl a systematig.
Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon – gwerddon.cymru – i bori ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.