1. Rhiannon Lloyd Williams, Aelod Unigol, Caerdydd a’r Fro
“HELP(u)”
Dechreua’r fonolog gyda’r golau ar LARA yn unig.
LARA
’Nes i ’neud dim. ’Nes i sefyll yno a ’neud dim. ’Nes i syllu arni a ’neud dim. ’Nes i agor fy ngheg i weiddi “GET OFF” neu rywbeth tebyg, ond ni ddaeth yr un sill na’r un sŵn o’m ceg.
Jest… dim.
Goleuir y llwyfan i ddangos llwyfan blêr. Mae sawl eitem ar y llwyfan yn atgoffa LARA o ELINOR. Cerdda LARA at gefn, dde’r llwyfan. Cwyd pâr o Mom jîns a’i gwisgo’n frysiog ar ben ei leggings. Yn ystod y fonolog cwyd LARA sawl peth o’i hamgylch wrth grwydro’r llwyfan, e.e. masgara a drych, ei ffôn, top ELINOR, tocyn trên, placardiau ayb. Gorffenna LARA yn yr un fan â lle dechreua’r fonolog.
LARA (PARHAU)
Dechreuodd y diwrnod fel bob tro.
Yn hwyr.
O’n i ’di deffro’n hwyr a’n rhuthro i wisgo a choluro.
O’n i mas o wynt rôl brwsio fy ngwallt, a mas o wynt eto fyth rôl twrio o dan y duvet i ffeindio fy ffôn. ’Nes i ddal yr alwad ar y bring ola’ ac ar ôl dal fy ngwynt ’nes i ateb y cwestiwn.
“Ydw, fi’n effro!”
O’dd hi ’di dyfalu. Elinor, hynny yw, y person ar ochr arall y ffôn. Wrth gwrs, ma’ ffrind gorau’n gwybod pob nam – gan gynnwys fy hoffter i snoozeo pob ’larwm. Y record hyd yma yw snoozeo wyth ’larwm yn olynol ar un fore cyn mynd i’r gwaith. Ges i gloc ’larwm arbennig gan Elinor fel anrheg pen-blwydd y llynedd, yr un sy’n swnio fel air raid. ’Nes i gysgu trwy hwnna un tro…
Chwerthin ’naeth Elinor ar ochr arall y ffôn a rhoi dau rybudd. Y rhybudd cyntaf oedd bod y trên yn gadael mewn hanner awr. Yr ail rybudd oedd i fi beidio anghofio ei thop, yr un ’nes i fenthyg a’i wisgo ar noson mas wythnosau’n ôl. Y noson ’nes i gymysgu’r diodydd anghywir gyda’i gilydd gan greu fersiwn ohonof oedd yn crio dros unrhyw beth. Crio dros y ffaith o’dd hi ’di tywyllu’n rhy gyflym. Crio dros y ffaith o’n i ’di chippo nail varnish y noson. A hyd yn oed crio dros y ffaith o’n i ’di chwydu’r chicken nuggets o’n i newydd brynu. A phwy o’dd yno drwyddi draw i sychu’r masgara a chlymu’r gwallt knotty yn ôl? Elinor, wrth gwrs. Cywilydd. Cywilydd am yr holl grio diangen a chywilydd am gadw’r top cyn hired. O’dd Elinor yn bwriadu gwisgo’r top y noson honno. Y bwriad oedd dathlu ein cam cyntaf tuag at greu dyfodol gwell gydag ychydig o gin, rum, a tequila. Gan osgoi creu’r Lara o’dd yn crio’n ddiangen ar ddiwedd noson flêr.
’Nes i stwffio’r top i mewn i fag, stwffio fy mreichie i mewn i siaced ddenim, a stwffio fy ffordd trwy ddrws y tŷ allan i’r awyr iach.
O’dd yr orsaf drên yn brysur. Heaving fel mae’r dre ar game day. Ond ymysg y dorf o’dd Elinor yn amlwg, mor amlwg â’r lleuad ar noson glir, yn ei siaced ledr a’i lipstic coch. A’r wên fwyaf croesawgar yn barod i drafod blerwch y byd. O’dd y llif o eiriau o’i cheg y bore hwnnw’n ddiddiwedd, ond o’n i’n fwy na hapus i wrando arni tra roedd y trên yn gwibio heibio gerddi’r tai.
(Saib)
Y diwrnod yna, ’nes i anghofio bo’ ’da fi glogyn gwyn.
Y croen gwyn, genedigol.
Y fantell wen, warchodol.
Mor rhwydd yw anghofio pŵer y clogyn.
Y pŵer anhaeddiannol.
Y diwrnod yna, ’nes i drio helpu. Trio rhoi llais i’r rhai nad oedd gyda llais. Merched a menywod y byd.
Ni.
Y diwrnod yna, ’nes i drio helpu. Trio cerdded i’r un gân â phawb o’m hamgylch.
“Addysgwch eich meibion!”
“Adennill y nos!”
“Cofiwch Sarah Everard!”
Cerdded, sefyll ac eistedd.
Digon diniwed.
Digon heddychlon.
Ond digon i ddeffro teimladau eithafol.
Digon i gythruddo, i wylltio, i bryfocio.
Ond i rai, roedd hynny’n ormod.
I rai pobl bwerus, roedd hynny’n annerbyniol.
Doedd Elinor ddim yn berchen ar glogyn gwyn.
Yr un fantell wen, warchodol.
’Weles i ’sgidie. ’Weles i ddwylo. ’Weles i liwiau llachar.
Yna, ’weles i’r ffrind gorau yn y byd i gyd yn grwn… ar y llawr.
Elinor, y ferch a’r ffrind anwylaf, yn ymladd am ei hanadl ar ôl bod yn ymladd dros ei hawliau.
Y foment yna, ’nes i ’neud dim. 3
’Nes i sefyll yno a ’neud dim. ’Nes i syllu arni a ’neud dim.
’Nes i agor fy ngheg i weiddi “GET OFF” neu rywbeth tebyg, ond ni ddaeth yr un sill na’r un sŵn o’m ceg.
Jest… dim.
(Tynna LARA dop ELINOR allan o’i bag a’i ddal yn dynn)
Ond dyle’r angen i fod yno y diwrnod hwnnw ddim bodoli yn y lle cyntaf.
Y DIWEDD
***
2. Delyth Evans, Aelwyd Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
GWYDR
Hanna, merch 23 oed, yn sefyll ar ben ei hun ar y llwyfan tu fewn bocs mawr, gwydr.
HANNA: Helo? Ydych chi’n fy ngweld i? Yn fy nghlywed i? Unrhyw un? Na? Dw i yma, on’ odw i?
Wyt Han, ti yma.
Pwy wedodd hwnna? O ie – fi, Hanna. God, fi’n mynd yn nuts mewn fan hyn.
Hanna yn rhoi bang ar y gwydr â’i dwylo.
Ydy’r bocs gwydr ’ma hyd yn oed yn real?
Y bocs gwydr o’i chwmpas yn diflannu. Hanna yn cami allan.
Ha, nadi.
Ooo, ond mae e. Peidiwch, peidiwch â thwyllo eich hun am hynna.
Y bocs gwydr yn ailymddangos o gwmpas Hanna eto.
The glass ceiling. The invisible barrier. Mae e mwy fel bocs na ceiling i fod yn onest yn dyw e. Mwy fel carchar ’na barrier. Carchar o wydr sy’n hŷn nag amser ei hun. Wedi lladd ein hawliau a distewi ein pryderon am gymdeithas ers canrifoedd.
Ac mae’r gwydr yn afiach o glir. Bron i chi beidio â’i weld. Ond dim ond i chi gymryd cam ychydig yn rhy fawr, mae’r gwydr yno. Yn fur anweledig.
Hanna yn rhoi bang â’i throed ar y gwydr.
Yn ein hatgoffa mai byd sy’n ffafrio’r dyn yw hi. O hyd.
Hanna yn dynwared llais rhywun arall:
“Ffafrio dynion?! O sori Emmeline Pankhurst, didn’t realise we’re still in the last century. Ni yn 2021 nawr ti’n gwybod.”
Od yn dyw e? Sut mae modd twyllo cymdeithas i feddwl bod popeth yn iawn os yw’r mwyafrif yn iawn.
Ond cofiwch chi mai crumbs da’ ni wedi’u derbyn trwy gydol ein hanes. Briwsion wedi eu taflu’n ddiog i lawr trwy’r canrifoedd. A’r dorth ychydig yn fwy swmpus erbyn heddiw wrth gwrs, ond jesus, ma’ sbel ’da ni fynd.
Tyfu fyny, o’n i arfer gweddïo am fod yn fachgen. Ar y pryd, o’n i ddim wir yn deall pam bo’ fi’n gweddïo am hyn.
Ond dwi’n gweld nawr beth oedd y ferch fach yna ddim. Y gwir yw, mae hi’n haws i fod yn fachgen, ac roeddwn i, rywsut, wedi deall hyn ymhell cyn i mi fedru geirio’r teimladau.
Pethau digon diniwed oedden nhw ar y dechrau. Ond wedi gadael eu hôl yr un fath.
Mae Hanna yn troi ei phen ychydig ac yn syllu ar rywbeth tu allan i’r bocs. Mae fel petai atgof yn chwarae o’i blaen ac mae hi’n cael ei thaflu yn ôl i’r amser yna yn ei bywyd.
Llais yn y cefndir yn gweiddi: “C’mooon! Gêm o British Bulldogs ar y cae!”
HANNA: Na gyd odd angen gweud cyn bod stampede o goesau main i gyd yn eu heglu ’ddi i’r cae tu ôl i’r ysgol. Fi a Betsan a’r bois. Yn gwibio rhwng ein gilydd, y gwynt yn plethu fy ngwallt mewn i un cwlwm mawr. Breichiau’n ymestyn o bob ongl yn ceisio ein dal. Crash. Lawr â ni yn glec i’r ddaear wrth i Wiliam o flwyddyn pump ein dal, a ni’n tri – fi, Betsan a Wiliam – yn dwmpath o faw ar borfa gynnes mis Medi yn chwerthin braf.
“uh oh.”
“Be sy Bets?”
Dangosodd hi’r twll enfawr yn llewys ei chrys. “Eith mam yn benwan.”
“No way” atebais. “Mae Jâms rowndabowt yn torri ei grys.” Achos fe welais i Jâms, ei brawd hi, yn dangos cyflwr ei grys i’w fam rhai diwrnodau yng nghynt ar ôl iddo fod yn dringo coed, a hithau wedi gwenu a dweud, “ti’n real fwnci, Jâms, wyt.”
Ond roedd rhaid bod mam Betsan a Jâms wedi anghofio ei hiwmor y prynhawn hwnnw pan ddaeth i’n casglu ni’n tri o’r ysgol. Jesus, gath Betsan row. A phregethodd ei mam am gemau mwy lady like i ni yr holl ffordd adref. Chawson ni fyth gêm arall o British Bulldogs.
Hanna yn troi i gyfeiriad arall a gweld atgof arall yn chwarae o’i blaen tu allan i’r bocs.
“Gad fi fod, y blydi mochyn.”
“O dere ’mlaen Hanna, dim ond jôc yw e!”
Blwyddyn naw; amser pan oedd cyrff y bois yn ddiogel o ddwylo estron ond cyrff y merched fel petai nhw’n berchen i bawb.
Bydden ni’n cerdded o un dosbarth i’r llall a chyn cael cyfle i sylwi, byddai cysgod yn sleifio y tu ôl i ni, yn cydio yn ein brest, ac yn gwasgu’n siarp.
Wedyn, slap. Byddai’r llaw estron yn tynnu’r strapen bra yn ôl mor bell ag yr eith e, a nes ymlaen yn nhoiledau’r ysgol, roedd y marc coch ar ein cefnau yn dyst i neb ond ein llygaid ein hunain a’r drych.
Ond odd dim o’n ni’n gallu ’neud. Odd e’n digwydd i bawb wedi’r cyfan, bydden ni’n dweud wrth ein gilydd. Ac roedd ymuno i mewn â’r jôc yn broses llawer llai poenus ’na magu’r hyder i wrthsefyll.
Ac wrth gwrs, beth yw ‘jôc’ heb yr ymateb? Y tu ôl i ni fyddai ffrwydrad o chwerthin. Cymeradwyaeth o’u cyfoedion am chwarae jôc mor ddoniol. Ie, nice one bois.
Hanna yn troi i’r cyfeiriad arall. Atgof arall yn chwarae o’i blaen. Cerddoriaeth clwb nos yn chwarae yn y cefndir.
“Hei, what the? Pwy oedd hwna? What the actual fuck!”
“Hanna? Ti’n iawn?”
“Nath rhywun literally just tynnu sgert fi lan a grabio fi.”
“Ti’n serious? Pwy?”
“Sain gwybod, sain gwybod pwy oedd e!”
Cerddoriaeth yn y cefndir yn tawelu.
A dyna le oedden i. Bron â llefain yng nghanol y dancefloor. Yn gwybod bod y groper yn ddiogel rhywle yng nghanol y môr o ddawnswyr, yn fy ngwylio o bellter, yn ymfalchïo yn fy nryswch. Roedd y bwystfil yn fy môl a’r lwmp yn fy ngwddw yn ymladd â’i gilydd. O’n i eisiau gweiddi, ond methu. Ac unwaith eto, doedd dim byd y gallwn i’w wneud. Dim ond derbyn bod y noson wedi ei ddifetha. Noson arall wedi’i heintio gan ddyn.
Yr ôl-fflachiau yn dod i ben. Hanna yn troi nôl at y gynulleidfa.
God, dw i’n sick o hyn. Dw i’n sick o’r bocs ’ma. Sick o deimlo’n anweledig a theimlo fel bod neb yn fy nghlywed. Pawb â’r cywilydd i esgus bod ein cymdeithas ni’n hafal ac mai cyd-ddigwyddiad trychinebus, ond unigryw, yw sexism. Pawb yn esgus bod y blydi bocs ’ma ddim hyd yn oed yma.
Hanna yn poeri ar y gwydr ac yn creu staen amlwg.
Chi’n ei weld e nawr? Wel wrth gwrs eich bod chi. Mae e’n chwerthinllyd o amlwg pan ein bod ni’n dewis gweld.
Rhaid i ni beidio cau ein llygaid rhagor. Rhaid i ni beidio â throi ein pennau.
Dim nes bod pob darn o’r gwydr ’ma yn chwâl wrth ein traed.
***
3. Martha Grug Ifan, Aelod Unigol, Caerdydd a’r Fro
Dan Orfod
Golygfa 1
Set yn cynnwys bwrdd goffi (pren), paced o tobacco, chwyn (weed), filters, papur rolio a chadair bren.
Mel yn cerdded i mewn ac yn sefyll o flaen y gadair. Ar fin eistedd ond yn stopio’n sydyn.
Mel
(Tawel a brysiog)
Un, Dau. Tri, Pedwar. Pump, Chwech. Saith, Wyth. Naw, Deg.
Saib
Mel
(Mwy pwyllog. Rhoi sylw i bob llythyren)
U-n, Da-u. T-rrr-i, Ped-wa-r. Pu-m-p, Chw-ech. Sai-th, W-yth. Na-w, De-g.
Mel ar fin eistedd ar y gadair. Stopio’n sydyn eto.
Mel
(Brysiog iawn, iawn)
Undau. Tripedwar. Pumpchwech. Saithwyth. Nawdeg …UndegunUndegdau. UndegtriUndegpedwar. UndegpumpUndechchwech. UndegsaithUndegwyth. UndegnawDauddeg.
Mel
AHRGHH. Fuck!!! Nes i ddim neud hwnna’n iawn. Fi methu neud unrhyw beth yn iawn. OMG, ARHGHHH. p-e-d-w-a-r. Byddai’n lladd rhywun os na fyddai’n ofalus.
Mel
(Cymryd anadl ddofn)
Undau. Tripedwar. Pumpchwech. Saithwyth. Nawdeg…Ok. UndegunUndegdau. UndegtriUndegpedwar. UndegpumpUndechchwech. UndegsaithUndegwyth. UndegnawDauddeg.
(Mel yn eistedd ar y gadair ar frys. Llygaid ar gau)
Mel
Fi’n meddwl weithie’ bo’ fi’n marw. Wedyn fi’n poeni bo’ fi’n bod yn hunanol. Sut alle fi wastraffu amser yn poeni cymaint amdanaf i fy hun? Wedyn fi’n poeni bo fi’n treulio cymaint o amser yn styc yn fy mhen fy hun bo fi’n mynd i fethu rhywbeth pwysig. Bo’ fi’n mynd i fethu rhyw arwydd bod rhywbeth gwael yn mynd i ddigwydd.
So dyna pam fi’n trio cadw rheolaeth. Mae’n haws na chymryd y risg.
Dyna pam fi methu eistedd i lawr heb gyfri i ugain. Mae’n rhoi rhybudd i’r gadair, chi’n gweld, ac os ydw i’n eistedd i lawr heb gyfri i ugain, bydd hi’n cael sioc ac yn torri. Ac os fydd y gadair yn torri, bydd rhywun yn y teulu yn cael dolur. So ma’ rhaid i fi roi rhybudd i’r gadair er mwyn iddi ddisgwyl y pwysau a bydd hynny’n golygu bod neb yn cael dolur. Syml!
Ond dyw e ddim cweit mor syml â mater o gyfri i ugain. Byse’ hynny’n rhy hawdd. Ma’ rhaid i fi roi sylw i bob un llythyren. Pob un sillaf. Pob un rhif. Os na – bydd y gadair ddim yn clywed yn iawn – ac ma’ angen iddi glywed pob un llythyren er mwyn gallu paratoi.
Fi heb actually profi’r theori yma’n gywir ond dyw e ddim werth y risg. Fi ddim eisie’ cael fy mhrofi’n gywir a fi kind of ddim eisie’ cael fy mhrofi’n anghywir chwaith. Achos os byse’ fi’n cael fy mhrofi’n anghywir, bydde’ dim pwynt i fi gario ’mlaen gyda’r holl rituals. A hebddyn nhw, does dim rheolaeth gen i. Bach o catch-22.
(Mel yn dechre rholio smôc)
Fi ddim wastad di bod yn gymaint o control freak, o’n i actually arfer bod yn eitha … eitha normal … I guess. Nath e gyrraedd mewn breuddwyd. Go iawn. Fi’n gwbod bo’ fi’n swnio’n crazy ond fi’n hollol siŵr bod grŵp o aliens di tresbasu fy meddylie’ i un noson tra bo fi’n cysgu. Nathon nhw gyrraedd a dechre’ rhyfel cartref – gan wneud i drigolion fy ymennydd godi pac a gadael. Y trigolion call, oedd yn gallu rhesymu – oedden nhw wedi mynd erbyn y bore. Gan adael jyst fi a’r aliens newydd.
O’n i ofn cysgu am sbel wedyn, yn poeni byddai criw newydd ohonyn nhw’n cyrraedd dros nos. Dyna pam nes i benderfynu bo fi jyst yn mynd i aros ar ddihun o hyd. Bydde’ dim modd iddyn nhw gyrraedd tase fi ar ddihun na fydd. Ond o’dd hi’n eitha’ anodd aros ar ddihun bob nos so o’dd angen i fi ddod lan gyda dull newydd o reoli’r shit show o’dd yn mynd ymlaen.
Fi’n cofio rhyw noson, ar ôl i’r rhyfel cartref ddechrau yn fy mhen, nes i googlo ‘I can’t stop doing things that my brain tells me to do to stop bad things from happening’ a dod ar draws y term OCD. Dyma’r tro cynta i fi weld y term yn cael ei defnyddio i disgrifio cyflwr meddyliol yn hytrach na fel ansoddair i ddisgrifio person taclus a threfnus. Fi’n cofio chwerthin ac edrych ar yr holl lanast yn fy ystafell wely. Fi – OCD?!??! Fi’n colli popeth, yn torri popeth ac yn methu’n deg â chadw stafell wely fi’n daclus am fwy na 15 munud. Wedyn, nes i googlo ‘can you have ocd and still be messy?’
Mel yn chwerthin. Dad-rholio’r smôc. Dechre eto.
Mel
Dyna cyn lleied o’n i’n ei wybod am yr aliens yn fy mhen – o’dd hwn cyn i bawb ddechre’ siarad yn agored am iechyd meddwl ac o’n i go iawn yn meddwl bydde rhywun yn cloi fi lan achos bod ymennydd fi mor fucking weird.
Mel yn dad-rholio a rholio tua tair gwaith ac yn chwerthin eto.
Mel
Fi methu hyd yn oed rholio joint heb ail-ddechre’ degau o weithiau. Ma’ angen sicrhau bo’ fi’n neud e’n hollol gywir a ddim yn gadael unrhyw ddarn mas – sai eisie’ i’r baco deimlo’n left out neu god knows be alle’ ddigwydd. Mae’n exhausting, trio cuddio’r explosions parhaus sy’n mynd mlaen yn fy mhen. A fi’n gwbod bod e’n cliché ac yn questionable coping mechanism, ond ma hwn yn helpu. (Mel yn edrych i lawr ar y smôc ma hi newydd orffen rholio) Kind of … (Mel yn hanner chwerthin eto)… tan iddo fe neud i fi mor paronoid, mae’r meddylie’ yn rasio 100mph ac yn neud i fi deimlo hyd yn oed yn fwy weird.
Ond 90% o’r amser mae’n fine…
Mel yn tynnu paced o fatshys o’i phoced ac yn tanio’i sigaret.