Roedd ennill gwobr Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T eleni yn “deimlad ffab”, meddai Alaw Grug Evans a ddaeth i’r brig gyda’i darn ‘Pwyll a Rhiannon’.
Cafodd y ferch 19 oed o Bontyberem feirniadaeth hael iawn gan Catrin Finch, ac mae hi wedi disgrifio’r profiad fel “full-circle-moment” gan mai’r delynores wnaeth ei hysbrydoli i barhau i chwarae’r delyn, a mynd am yrfa ym myd cerddoriaeth.
Yn ei beirniadaeth, dywedodd Catrin Finch fod y darn wedi llwyddo i greu darlun gyda defnydd o harmonïau ac alaw “hyfryd a diddorol”, a’i bod hi’n awyddus i glywed mwy.
Yn ôl Alaw, sydd ar ei blwyddyn gyntaf yn astudio Cerddoriaeth ym Queen’s College, Rhydychen, mae ei llais cyfansoddi wedi’i ddylanwadu gan gerddoriaeth Geltaidd – a chainc gyntaf y Mabinogi oedd sail y darn buddugol.
“Teimlad ffab”
“Roedd e’n deimlad ffab, sa i’n credu bod e wedi bwrw fi’n iawn tan bore ’ma,” meddai Alaw, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, wrth golwg360.
“Fi wedi bod yn edrych ar y cystadlaethau cyfansoddi ers sawl blwyddyn, ac yn fwy na dim wnes i just byth dod rownd iddi.
“Golles i’r deadline llynedd, do’n i heb edrych, a doedd dim darn gyda fi oedd yn ffitio’r briff yn iawn felly ro’n i’n meddwl ‘mae’n iawn, deith hi ‘to’.
“Eleni, ro’n i’n meddwl fod y darn hwn yn siwtio, es i ati i’w fireinio, a’i roi e mewn. Fi ffili dod dros y ffaith bod e wedi dod i’r brig.”
Catrin Finch yn “ysbrydoliaeth”
Yn ei beirniadaeth, dywedodd Catrin Finch fod y tri darn a ddaeth i’r brig wedi gwneud argraff arni, a disgrifiodd gyfansoddiad Alaw fel un “prydferth” ac “ysbrydoledig”.
Daeth Ioan Rees o Gyffylliog ger Rhuthun yn ail, a Celt John o Ddolgellau yn drydydd – y ddau yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.
“I fod yn onest, mae Catrin Finch wedi bod yn rhywun sydd wedi ysbrydoli fi ers o’n i’n rili fach, achos dw i’n chwarae’r delyn hefyd,” meddai Alaw.
“Fi’n cofio da’th hi i’n hysgol gynradd ni pan o’n i’n siŵr o fod ambyti wyth neu naw, a ro’n i wedi bod yn chware’r delyn am, efallai, blwyddyn.
“Wedodd hi wrthym ni am ddod lan i chware’r delyn, a fi’n cofio fe mor glir.
“Bach o, fel maen nhw’n gweud, full-circle-moment – bod hi wedi ysbrydoli fi i fynd ymlaen i chwarae’r delyn, a mynd am yrfa mewn cerddoriaeth, a nawr mod i wedi bennu lan yn cael beirniadaeth mor ffab ganddi hi.”
Synau Celtaidd
“Fi’n teimlo fel bod fy iaith gyfansoddi i yn eithaf Celtaidd yn naturiol, a fi yn cael fy ysbrydoli lot gan gerddoriaeth Gymraeg, a synau eithaf Celtaidd sy’n bwysig i Gymru,” eglura Alaw wrth sôn am ei dylanwadau.
“Ond fi’n credu mai’r peth wnaeth ysbrydoli fi fwyaf… pan o’n i’n gwneud fy TGAU fe wnes i benderfynu cyfansoddi deuawd i’r delyn a’r cello ar sail Branwen.
“Pan dda’th hi at gyfansoddi darn arall, ro’n i’n meddwl bydde fe’n neis i allu cyfansoddi darn ar sail cainc arall. Felly es i am gainc Pwyll a Rhiannon, ac ychwanegu mwy o offerynnau i’r ensemble fel bod gyda fi fwy o sgôp i gyfansoddi.
“Mae’n neis, achos mae da fi gipolwg [o geinciau’r Mabinogi] o lot o adegau gwahanol yn fy nghyfansoddi.
“Mae ’da fi un o pan o’n i tua 16, hon gyfansoddais i tua blwyddyn yn ôl, a nawr fi’n gobeithio mynd ymlaen i gyfansoddi Blodeuwedd flwyddyn nesaf fel rhan o fy ngwaith cwrs i.”
“Darn yn byw ar wahân i mi”
Er bod Alaw wedi bod yn hoff o gerddoriaeth a chyfansoddi ers iddi fod yn blentyn, mae hi’n cyfansoddi o ddifrif ers oedd hi tua phymtheg oed.
“Yn lle ei fod e just yn rhywbeth ro’n i’n eistedd lawr o flaen piano, chwarae, a meddwl ’dyna ni’ – roedd e’n rhywbeth oedd yn fwy o broses, llai o rywbeth bant â hi,” meddai.
“Mae e’n rhywbeth dw i wedi cael shwd gymaint o bleser ma’s ohono.
“Mae e’n hollol wahanol i berfformio. Ro’n i’n meddwl hyn ddoe, mae’r darn hyn yn byw hebdda i, mae’n byw ar wahân i mi.
“Dw i jyst yn gweld e mor od bod pobol nawr wedi clywed e.
Dywedodd Alaw, sy’n astudio’r Llais fel prif offeryn fel rhan o’i gradd, ei bod hi’n hoff o berfformio, yn ogystal â chyfansoddi.
“Mae cyfansoddi’n rhywbeth hirdymor, mae’n cymryd mwy o amser, ac mae’n broses mwy unig, mewn ffordd, achos mae’n cymryd lot o amser i gyrraedd pwynt lle mae pobol yn gallu bod yn rhan o’r darn, perfformio fe, gwrando arno fe.
“Ond mae’r un math o bleser yn dod o’r ddau.”
- Gallwch wylio uchafbwyntiau Eisteddfod T ar S4C/Clic