Bu enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2021, y nofelydd Raven Leilani o’r Unol Daleithiau, yn sgwrsio am ei nofel fuddugol yng Ngŵyl y Gelli Ddigidol.

Mae ei nofel gyntaf, Luster, wedi ei disgrifio gan y Wasg Seisnig fel ‘a firecracker of a début’ ac ‘a millenial novel for the ages’ a nifer yn rhagweld gyrfa lewyrchus iawn i Raven Leilani.