Mae gan unbeniaid y byd “gyfle euraid” i ormesu gyda’u negeseuon bachog wrth i bobol gael eu “llethu” gan wybodaeth diolch i covid a’i sgîl-effeithiau.

Dyma farn y nofelydd a’r ymgyrchydd o Dwrci, Elif Shafak, a oedd yn rhan o sgwrs banel ar ail ddiwrnod Gŵyl y Gelli Ddigidol 2021, ar lyfr aml-gyfrannog Rethink: How We Can Make a Better World. Mae’r llyfr yn seiliedig ar bodlediad Amol Rajan, Golygydd Cyfryngau’r BBC, a oedd yn arwain y drafodaeth ar-lein.