Rhiannon Lloyd Williams o Gaerdydd yw Prif Ddramodydd Eisteddfod T eleni.

Fe wnaeth y beirniad, Elgan Rhys, ddatgelu mai Rhiannon oedd yr enillydd mewn seremoni arbennig oedd yn cael ei darlledu’n fyw o Wersyll yr Urdd yn Llangrannog brynhawn heddiw (2 Mehefin).

Roedd gofyn i gystadleuwyr gyfansoddi drama neu fonolog heb fod dros bum munud o hyd ar gyfer dim mwy na dau actor, ac a fyddai’n addas i’w berfformio ar sgrin neu lwyfan.

Yn ôl y beirniad, daeth 38 o geisiadau i law, a’r gystadleuaeth yn un “amrywiol ar yr ochr orau”.

Daeth Delyth Evans o Silian ger Llanbed yn ail, a Martha Grug Ifan o Langynnwr ger Caerfyrddin yn drydydd.

Roedd y tri a ddaeth i’r brif yn “chwa o awyr iach” meddai Elgan Rhys, gyda sawl llinell o waith Rhiannon, Help(u), wedi “aros yn y cof”.

“Mae Help(u) wedi’i sgwennu’n grefftus a’n denu’r dychymyg yn syth bin gyda darn sy’n teimlo ei fod wedi amsugno holl heriau cymdeithasol a gwleidyddol y flwyddyn ddiwethaf, a chreu stori o’r newydd am gymhlethdod cyfeillgarwch dwy ffrind sydd ddim yn rhannu’r un breintiau,” meddai Elgan Rhys am y gwaith.

Rhiannon Lloyd Williams

Cafodd Rhiannon ei geni ym Mryste, a’i magu yng Nghaerdydd. Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor yn 2017, ac mae hi bellach yn gweithio fel rhan o dîm marchnata a hyrwyddo S4C.

Mae ganddi waith wedi’i gyhoeddi eisoes mewn sawl cyfrolau megis Can Curiad, Adref, a Byw yn fy Nghroen.

Yn sgil y ‘Cynllun Dramodwyr Ifanc’, sy’n bartneriaeth rhwng yr Urdd, Theatr Genedlaethol Cymru ac S4C, cafodd ffilmiau o’r dramâu buddugol eu comisiynu a’u creu ar gyfer platfform Hansh.

Fel rhan o’i gwobr, derbyniodd Rhiannon dlws arbennig wedi’i greu gan y cerflunydd Ann Catrin Evans, a bydd hi’n treulio blwyddyn fel Dramodydd Preswyl Ifanc gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

Yn ogystal â chael ei mentora gan dîm y Theatr Genedlaethol, bydd yn cael cyfle i gael ei mentora gan Gomisiynydd Drama S4C a gweithio gydag ambell awdur blaenllaw.

  • Gallwch ddarllen y gwaith ddaeth i’r brig, isod.

Cystadleuaeth y Prif Ddramodydd

Y gwaith ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Prif Ddramodydd