1. Betsi Lw, Aelod Unigol, Eryri

Gadael Lerpwl, i fyd i Gymru fel ifaciwi

Golygfa 1

Ifan 8 oed,i fyny grisau yn pacio, yn barod i fynd ar y tren i’w gartref newydd

Ifan: Mam!! Lle ma fy nhei? Plis helpa fi bacio.(yn gweiddi uchel ei gloch o fyny’r grisa’)

Mam: Ifan! Tyd, fyddi di’n hwyr, mae’r tren yn gadael mewn hanner awr! Nai ddod i dy helpu wan… dau funud.

(mam yn cerdded fyny’r grisau yn flin fel cacwn)

Mam: Be tisho help hefo wan Ifan? Gobeithio na fyddi di ddim felma yn dy cartref newydd, yn gwneud gymaint o olwg. Mae dy stafell wely di yn edrych fel bod yna fom wedi hitio’r lle!

Ifan: Hy!!! Fydd hi ddim hir tan fydd hynny’n digwydd go iawn. (Ifan yn edrych rownd yr ystafell wely, gyda dagrau yn ei lygaid)

(Mam yn cerdded tuag at Ifan)

Mam: Dwi am dy golli di yn fawr. (rhoi cwtch i Ifan)

Ifan: A fi, ond gobeithio fydd chdi a dad yn cadw’n saff.

Mam: Dwi yn siwr fydd dy dad a fi yn iawn. Daw eto haul ar fryn.

(mae’n gorffen pacio)

Ifan: Dwi’n barod Mam, nai ddisgwyl yn yr ardd, ond gyntaf rydw i am ddeud ta ta wrth nain, taid, a dad.

Mam: Iawn cariad, nai dy gyfarfod chdi yn yr ardd er mwyn i ni gerdded i’r orsaf tren mewn deg munud.

Ifan: Iawn. (cau y drws ar eu ôl)

(Ifan yn cerdded ar draws y stryd, gan chwifio ei law gan ffarwelio, ȃ phobol y dref)

Ifan: Ta ta Mr Jones, gweld chi’n fuan.

Mr Jones: Ta ta Ifan, gobeithio gei di daith ddiogel.(chwifio eu law yn ôl)

Ifan: Ta…ta (gyda lwmp yn ei wddwf)

(Mae’n cyrraedd ty nain a taid, sydd pump drws i lawr y ffordd o’i gartre, felly doedd o ddim yn cymryd eiliad i gerdded yna)

Ifan: Helo? Nain, taid? (agor y drws yn araf fel malwoden)

Nain: Ooo, Ifan, mi oeddwn ni yn dy ddisgwyl. Tyd yma i gael cwtch gyda nain. (Nain yn rhoi eu dwylo allan yn barod i cael cwtch)

Ifan: Nain! (rhedeg ati yn ddagreuol)

Nain: Rydw i hefo rhywbeth bach i chdi.(agor y bag ac estyn rhywbeth)

Nain: Dyma chdi Ifan, rydw i wedi gweithio drwy’r nos, yn gweu y sgarff fach las yma. pam fyddi di’n gwisgo hon… cofia amdanaf. Iawn?

Ifan: Wrth gwrs nain, nai byth dy anghofio. Diolch yn fawr nain. Caru chdi. (rhoid cwtch mawr)

Nain: Caru chdi gymaint hefyd Ifan. Dos i ddeud ta ta wrth dy daid wan. (estyn ei llaw a rhoddi’r sgarf iddi fo)

Taid: Aaa! Fana ti Ifan bach. Tyrd i eistedd ar fy gnlin wan (clapio eu ddwylo ar eu lin)

Ifan: Taid, paid a dweud wrth neb ond, rydw i am dy golli di fwyaf.

(Ifan yn gwenu o glust i glust)

Taid: Ooo! dwi am golli di hefyd. Dyna pam dwi wedi carfio hwn i chdi. (Taid wedi carfio cerflun fach o taid a ifan yn gafael llaw)

Ifan: Ooo, mam, bach! Diolch taid, hwn ydi y presant gorau yn y byd.(rhoid cwtch mawr iddo)

Taid: Iawn! Well i chdi fynd, fyddi di’n colli dy drȇn. Neith nain a fi ddod at y drws tra ti’n mynd adra at dy dad a dy fam.

Ifan: Iawn (neidio oddiar glin taid)

Nain a Taid: Ta ta, caru chdi. (yn gweiddi gyda’i gilydd)

Ifan: Ta, caru chi hefyd. (chwifio ei law)

(cyrraedd adre)

Ifan: Mam dwi yn nôl. Nai ddeud Ta ta wrth Dad, ac wedyn nawn i fynd ia?

Mam: Iawn (hefo tristwch yn ei llais)

(Ifan yn rhedeg i fyny’r  grisau at gwely mam a dad)

Ifan: Haia Dad, rydw i angen mynd rwan. Dwi yma i deud  ta ta.

Dad: Ooo Ifan cymer ofal, dwi am dy golli di’n llawer, tyd yma rydw angen cwtch.

(rhoid eu ddwylo allan a rhoi cwtch fawr i Ifan)

Ifan: Dwi am dy golli di. Gobeithio byddi di’n iawn. Fyddai ddim yn hir tan fyddai i adra’n ôl.

Dad: Dwi’n siwr fydda i yn iawn.

Ifan:  Ta ta dad. (Ifan hefo dagrau yn ei llygadau)

Dad: Cymer ofal, a bydda’n hogyn da Ifan.

 

Math Dafydd Roberts

2. Math Dafydd Roberts, Adran Rhostryfan, Eryri

Camgymeriad

Alun – Bachgen Hwyliog a sionc

Bleddyn – Hoff o chwaraeon

Iolo – Llyfrgarwr a chlyfar.

 

Y sefyllfa – Y tri ar fin gosod trap fel bod yr athrawon yn llithro a dim gwersi am weddill y prynhawn.

 

Iolo: (Yn ofalus) Reit! Ma’i’n amser i ddechrau yr ymgyrch!

Bleddyn: Cofiwch fod yn gyflym!

Alun: (Gan wenu) Mi reda’ i efo’r llinyn a’i glymu wrth y drws felly pan ddaw Mr Jones allan o’r ‘stafell athrawon ar y ffordd i’r dosbarth mi fydd o’n baglu a mi fydd o ar lawr.

Iolo: Iawn. Bleddyn gwna di yn siwr bod neb yn dod.

Bleddyn: A be wyt ti yn mynd i fod yn g’neud tra da’ni yn gweithio.

Iolo: (Yn ddi eiriau) Mi fydda i yn …yyyyy…… asesu’r broses. Yyy rhag ofn bod’na spies o gwmpas.

Bleddyn: (Wedi laru) (Gan rowlio ei lygaid) Go brin.

Alun: Dwi’di gosod y llinyn

Iolo: (Gan godi ei fawd) Da iawn.

Bleddyn: (Mewn panig) Dwi’n clywed rhywun yn dod ac yn chwibanu. Dwi’n meddwl ma’ Mr Jones ydi o.

(Yr athro yn baglu ar y llinyn. (Y tri yn rowlio chwerthin)

Yr Athro: (Yn flin) Pwy ‘nath hyn hogia!?

Alun, Bleddyn a Iolo: Mr Williams!

(Mr Williams yw’r prifathro.)

Alun: (Mewn sioc) Helo Mr Williams. Da ni ddim yn gwybod pwy nath hyn.

Bleddyn: (Gan ysgwyd ei ben) Dim ni ‘nath.

Iolo: (Mewn twll) Mi oedden ni yn trafod yyy……effaith dŵr ar basta.

Mr Williams: I’r swyddfa rwan!

Alun: (Yn ddistaw) Wps!

Bleddyn: (Yn sibrwd ac yn flin) Baglu Mr Jones oedden ni i fod i wneud nid Mr Williams y prifathro

Leusa Davies

3. Leusa Davies, Ysgol Gynradd Bro Cernyw, Conwy

Sgript : Cyn gem rygbi Cymru

CYMERIADAU

Alun Wyn jones

George North

Lee Halfpenny

Josh Adams

Wayne Pivac

Gweithiwr Y Stadiwm

LLEOLIAD : Ystafelloedd newid, Principality stadium 

Alun Wyn Jones:   Iawn…. ydi pawb yn cofio’r tactegau roedden ni’n gweithio arnyn nhw yr wythnos diwethaf?

George North:   Yndan!… Ond lle mae Josh Adams? (edrych o’i gwmpas)

Lee Halfpenny:  O na!….mae’n siwr bod o’n hwyr eto!(edrych ar ei oriawr) Beth fydd ei esgus o y tro yma tybed? (chwerthin iddo fo ei hun)

Alun Wyn Jones: Rydw i’n meddwl mai wedi colli ei esgidiau rygbi fydd o! (chwerthin)

George North: Wel.. Dwi’n meddwl mai anghofio bwydo ei gath fydd o! (chwerthin)

Lee Halfpenny: Rydw i’n meddwl mi anghofio ei focs bwyd fydd o!

( pawb yn chwerthin cyn tawelu a meddwl am y gem, Wayne Pivac yn dod i mewn i’r ystafelloedd newid)

Wayne Pivac: Iawn te bois…Ydi pawb yn barod i ddod ar y cae?…  Rydw i wedi clywed Fabiengalthie hyfforddwr Ffrainc yn trafod tactegau!

Chwaraewyr Cymru: WWWW! (cyffrous)

Wayne Pivac: Glywais i on dweud bod ein llinell amddiffyn ni’n wan!(edrych a pwyntio ar y cefnwyr)

Cefnwyr Cymru: (siomedig) OOOO!!

Wayne Pivac: Felly dangoswch iddyn nhw heddiw bois!.. Taclo caled ac amddiffyn fel wal!! (gweiddi yn hyderus)

Alun Wyn Jones: (llaw i fyny) Ymm esgusodwch fi Wayne… mae gennym ni un broblem fach!

Wayne Pivac: (dryslyd) Be’?

Alun Wyn Jones: Tydi Josh Adams ddim wedi troi fyny heddiw!

Wayne Pivac: (yn boenus) Roedd o yn y sesiynnau ymarfer….., be’ sydd wedi digwydd??!!

(Gweithiwr y stadiwm yn cerdded i mewn i’r ystafelloedd newid)

Gweithiwr y stadiwm: Mae’n amser cael y tîm mas ar y cae!

George North: (edrych o’i gwmpas yn poeni) Ond beth am Josh Adams, tydi o heb gyrraedd?

Gweithiwr y stadiwm: (codi ei ysgwyddau) Dim fy mai i ydi hynny!… Dewch rŵan!… Mae chwaraewyr Ffrainc yn aros!

( Y tim yn cerdded ar y cae, Josh Adams yn cyrraedd yn hwyr ac yn rhedeg ar ôl y tim)

Josh Adams: (wedi colli ei wynt) Sori!.. , sori, arhoswch amdana i!

Alun Wyn Jones: (yn flin) Lle ti di bod?…. Mi fuasai yn rhaid i ni chwarae hebddot ti os na byddai ti wedi dod munud yn hwyrach.!..(ysgwyd ei ben) Chwarae Ffrainc gyda 14 dyn!!!!

George North; Mae o yma rŵan a dyna beth sydd yn bwysig!

Josh Adams: (yn bryderus) Sori!.. Sori!   Roeddwn i yn meddwl mai yn Paris oedden ni’n chwarae heddiw!

Lee Halfpenny: A gad i mi ddyfalu….roeddet ti’n Ffrainc..a dyna pam rwyt ti’n hwyr! (taro Alun Wyn Jones yn ei fraich yn chwareus)

Josh Adams:  Ha ha!…..Roeddwn ni ar y ffordd i’r maes awyr  pan glywais ar y radio bod Stadiwm y Principality yn llenwi  yn gyflym!

Lee Halfpenny: (Chwerthin)Wel y twmffat gwirion!

Alun Wyn Jones: (chwerthin) Wel dyna fi wedi clywed popeth rŵan!!

Wayne Pivac: Dewch…. digon o siarad!  Canolbwyntio ac ewch amdani bois! CYMRU! CYMRU! CYMRU!