1. Lleucu Alaw Davies, Ysgol Gynradd Saron, Dwyrain Myrddin

Ysbryd y Wyrcws

Roedd hi’n noson oer yn y wyrcws, y gwynt yn chwythu’n daranllyd, tarodd dail y ffenest fel ymwelwyr llwglyd yn cyrraedd am ginio. Roedd Anest- merch deuddeg mlwydd oed, a’i ffrindiau gorau- Tomos a Fflur, yn cysgu’n drwm fel cathod cysglyd clud. Roedd gan Anest ofn dwys o herwgipwyr ac ysbrydion, ac roeddynt yn aml yn aflonyddu ei thrwmgwsg. Doedd y noson hon ddim yn eithriad, breuddwydiodd Anest am y dyn hyll yn ei herwgipio unwaith eto.  Doedd Anest ddim yn adnabod y dyn hyll, ond teimlodd ei fod e yn ei hadnabod hi!  Yn ogystal â hyn, roedd y dyn yn ei galw hi yn ‘Ani’, a dim ond ei mam oedd yn ei galw hi wrth yr enw yma pan oedd yn blentyn bychan.   Fel canlyniad i’r hunllef, neidiodd Anest allan o’i gwely’n anghyfforddus fel cwningen yn ceisio dianc wrth flaidd ymosodol a gwelodd gysgod dros ei gwely.  “A’i dyma’r dyn hyll?”, gofynnodd Anest i’w hyn, o achos hyn rhuthrodd draw i ddihuno Fflur a Tomos.

“Fflur…  Tomos…” Sibrydodd Anest yn dawel fel llygoden ddistaw.

Sibrydodd Tomos yn ôl gan ddweud, “Beth wyt ti’n gwneud, mae hi’n 2:00yb?!”

Aeth y tri ffrind i eistedd i lawr ar bwys ei gwelyau pam nododd Anest…

“Cefais freuddwyd cas unwaith eto, roedd yn ymwneud â’r dyn yn fy herwgipio, a phan ddeffrais, gwelais gysgod enfawr dros fy ngwely fel eclips o’r haul!”

Atebodd Fflur gan ddweud, “Paid â bod yn ddwl, does neb yn mynd i dy herwgipio!”

Gwnaeth Tomos a Fflur sbri ar ei phen trwy ei dynwared, “O na, mae’r dyn cas, hyll yn ôl!”,chwerthinodd Tomos yn gellwair.

Ychwanegodd Anest,  “Os af i i’r ystafell arswydus y Wyrcws, ydych chi’ch dau yn addo y byddwch chi ddim yn fy mhoeni i am fy ofn?!”

“Wrth gwrs, ond dim nawr oherwydd mae hi’n 2:00 y bore! Beth am fynd bore fory pan fyddwn yn deffro?” awgrymodd Tomos.

Roedd Anest yn benderfynol i fynd i ymchwilio’r ystafell arswydus yng nghornel pella’r wyrcws.  Penderfynodd fynd heb ei ffrindiau a oedd bellach yn rhuo fel moch yn ei gwelyau.  Roedd rhywbeth yn denu Anest ond doedd hi ddim yn gallu esbonio sut, teimlodd fod rhaid iddi fynd yn y man a’r lle i’r ystafell.   Roedd hi dal yn dywyll fel bol buwch, oni bai am olau cynnes ambell gannwyll, curodd calon Anest fel drymiau swnllyd mewn band! Clywodd ei chalon yn fyddarol. Cynyddodd y sŵn yn raddol o fod yn berffaith tawelwch i gôr o bryfed yn yr anialwch.    Wrth i Anest gerdded tuag at ddrws yr ystafell, fe ddechreuodd fwrw hen wragedd a ffyn a gwelodd fflach o lyched yn goleuo’r awyr drwy’r ffenest.

Cyrhaeddodd hen ddrws bren yr ystafell.  Drws oedd heb ei hagor ers degawdau.  Drws llawn mwsogl a mwd.  Agorodd Anest y drws, atseiniodd sŵn uchel fel gwichiad lygoden o amgylch y wyrcws, roedd hi wedi syfrdanu ei fod heb ddihuno pawb.  Disgynnodd lwch o’r colfachau a hen we prycop dros ei phen. Wrth i Anest gerdded trwy’r llwch i ganol yr ystafell gwelodd gannwyll yn llosgi yn ddisglair fel seren yng nghornel yr ystafell.   Teimlodd yn amheus, “Sut yn y byd mae’r gannwyll wedi cynnu mewn ystafell sydd heb ei hagor ers degawdau?”

Cerddodd Anest gam ym mhellach mewn i’r ystafell, blasodd sylffwr y mwg o’r goelcerth. Arhoglodd aroglau llaith fel hen bâr o sanau drewllyd.  Gwelodd cart llwydaidd, budr, hyll ag ystlumod brawychus yn syllu nôl arni. Clywodd sŵn atgyweiriedig gwnaeth brifo ei chlustiau, sŵn arswydus gwnaeth godi braw arni.  Teimlodd Anest ei bod hi wedi gwneud camgymeriad ofnadwy i fynd i’r ystafell ar ben ei hun ac roedd yn edifarhau ei bod hi heb fynd gyda Tomos a Fflur.

Yn sydyn, gwelodd Anest ysbryd yn syllu arni o gornel yr ystafell. Ysbryd y dyn mawr hyll!  Roedd yr ysbryd yn enfawr fel eliffant — ac yn wyn fel arth wen. Dwedodd yr ysbryd dim un gair, roedd e’n dawel fel llygoden bitw fach.  Sbiodd yn ddigyfaddawd ar Anest, fel petai iddi dorri rheolau drwy agor y drws.  O ganlyniad, dechreuodd yr ysbryd erlid Anest yn gyflym fel teigr pwerus! Roedd Anest mewn sioc! Digwyddodd pob peth mor sydyn a doedd ganddi ddim eiliad i feddwl, dim ond ymateb yn reddfol.  Rhedodd hi allan o’ r ystafell arswydus, lawr y grisiau, rownd y coridor a nôl mewn i’w ystafell gysgu at Tomos a Fflur.

Gyda’i gwynt yn ei dwrn, sylwodd Anest fod y gwelyau’n wag! Doedd Fflur a Tomos ddim yna! “Ble maen nhw tybed?” dwedodd Anest wrth ei hun.

Chwiliodd Anest yn wyllt trwy’r dillad gwely fel plentyn yn chwilota am degan ar ddydd Nadolig. Roedd Anest yn panico, credodd hi fod ei ffrindiau wedi cael eu herwgipio gan yr ysbryd! Ond sut?  Roedden nhw yn sâff yn cysgu’n dynn munudau yn ôl.  Ble oedden nhw tybed?

Clywodd olion traed, trodd Anest i wynebu’r cyfeiriad y swn a gwelodd yr ysbryd yn syllu arni fel cath yn paratoi i hela! Gwisgodd yr ysbryd hen ddillad wedi’i rhwygo yn dangos ei groen budr, llwydaidd. Yn sydyn, gostyngodd y tymheredd gan adael naws oeraidd. Rhewodd Anest yn ei hunfan, roedd cymaint o ofn arni. Beth oedd yr ysbryd am wneud?! Pam oedd yr ysbryd yma?

Yn araf bach, symudodd yr ysbryd ei ddwylo lan at ei wyneb. Ond pam?! Tynnodd fwgwd hyll o’i wyneb gan ddatgela Tomos a Fflur!

“Ond… ond… beth?!” dywedodd Anest yn ddryslyd.

“Sypies haha!”, dywedodd Tomos yn chwerthinllyd.

“Ni sydd wedi bod yn chwarae tric arnat ti’r holl amser!”, dywedodd Fflur

“Gwnaethom ddweud wrthot ti bod ddim shwt beth ag ysbrydion i gael.” ychwanegodd Tomos.

Daeth Anest dros ei hofn a cherddodd y tri yn araf yn ôl i’w gwely. Teimlodd Anest ryddhad enfawr wrth iddi ymlacio yn ôl yn ei gwely cynnes gan wybod fod dim shwt beth i gael ag ysbrydion.   Ond wrth iddi ddechrau syrthio mewn i’w thrwmgwsg, clywodd rhywun yn galw ei henw mewn llais bythgofiadwy erchyll, “Ani, Ani”.

 

 

Lleu Morus Williams

2. Lleu Morus Williams, Ysgol Gynradd Llanfairpwll, Ynys Môn

YMSON LLWYD YR ELIFFANT

Dyma nhw eto y creaduriaid bach od sy’n pasio heibio bob dydd  – degau ohonyn nhw fel lepricon’s hefo dwy goes, dwy fraich  ac yn codi llaw a pwyntio arna’i yn dragywydd. A wyddoch chi beth, ma’ nhw’n gallu bod yn ddigon haerllig, yn dweud pethau fel “ Sbia , Dymbo go iawn!!”. Rwan dwi’n gwbod falla nad ydw i yr un mwya peniog yn fy nheulu, ond dwi’n un da am gofio ffeithiau a wynebau, felly na tydw i ddim yn Dymbo!! A pheidiwch a dweud fy mod i’n groendenau – d’eud y gwir ma gen i groen ddigon trwchus, er braidd yn grychlyd.

Peth arall sy’n fy ngwylltio am y creaduriaid ‘ma ydi eu bod nhw’n gofyn i mi os dwi’n gallu hedfan drwy ddefnyddio fy nghlustiau… wel am bowld!! Nid fy mai i ydi o fod gen i ddwy glust anferth, mae o’n rhedeg yn y teulu da chi’n gweld. Er ma’ gan fy nghyfneither Eli, sy’n dod o India, glustia’ llai na mi!

Peth arall sy’n creu penbleth i mi ynglyn a’r creaduriad ‘ma ydi eu bod nhw’n sefyll o’m mlaen i ac yn dal rhyw flwch bach sgwar o’u blaenau, yn gwenu fel giat cyn i olau fflachio – be aflwydd ma nhw’n ei neud?

Duw a wyr sut ma nhw’n cadw’n cwl yn y tywydd poeth ‘ma? Dwi mor lwcus o fy nhrwyn sy’n gallu sugno llond môr o ddŵr a wedyn ei dasgu fel cawod enfawr dros fy nghefn – ew braf!!

Dwi’n cofio fy hen daid, a mi yda ni’n rhai da fel teulu am gofio, yn dweud bod yna baradwys tu hwnt  i’r lle ‘ma … a’r paradwys yna ydi Affrica. Dyna lle gafodd taid a nain eu geni ylwch. ‘Swn i’n hoffi mynd i’r paradwys yna rhyw ddiwrnod. ‘Da chi’n cael cerdded milltiroedd yn fanno medda’ taid er mwyn cael molchi a cael llymaid o ddŵr mewn lagwn. Ond yn fama…, mae un o’r creaduriaid deudroed sy’n gwisgo dillad gwyrdd yn rhoi dŵr i ni drwy rhyw bibell i gafn. ‘Da ni ddim yn gwybod ein geni medda nain a ‘da ni wedi’n magu i fod yn ddiog medda hi!! Ma’ hi’n un da i siarad! ‘Ma hi’n gorwedd bron drwy’r dydd ac yn troi ei chefn ar y creaduriaid deudroed. Er ma’n reit ddigri pan ma hi’n sugno dŵr drwy’i thrwyn ac yn ei wasgaru dros y creaduriad heb iddyn nhw ddisgwyl hynny!! Sôn am halibalw bryd hynny!

 

Fflur McConnell

3. Fflur McConnell, Ysgol Gynradd Aberaeron, Ceredigion

2033 gan Dil Deryn

“Ond Mam! Plis ga i fynd ar lein? Do’s dim byd i ‘neud a do’s neb ‘da fi chwarae gyda!” plediais.

“O Megan fach, dere, beth am i ni fynd am dro i’r goedwig?” gofynnodd Mam yn garedig.

“Iawn!” ochneidiais yn ddiflas. Agorais y gât cariadon er mwyn croesi’r bont ac wrth ymestyn fe welodd hi’r freichled. Edrychodd yn syn. “Megan? Beth wyt ti’n ‘neud yn gwisgo dy freichled dlysau?” Cyn i fi ateb gwelodd un o’i ffrindiau. O na! Dechreuodd y glonc, a chloncan, a chloncan a chloncan am oesoedd. Ro’n i wedi cael llond bola. “Mam, fi’n mynd i iste ar y fainc draw fan ‘na. Iawn?” gofynnais. Ond wnaeth Mam ddim ateb, roedd hi rhy fisi’n cloncan i sylwi ar ddim.

Yn sydyn…baglais dros foncyff. Teimlais fy hunan yn cwympo fel pancwsen mewn padell ffrio. Aeth pob man yn ddu. Y peth nesa a welais oedd ciw hir, hir o bobl fel neidr droellog, a phob un yn magu’r un llyfr ’Y Cyfnod Clo-itis’. Ar y clawr roedd fy llun i! Fi yn gwisgo mwgwd blodau wnaeth Mam wnïo i fi! O dan y llun roedd enw’r awdur…MEGAN WILLIAMS. Fi?!?! Waaaaw! Ar ddiwedd y ciw roedd ’na fynydd o lyfrau ar fwrdd bach crwn ac arwydd yn nodi ‘Llyfr y Flwyddyn, 2033, Y Cyfnod Clo-itis, gan Megan Williams’.

Yna wrth ysgwyd fy mhen mewn anghrediniaeth, fe ddiflannodd y llun. Y tro ‘ma ro’n i mewn lle crand iawn a fflachiadau camerâu o bob cyfeiriad. Roedd torf enfawr o bobl yn gweiddi “Megan! Draw fan hyn! Draw fan hyn! Gawn ni lun pliiiis?” Roedd ‘na garped coch melfedaidd yn ymestyn o’r limwsîn sgleiniog i’r drws awtomatig yn arwain i’r sinema. Roedd y cyfan yn anghredadwy, fy ngwaith wedi’i droi yn FFILM. ANHYGOEL! Sai’n gallu credu’r peth! Ai dyma fy nyfodol? O’n i’n mynd i fod yn awdur enwog fel… T. Llew Jones?

Ro’n i ‘di achwyn gymaint o fod yn ‘bored’ dros y flwyddyn ddiwetha’ ond o’n i’n teimlo’n wahanol iawn nawr. Mewn llais bach bach sibrydais, “Fi moyn mynd adre nawr.” Yn y pellter gwelais goedwig! Yn pwyso ar wal roedd ‘na feic. Roedd fy nghalon yn curo’n gyflym fel cnocell y coed. Doedd dim dewis ond pedlo fel y gwynt ac anelu am y goedwig.

Hanner awr yn hwyrach ro’n i’n edrych ar arwydd ‘Croeso i Goedwig Natur Llanerch’. Y goedwig ar bwys tŷ ni! Ond ble roedd Mam? Edrychais ar y freichled swyndlysau. Teimlais yn hiraethus. “Fi moyn mynd adre, fi rili moyn mynd adre, fi rili rili moyn mynd adre i weld Mam” adroddais yn drist. Yn sydyn teimlais rhywbeth yn cosi yng nghledr fy llaw. A’r eiliad nesa’ daeth aderyn o unman a chyhoeddi, “Gwasanaeth tacsi at eich sylw!”

“Beth?!” Aderyn yn siarad. Do’n i ddim yn gallu credu’r peth!

”O helo, Dil Deryn ydw i. Ble wyt ti ise mynd heddi’ Megan?” gofynnodd.

“Shwt wyt ti’n gwybod fy enw? Shwt wyt ti’n gallu siarad? O ble ddest ti?” Do’n i ddim yn gallu credu’r peth!

“Wel o dy freichled di. Mae’n hudol. Os wyt ti’n rhwbio ac yn dymuno tair gwaith wedyn dw i’n dod yn fyw. Mae popeth sy’n sownd i’r freichled yn gallu dod yn fyw ac yn clywed popeth!”.

“Beth?” Ro’n i wedi rhyfeddu!

“Dal sownd! Cwyd dy ben a ymestynna dy freichiau!” gorchmynnodd Dil mewn llais awdurdodol.

“Paid cwympo fiiiii!” sgrechiais mewn llais gwichlyd. Ro’n i’n teimlo’n rhydd o holl broblemau’r byd. Ro’n i wedi anghofio am Corona feirws ac am yr holl ddiflastod. Roedd fy ngwallt tonnog yn chwythu’n wyllt yn y gwynt. Gwelais y coed mawr oddi tano fel brocoli gwyrdd. Roedd Dil yn gwibio fel sgïwr medrus mewn a mas i osgoi’r coed.

Yr eiliad honno, teimlais fy hun yn cwympo’n sydyn o afael Dil. Yn cwympo, a chwympo a chwympo o hyd, nes …. sblat! O bell, clywais lais cyfarwydd… Mam? Codais. Rhwbiais fy mhen. Ai breuddwyd oedd y cyfan? Edrychais ar fy mreichled. Doedd yr aderyn ddim arni! Yn sydyn, disgynnodd rhywbeth o’r awyr. Swyndlwys aderyn! Rhoddais e’n ddiogel yn fy mhoced rhag ofn i Mam i’w weld.

Ond Nefi Blŵ! Roedd hi’n cloncan o hyd……