1. Elen Thomas-Evans, Ysgol Y Wern, Caerdydd a’r Fro

Adolygiad Prif Weinidog Mewn Pandemig

Pwy yw Mark Drakeford? Yn ddiamheuaeth, mae’r rhaglen Prif Weinidog Mewn Pandemig yn rhoi cipolwg unigryw a phrin ar fywyd a gwaith Mark Drakeford yn ystod cyfnod clo, ar ôl i gamerâu S4C ei ddilyn am fisoedd. Mwynheais i’r rhaglen hon yn fawr, oherwydd mae’n anarferol i gael mewnwelediad cystal i fywyd gwleidydd, yn enwedig un mor bwerus â Mark Drakeford.

Mae’r rhaglen yn dechrau gyda Mark Drakeford yn chwarae tennis, yn rhoi argraff bendant i’r gwyliwr bod Mr Drakeford yn mwynhau ymarfer corff. Mae’n cael ei ddangos yn aml yn cydweithio gydag aelodau eraill adnabyddus o’r byd gwleidyddol, er yn dirmygu Boris Johnson ar rai adegau. Dywedodd Mark Drakeford ar ôl cyfarfod rhithiol gyda Boris Johnson: “Dear me! He really, really is awful”. Er hyn, mae Mark Drakeford yn llwyddo i gydweithio gyda fe a’i lywodraeth yn dda, er mwyn cadw heddwch yn y Deyrnas Gyfunol.

Heb os nac oni bai, mae’n amlwg o wylio’r rhaglen ddogfen hon fod Mark Drakeford wedi gwneud gwaith da fel prif weinidog, mewn sefyllfa galed a thrist. Mae’r camerâu’n dangos yr her o gynllunio cyfnodau clo, a hefyd y feirniadaeth gyson ar y cyfryngau cymdeithasol – y mwyafrif helaeth o’r feirniadaeth hon yn annheg.

Fy hoff ran o’r ddogfen oedd pan ddysgais i am ymateb amhriodol Boris Johnson yn dilyn cais Mark Drakeford i gau’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Daw hi’n amlwg yn y rhaglen mai ymateb trahaus Boris Johnson oedd cyhoeddi datganiad i’r wasg.

Does dim dwywaith amdani, mae’r raglen hon yn haeddu cynulleidfa eang. Buaswn yn argymell y rhaglen ddogfen hon i unrhyw ddinesydd Cymreig ac unrhyw un o’r DU sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Mae’n rhaglen fanwl ac yn taflu golau cadarnhaol i’r gwyliwr o fywyd ein prif weinidog mewn cyfnod cwbl unigryw. Yn ogystal, mae’r golygu a’r ffilmio gan Steffan Morgan o ansawdd uchel iawn gyda rhai golygfeydd cofiadwy – yn eu plith y Prif Weinidog yn palu mewn siwmper dyllog ar ei randir a hefyd yr olygfa honno wedi ei ffilmio gyda drôn uwchben beic Mr Drakeford ym Mharc Cathays. Os oedd bai ar y rhaglen, yna y ffaith ei bod hi’n gorffen yn rhy sydyn oedd hwnnw. Hollti blew yw hyn, wrth gwrs.

I gloi, mwynheais a dysgais lawer wrth wylio Prif Weinidog Mewn Pandemig, ac o safbwynt gwleidyddol a diwylliannol, mae’n ddiddorol iawn. Rwy’n hyderus y bydd y rhaglen yn cael ei thrysori fel enghraifft wych o hanes y pandemig yn y dyfodol.

 

Elis Davies

2. Elis Llew Davies, Ysgol Garth Olwg, Morgannwg Ganol

Adolygiad Sherlock Holmes a Diflaniad y Deiamwnt

Sam Hearn sydd wedi ysgrifennu Sherlock Holmes ac fe yw arlunydd y llyfr hefyd. Nia Peris wnaeth gyfieithu y llyfr. Cwmni cynhyrchu’r llyfr yw RILY, a enillodd wobr y Fantastic Book Award. Mae’n byw yn Llundain gyda’i bartner a’i ferch fach. Stori yw hwn am ffeindio trysor a grwp o ffrindiauyn chwilio am y person wnaeth ddwyn y trysor.

Fy hoff rhan yw pan mae Martha yn dangos John rownd yr ysgol achos mae’n neud i John i deimlo’n gyforddus ar ei ddiwrnod cyntaf yn Ysgol Stryd y Popty, achos mae Martha’n nabod bron pawb a phopeth sy’n mynd mlaen rownd yr ysgol. Y rhan mwyaf doniol yw pan mae Sherlock yn cwrdd ẩ John am y tro cyntaf ac yn dyfalu ei fod yn hoffi bisgedi hufen cwstard, siwr o fod achos mae briwsion a paced bisgedi hufen cwstard yn ei boced. Dwi’n hoffi y ffordd mae Sherlock yn defnyddio cliwiau i ffeinidio allan lot am person cyn hyd yn oed cwrdd a nhw, mae’n glyfar iawn.

Fy hoff gymeriad yw Sherlock achos bod ganddo ymenydd fel cyfrifiadur, mae’n hoffi antur, mae ganddo wallt cwl ac mae’n hoffi gwyddoniaeth a gwneud arbrofion fel fi. Fy hoff lun yw pan fod Baskerville wedi gwisgo lan fel ditectif ar dudalen 38.

Ar ddechrau y stori mae John yn dechrau yn ysgol stryd y popty, mae’r cymeriadau i gyd yn cael eu disgrifio ac mae Martha’n mynd a John o gwmpas I gwrdd a pawb. Mae hyn yn dda i ddod i nabod y cymeriadau ac roeddwn I’n gallu gweld bod John, Sherlock a Martha yn mynd I fod yn ffrindiau o’r dechrau. Ar y diwedd mae Seren yr Alpau yn cael ei ddarganfod sydd yn gorffen y stori’n dda ar ol i nhw weithio trwy’r stori yn chwilio am cliwiau a ffeindio allan beth oedd wedi digwydd pan aeth Seren yr Alpau ar goll. Mae’n dda sut mae nhw wedi dod at ei gilydd fel tim o ditectifs ac mae John yn aros gyda mam Martha, Martha a Sherlock. Mae mam Martha wedi gadel iddyn nhw gael ystafell eu hunain i nhw gael gweithio fel ditectifs dydd a nos.

Dwi’n hoffi’r stori ond i wella, dwi’n meddwl dylen nhw rhoi rhifau ar y swigod siarad achos eu bod nhw’n anodd i ddilyn y drefn. Dwi’n meddwl fod y llyfr yn addas i fechgyn a merched achos mae digon o gymeriadau gwahanol a diddorol sydd yn fechgyn a merched yn y llyfr o oed 7 a lan. Os oedd llyfr i ddilyn, byddwn i’n hoffi stori am beth gallai ddigwydd yn y dyfodol bosib gyda tim ditectif yn mynd ar daith mewn peiriant amser i’r dyfodol!

Ysgol Edern

3. Ifan Alun Midwood, Ysgol Gynradd Edern

Adolygiad o ginio Dydd Gŵyl Dewi

Mawrth y cyntaf yw Dydd Gwyl Dewi, ac i ddathlu ein nawddsant cenedlaethol cawsom y profiad o fwyta pryd o fwyd Cymreig. Coginiodd mam y cinio gyda help llaw Cadi fy chwaer a fy swydd i oedd greu’r pwdin. Tipyn o gyfrifoldeb! Gosododd Dad y bwyd a’n galw i eistedd wrth y bwrdd i fwyta. Roedd fy llygaid yn dweud bod gwledd o’n blaenau.

Roeddwn yn gywir oherwydd roedd y bwyd yn anfarwol o’r tamaid cyntaf un, yn flasus iawn ac yn nefolaidd. Yn wir cefais wledd i’w chofio.

Rheswm cyntaf pam yr oedd y bwyd yn nefolaidd oedd oherwydd y cawl cennin traddodiadol. Doedd dim talpiau llysiau ynddo o gwbl, ac roedd yn ysgafn a ddim yn rhy drwchus. Roedd y blas yn anfarwol.

Yr ail reswm pwysig iawn pam fod y cinio yn nefolaidd yw oherwydd roedd y cig oen wedi ei goginio yn berffaith, nid oedd yn rhy galed nac yn rhy feddal. Roedd y cig wedi ei orchuddio gyda haen denau o saws mintys gwyrdd. Roedd digon o lysiau iachus a llawn maeth a haearn i ddewis ohonynt, moron, tatws stwnsh, pys, brocoli, bresych a thatws rhost.

Rheswm arall pam yr oedd y cinio yma yn ansbaradigaethus yw oblegid y pwdin. Roedd y cacenni cri ar bara brith yn baradwysaidd ar flaen fy nhafod. Roedd y ffrwythau yn y bara brith yn llaith ac yn tynnu dwr i’r dannedd. Roedd y caceni cri yn felys iawn fel mel.

Rheswm ychwanegol pam yr oeddwn wrth fy modd gyda’r cinio yma yw oherwydd bod y bwyd i gyd wedi’i baratoi gartrefroedd blas cartref arno. Nid cogydd proffesiynol greodd y cinio ond cafodd popeth ei greu adref mewn gegin ac roedd llawer o hwyl i’w gael wrth goginio y cinio yma, roedd hynny’n amlwg.

Gobeithio ar ol darllen yr adolygiad yma byddwch yn mentro coginio cinio Dydd Gwyl Dewi adref y flwyddyn nesaf.