1. Gwenllian Preddy, Adran Penfro, Penfro
Y Blwch Hud o Gymru
Bydda i’n rhoi yn y bocs
Crys rygbi Cymru wedi’i lofnodi gan Alun Wyn Jones,
Tocyn i fynd i’r Stadiwm y Principality,
A fy sgarff cefnogwyr Cymru lwcus.
Bydda i’n rhoi yn y bocs
Arogl llawer o genhinen ffres,
Pelen dan yn y gornel o geg dreigiau Cymru,
A cennin Pedr melyn llachar.
Bydda i’n rhoi yn y bocs
Pwll o ddwr o’r Llyn Trawsfynydd,
Brycheuyn o’r tywod meddalach yng Nghymru
A darn o wlân defaid o’r Wyddfa.
Mae fy mocs wedi’i wneud o
Diemwnt du, llechi a chreigiau o garreg las,
Gyda chaneuon ar y caead,
A llinellau o fara brith ar ei ochrau,
Mae ei golfachau wedi’u gwneud o ddur o’r de orllewin.
Bydda i’n rasio yn fy mocs
I’r ben o Gadair Idris
A llamu’n falch fel Barcud Coch.
2. Sophie Owen, Adran Penfro, Penfro
Enfys Cymru
Mae Cymru yn goch fel pabi ar ddiwrnod o haf
Mae Cymru yn oren fel y machlud ar fynyddoedd Preseli
Mae Cymru yn felyn fel y cennin pedr yn disglair ar Ddydd Dewi Sant
Mae Cymru yn wyrdd fel y bryniau sy’n canu
Mae Cymru yn las golau fel nant dyrys
Mae Cymru yn indigo fel y mor symudliw
Mae Cymru yn fioled fel crocws yn y gwanwyn
3. Joey-Rees-Davies, Ysgol Gynradd Llandeilo, Dwyrain Myrddin
Cyfnod Clo
Teimlo’n gyfyng,
Teimlo’n unig,
Dim pel-droed,
Dim nofio,
Dim gweld ffrindiau a theulu
wyneb yn wyneb
Dim ysgol,
Triliwn tasg ar Teams,
Gwisgwch mygydau!
Cadwch eich pellder!
Amser gyda teulu,
Pobi bara banana,
Bwyta bwyta bwyta bwyta!
Dim deffro’n gynnar,
Dim gwisg ysgol,
Dim rhuthro,
Chwarae yn y parc,
Cerdded mewn natur prydferth,
Ymarfer corff:
Rhedeg gyda mam,
A sgiliau pel-droed gyda dad,
(well na Joe Wicks!),
Siopa yn lleol,
Enfys yn y ffenestrau,
Teimlo’n hapus,
Teimlo’n obethiol.