1. Miriam Llwyd, Ysgol Gyfun Penweddig, Ceredigion

Seren y sgrîn

“Peidiwch anghofio am y trip i Lundain yfory blant” bloeddiodd Miss Bleidd ar draws y dosbarth. “Iawn, ymlaen a’r gwaith. Heddiw rydym am drafod eich dyfodol. Beth ydych chi eisiau bod pan fyddwch yn hŷn?” Edrychaf o fy nghwmpas ac mae’r dwylo i gyd yn saethu fyny fel rocedi ar wib tua’r lleuad. Ond codi fy llaw mor araf â chrwban ydw i. Dwi’n clywed Miss Bleidd yn mynd trwy’r rhestrau o enwau a chlywaf yr un atebion dro ar ôl tro. “Emily?” “Pêl droediwr Miss” “Meical?” “Doctor Miss” “Ceri?” “Athrawes fel chi Miss Bleidd” Teimlaf yn swp sâl pan ddaw fy nhro i ateb, ond mae llygaid Miss Bleidd wedi hoelio arnaf. “Arthur, beth amdano ti?” Mae fy ngheg yn sych grimp ac rwy’n baglu dros fy ngeiriau.  “Ym…..ym…..actor Miss…..dwi am fod yn actor byd enwog.” Mae fy llais yn crynu…..ac yna dwi’n clywed pwffian chwerthin yn dod o bob gornel o’r dosbarth. Mae fy mochau yn gwrido a theimlaf y dagrau yn pigo fy llygaid. “Tawelwch blant!” tarana Bolgi Bleidd (dyna be’ dwi’n ei galw hi!) “Arthur, dwi’n meddwl bydd yn well i ti ddechrau meddwl am swydd mwy rhesymol, fel ffermwr neu adeiladwr. ‘Does dim gobaith gan grwtyn o Aberystwyth fod yn actor byd enwog siŵr iawn!” Hy! Mae’n rhaid bod y g’lomen heb glywed am Taron Egerton! Fi yw Arthur Tomos. Rwy’n byw efo Mam, Dad a fy mrawd bach Tela. Fy ffrind gorau yn y byd i gyd yw Llew (Llewelyn Rhys Jones yw ei enw llawn). Bob dydd ar ôl ysgol bydd Llew a fi yn cerdded i’r siop ac yna dwi’n mynd draw i dŷ Nain. Heddiw dwi’n agor y drws ac yn clywed Nain yn cyd-ganu ‘What’s new pussycat?’ efo Tom Jones (ar y radio mae Tom – nid yng nghegin Nain!) Bob dydd mae Nain yn gofyn i mi beth ddigwyddodd yn yr ysgol. Dwi’n sôn wrthi yn dawel am holl halibalŵ gwers Miss Bleidd a dyma hi’n wfftio gan ddweud, “Arthur bach, os wyt ti yn gweithio yn galed ac yn credu yn dy hun, gelli fod yn unrhyw beth ‘ti eisiau, cariad bach.” Yna, mae’n estyn am y bocs bisgedi ac mae’r ddau ohonom yn mwynhau paned o dê a ‘Jammy Dodger’ yr un. Wrth ddeffro y bore’ wedyn dwi’n cofio yn syth am y trip i Lundain. Yn llawn cyffro dwi’n bownsio allan o’r gwely a newid i fy nillad sydd wedi cael eu plygu yn daclus ar y gadair yn y gornel. Dwi’n llowcio’r ‘Cocopops’ a rhuthro i’r ysgol. Dyma’r bws yn cyrraedd yn brydlon am 6.45 a Llew a fi yw’r cyntaf i ddringo i fyny’r grisiau a bachu’r seddi gorau ar y bws. Yn anffodus, dyma Ceri Cas a’i chriw yn dod i eistedd tu ôl i ni, a medraf glywed ei llais gwichlyd yn gwneud hwyl ar fy mhen i, “Mae Arthur yn rhy hyll i fod yn seren Hollywood!” Roedd Mam wedi pacio pecyn bwyd hyfryd i mi, gan gynnwys bocs bach o ‘Jammy Dodgers’. Gwenais wrth gofio am eiriau cefnogol Nain – “…gelli fod yn unrhyw beth ‘ti eisiau, cariad bach” wrth wthio’r fisged flasus i fy ngheg. O fewn dim o amser daeth y bws i stop, a dyma Miss Bleidd yn codi a chyhoeddi ein bod wedi cyrraedd Llundain. Wrth gamu o’r bws rwy’n colli fy ngwynt wrth weld y rhyfeddodau. Mae’r ddinas yn fwrlwm wrth i ni basio y ‘London Eye’, Pont Llundain, Palas Buckingham, Tŷ’r Cyffredin a ‘Big Ben.’  Mae’r gwesty yn enfawr ac rwy’n ebychu wrth gerdded i mewn drwy’r drysau gwydr, “Wow!……Hei Llew, tynna lun ohona i plîs?” Wrth i fy ffrind dynnu’r llun ar ei ffôn dyma Ceri Cas yn pwyntio a dweud,“Pwy ma’ fe yn meddwl yw e? Tom Cruise?!” Anwybyddaf y geiriau sbeitlyd – gall hyd yn oed Ceri Fflur Huws ddim sbwylio’r trip yma. Rydw i a Llew yn rhannu ystafell ac mae’r ddau ohonom yn brysio i ddadbacio cyn cyfarfod gweddill y criw. Mae pawb ar dân i ddechrau crwydro. Y peth cyntaf ar deithlen Miss Bleidd oedd ymweliad â siopau Oxford Street. Roedd yr athrawes flin wedi pregethu’n ddi-stop am bwysigrwydd bod yn ofalus ac i aros efo’n gilydd. Roedd y merched yn mynnu stopio mewn siopau diflas fel ‘New Look’ a ‘Smiggle’, ond yna gwelais siop fawr ‘Nike’ ar ochr arall y stryd. Cofiais am rybudd Miss Bleidd a chroesi’r stryd yn ofalus. Hwdis cŵl, esgidiau pêl-droed a lluniau mawr o Mo Salah a Neco Williams(fy arwyr o dîm Lerpwl), yn llenwi’r ffenest fawr. Rhyw ddiwrnod bydd gen i ddigon o arian i brynu pob dim sydd ar silffoedd y siop yna, meddyliais. Pan fyddaf yn serennu mewn ffilmiau ‘blockbuster’ ac yn ennill ffortiwn fel Robert Downey Jr a Tom Holland…….. ‘Oi, kid – move out of the way’, meddai llais cocni cras o’r tu ôl i mi, felly penderfynais beidio mentro mewn, ond wrth droi i groesi’r stryd brysur unwaith eto sylwais bod gweddill y dosbarth wedi diflannu! Rhewais yn yr unfan mewn panig llwyr, ond atseiniodd geiriau olaf pregeth Miss Bleidd yn fy mhen, “Ar ôl siopa byddwn yn cerdded nol i’r gwesty i gael cinio cyn mynd draw i oriel gelf y Tate Modern.” Felly, dechreuais gerdded yn ôl yn frysiog…pasio ‘New Look’ a ‘Pret a Manger’…. croesi’r stryd brysur…..a throi’r gornel. Teimlais ryddhad wrth weld y drysau mawr gwydr o fy mlaen, ond sylwais yn go’ sydyn nad yng nghyntedd y gwesty yr oeddwn i, ond cyn i mi fedru gwneud dim, dyma lais awdurdodol yn dweud, “Follow me – the auditions are this way.”Cefais fy ngwthio trwy ddrws gyda arwydd arno yn dweud ‘BOY CHARACTER MOVIE AUDITION’. Erbyn hyn roeddwn yn sefyll mewn ystafell llawn bechgyn tua’r un oed a mi, pob un yn cynhesu eu lleisiau ac yn ymestyn eu cyrff. Roeddwn ar fin ei heglu hi allan pan gofiais eiriau Nain “…gelli fod yn unrhyw beth ‘ti eisiau, cariad bach………” Blwyddyn yn ddiweddarach a ‘dwi nol yn Llundain, ond gyda fy nheulu y tro yma, ac mae’r gwesty hyd yn oed yn fwy a thipyn crandiach na’r tro diwethaf i fi fod yn y ddinas fawr. Heno yw noson ‘Premiere’ y ffilm ‘The green, green grass of home – the Tom Jones story’, a fi sy’n chwarae rhan y Tom Jones ifanc. Wrth i oleuadau’r sinema dywyllu, teimlaf law gynnes Nain yn gafael yn fy llaw i, ac yna mae fy wyneb yn llenwi’r sgrin wrth i lais eiconig Tom Jones ganu ‘What’s new pussycat?’

 

Siwan Lloyd Matthews

2. Siwan Lloyd Matthews, Ysgol Bro Myrddin, Gorllewin Myrddin

T.I.F

4:59 y bore.

Rwy’n deffro ac mae chwys wedi ffurfio nant gynnes ar fy nhalcen.

‘O gwych!’, meddylais wrth estyn am fy sbectol a oedd mewn cyflwr gwael ers 10 mlynedd.

Neidiais o’r gwely gan edrych draw i wely 7230 (gyda llaw – mae pawb yn ei alw yn Saith). Roedd y gwely’n wag.

‘Rhyfedd!’, meddyliais wrth i mi gropian ar hyd y llawr, roedd Saith yn troi’n 15 mlwydd oed heddiw, felly rhaid ei fod wedi mynd i’r blwch post i gasglu ei gerdyn pen-blwydd blynyddol wrth y llywodraeth.

Tapiais ysgwydd 8141 (neu Wyth – chi’n dechrau deall ein cod?! Sori – does dim angen llawer o ddychymyg) a gofyn, “Ble mae Saith? Dyw e ddim yn ei wely.”

Agorodd ei lygaid, siglodd ei ben a dweud yn swta, “Sut ydw i fod i wybod? ”.

Mentrais i lawr y grisiau ac roedd pawb yn llowcio brecwast o geirch sych, ychydig o ddŵr a gwydraid bach o laeth.  Pawb, heblaw am Saith …

Ugain munud yn ddiweddarach, ac wrth i mi sgubo’r llawr clywais floeddio yn yr ystafell ddysgu. Roedd y plant lleiaf siwr o fod yn llefain eto.  Es i edrych eto yn yr ystafell gysgu.  Roedd gwely Saith dal i fod yn wag …

Llusgodd weddill y dydd fel rhaff ddiddiwedd.  Yr un hen beth sy’n digwydd yma o fore gwyn tan nos. Dwstio, sgubo lloriau, polisho a wedyn dysgu am ein statws yn y byd gyda Mr Philips (perchennog yr adeilad). Hyn oll heb smic, dim siw na miw, dim sôn am Saith.

Wrth baratoi i fynd i’r gwely am 8 o’r gloch, gofynnais i un o’r porthorion – Mr Thomas, “Syr, lle mae 7230? Dw i heb ei weld trwy’r dydd.”

Aeth wyneb Mr Thomas yn wyn ac atebodd, “Mae 7230 wedi mynd.  Ddaw e ddim nôl”

“Beth Syr? Pam? Ydy e’n iawn?” Siaradais gan deimlo dagrau yn dechrau ar hyd fy mochau.

“Mae e wedi mynd i le gwell.  Nawr cer i’r gwely, tridiau sydd nes dy ben-blwydd di’n 15!”

Dechreuais gerdded tuag at y gwely cyn clywed, “Mwynha’r diwrnodau olaf yn bedair ar ddeg, fy machgen i.”

Rwy’n eithaf siŵr mai dyna beth ddyweddodd e.  Dyna beth ryfedd i’w ddweud meddylais wrth ddringo i’r gwely caled.  Prin iawn fyddai unrhyw un dweud rhywbeth mor bersonol yn y lle yma.  Yn sydyn, daeth rhywbeth rhyfedd i fy meddwl. ‘Amhosib,’ meddyliais cyn syrthio i drwmgwsg hir.  Roedd tasgau ac emosiwn y dydd wedi fy nhrechu.

Y bore nesaf, roedd geiriau’r noson cynt yn dal i gymylu fy meddwl, felly penderfynais ddweud wrth fy ffrindiau, Wyth (roedd e wedi codi am unwaith) a 9234 (ie, r’ych chi’n iawn – Naw!).

“Amhosib”, sibrydodd Wyth, “Fydden nhw byth yn lladd y plant”.

“Meddylia am y peth Wyth. Mae dwsinau o blant 14 mlwydd oed wedi jyst diflannu yma’n ddiweddar a does byth gwelyau gwag yma ers amser nawr.  Ydy hwnna’n meddwl…?”

Y noson honno casglodd y plant i gyd yn ein hystafell wely i rannu’r stori. Gyda dau ddiwrnod ar ôl i fi a llai i rai o’r lleill roedd rhaid creu cynllun. Yn gyntaf roedd angen i ni brofi bod ein casgliad yn wir, felly yng nghanol y nos, cropiodd Saith a finnau i grombil yr adeilad ac i swyddfa Mr Phillips. Ac ar ôl twrio a thwrio, dyma ni’n agor cwpwrdd a chanfod … ein tystysgrifau geni!

“Doeddwn i ddim yn gwybod bod enwau ein rhieni ar rain”, sibrydodd Wyth. “Na finnau,” sibrydais wrth edrych ar y darn papur a gweld marc cwestiwn mawr yn cynrychioli fy mam, ac yna  J. Thomas ar gyfer fy nhad. Thomas … – enw poblogaidd iawn. Gwerth dim …

“EDRYCHA” bloeddiodd Wyth bwyntio at gefn y darn o bapur oedd yn fy llaw ac at y llythrennau bras … TIF.  “TIF.. beth mae hwnna’n meddwl?” …

“Tynged i farw,” sibrydais yn dawel.

Roedd y diwrnodau nesaf yn llawn cynlluniau nes i fy noson olaf (i fod) gyrraedd.  Arhosais yn amyneddgar yn fy ngwely nes, o’r diwedd, fe agorodd y drws gyda chamau dau ddyn cadarn yn llenwi’r ystafell cyn sefyll uwch fy mhen.

“Dilynwch fi plîs.  Gadewch eich eiddo fan hyn,” cyhoeddodd un o’r dynion.

Codais a dilyn yn ufudd gan edrych yn syth o’m blaen.  Er y cynllunio, er y cytuno, aros yn stond wnaeth pawb o’m cwmpas gan wybod nad oedd unrhyw bwynt ceisio atal yr anochel.  Roedd y dynion yn rhy fawr.

Mae’r hyn ddigwyddodd nesaf yn un cwmwl mawr, trwchus.  Ces i fy nhaflu i sach frown, frwnt a’m rhoi yng nghist rhyw fath o gerbyd swnllyd cyn cael fy lluchio’n ddiseremoni ar lawr a theimlo siswrn mawr yn rhwygo brethyn y sach er mwyn cynnig rhyddid … rhyddid dros dro i mi.  Un cip olaf ar oleuni.

O’m blaen, roedd dyn mewn cot wen yn cydio mewn nodwydd hir a gallaf glywed ei sibrwd yn glir,  “Bydd hyn jyst fel cwympo i gys….”

“NA! STOPIWCH!!!” bloeddiodd dyn o gefn yr ystafell…

Mr Thomas.

Efa Mair Thomas

3. Efa Mair Thomas, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Caerdydd a’r Fro

Sut gafodd y draenog ei bigau?

Mewn gardd fach ddirgel mor hudol ag erioed, trigai teulu o dylwyth teg mewn llannerch liwgar o glychau’r gog. Ymfalchiai’r creaduriaid ysgafn yn eu gwaith dyddiol o gadw’r ardd yn brydferth ac hynod o amryliw. Nid swydd i’r diog oedd hwn, felly prin fyddai malwod yr ardd yn cynnig eu helpu! Ond, byddai rhai o’r anifeliaid a phryfaid wrth eu bodd yn rhoi cymorth, megis y gwiwerod chwim, y cwningod chwilfrydig, y gwenynod ffyddlon, y morgrug prysur a’r draenogod diwyd. Roedd rhaid tacluso, paentio, brwsho, tocio, torri a pholisho nos a dydd. Cyn codi cwn caer, byddent yn neidio allan o’u gwlau o betalau porffor, ac yn sefyll fel milwyr mewn rhes ger y llwyn riwbob, yn barod i dorchi eu llewis a mynd i waith! Pob diwrnod, byddent yn paentio’r rhosod coch, brwsho’r glaswellt melfed, tocio’r llwyni mwyar duon pigog, a llond llaw o weithagreddau eraill. Roedd yr ardd fel pin mewn papur bob diwrnod o’r flwyddyn. Ond, yr unig beth oedd yn galluogi iddynt gyflawni’r holl waith yma oedd y ffyn lledrith llesmeiriol. Nid ffyn cyffredin oedd y rhain, ond offerynnau pwerus oedd yn gallu troi unrhyw beth yn y byd i mewn i baradwys perffaith!

Er mwyn cadw’r ffyn pwysig yma yn ddiogel, roedd gan bob dylwythen deg fag bach, pitw oedd wedi ei wneud allan o ddail tafol ac ychydig o hud y rhaeadr aur oedd wrth ymyl y ffos. Byddent yn cerdded yn sionc tuag at y pistyll llachar bob nos, gan osod eu ffyn yn daclus yn eu bagiau. Wedyn, byddent yn rhoi mymryn o’r dŵr aur hudol y tu fewn i’w cydau bach er mwyn iddo suddo i mewn i’r ffyn a rhoi egni swynol iddynt.

Aeth wythnosau heibio, gyda’r tylwyth teg mor ddyfal ag adar yn creu nythod cyffyrddus i’w cywion llwglyd. Roedd rhaid cwblhau’r ardd er mwyn iddo fod yn barod ar gyfer eu ymgynulliad flynyddol gyda’u pennaeth, sef Tylwyth. Daeth y diwrnod mawr, gyda phawb yn gynhyrfus ac yn edrych ymlaen i glywed annerchiad eu arweinydd. Ond, yn annisgwyl i bawb, datgannodd Tylwyth bod newid ar dro i’w gwaith dyddiol. O hynny ymlaen, yn ogystal â chymoni yr ardd, roedd hanner y tylwyth teg angen mynd ati i gasglu dannedd plant bach ar hyd y fro. Disgrifiodd sut oeddent i sleifio’n graff i mewn i ystafelloedd gwlâu ieuenctid yr ardal, i gasglu eu dannedd sgleiniog a’u cyfnewid am arian. Tra bod pawb wedi synryfeddu, edrychant ymlaen yn fawr fel plant bach mewn siop losin. Ond wrth gwrs, roedd rhaid cael mwy o fagiau bach i hel y dannedd, ac roedd angen eu creu yn fuan…

Y diwrnod canlynol, clywsant sŵn rhyfedd, aflafar yn agosau tuag atynt. Y TRACTOR oedd yno, dan ruo swnllyd y torrwr gwair!!! Roedd y tylwyth teg mewn panig llwyr! Mewn chwinciad chwannen, roedd yr holl ardd wedi cael ei dorri! Wedi chwilio ym mhob twll a chornel, doedd dim dail tafol ar ôl yn unman… Yn eu dagrau, gwelsant yr anghenfil yn gyrru’n falch i ffwrdd gan eu gadael yn hollol benisel. Nid oedd dail ar ôl i greu y bagiau newydd ar gyfer y dannedd nawr. Gan fod rhaid eu casglu i osgoi siomi plant yr ardal, roedd rhaid iddynt ddefnyddio y bagiau oedd i fod i ddal y ffyn lledrith!!

Nid oedd yr anifeiliaid teyrngar am roi’r ffidil yn y to a gadael eu arweinwyr i dorri eu calonnau. Felly, trafodon nhw am bob math o syniadau i drwsho’r broblem, tan i’r draenog ddod ag ateb aruthrol i’r amlwg! Eglurodd i’r tylwyth teg sut allen nhw roi eu priciau bach pren i mewn i’w gefn ef yn hytrach nag yn y bagiau, er mwyn i’r ffyn llesmeiriol weithio. Felly yn gyntaf, byddai rhaid iddynt fynd ag ef i lawr i’r rhaeadr aur i gael ei wlychu. Sgipiodd pawb, a’u gwynt yn eu dwrn, i lawr i’r rhaeadr aur i drochi’r draenog, a dyna ni sbri oedd hynny! Roedd yn rolio i bobman fel cwragl lithrig, gyda’r tylwyth teg yn ceisio eu gorau i’w atal rhag diflannu i lawr yr afon. Wedi ymdrech aruthrol, cerddasant yn eiddgar yn ôl i’r ardd gan roi eu ffyn sgleiniog yng nghefn y draenog a gweld os byddai ei syniad yn gweithio. Mewn amrantiaid, gwelwyd y ffyn yn troi’n loyw fel diamwntiau disglair- roedd y ffyn llesmeiriol yn gweithio unwaith eto! Hwre!

Ers y diwrnod hwnnw, dyma beth mae rhai yn honni yw’r rheswm pam bod draenogod gyda chotiau pigog. Pan nad oes draenogod i’w gweld yn unman, mae’n arwydd eu bod ym mhentref dirgel y tylwyth teg, yn rhannu eu ffyn llesmeiriol i bawb!