Dedfrydu cyffurgi 20 oed o Sir Benfro i ddwy flynedd mewn sefydliad troseddwyr ifanc

Mae dyn 20 oed o Gaeriw, Sir Benfro, wedi’i ddedfrydu i dreulio cyfnod mewn sefydliad i droseddwyr ifanc am gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B.

Cyfaddefodd Joshua Humphries ei fod wedi bod yn cyflenwi ecstasi, MDMA a chanabis yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Wrth ymchwilio i’r achos, daeth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys o hyd i ddwsinau o negeseuon ar ffôn Joshua Humphries yn ei gysylltu â chyflenwi cyffuriau i rwydwaith o bobol yn yr ardal.

Aeth gerbron Llys y Goron Abertawe yr wythnos ddiwethaf (Ionawr 7), a chafodd ei ddedfrydu i dreulio dwy flynedd a phum mis mewn sefydliad ar gyfer troseddwyr ifanc.

“Rydym yn gobeithio fod hyn yn gyrru neges i bobol ifanc eraill sydd ynghlwm â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, neu rai sy’n meddwl am gymryd rhan – byddwn yn dod i wybod am eich gweithgareddau ac yn eich erlyn, hyd yn oed os nad oes gennych chi gyhuddiadau blaenorol,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Owen o dîm cyffuriau Sir Benfro Heddlu Dyfed-Powys.

Organ Capel Soar, Merthyr Tudful

Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dychwelyd i S4C

“Mae Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol yn ffordd effeithiol iawn i addolwyr ddod at ei gilydd yn un cynulleidfa fawr ar fore Sul,” meddai S4C

Darllen rhagor

28 o yrwyr bysiau Arriva wedi profi’n bositif am y coronafeirws yn ardal Wrecsam

Mae’r cwmni’n annog pob teithiwr i wisgo mygydau wyneb yn sgil yr achosion

Darllen rhagor

Indonesia

Dod o hyd i focs du awyren Indonesia

Fe blymiodd i Fôr Java wrth gludo 62 o bobol

Darllen rhagor

Profion Covid-19, y coronafeirws

Bron i hanner y marwolaethau yn ysbytai Cymru a Lloegr yn wythnos olaf 2020 yn ymwneud â Covid-19

Cafodd y coronafeirws ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth 3,144 o bobol

Darllen rhagor

Galw am fesurau llymach i reoli ail gartrefi yn Sir Gaerfyrddin

“Ergyd ddwbl” pandemig y coronafeirws a Brexit yn cyflymu’r galw am ail gartrefi

Darllen rhagor

Bill Belichick a Tom Brady

Hyfforddwr pêl-droed Americanaidd yn gwrthod anrhydedd arlywyddol

Daw penderfyniad Bill Belichick yn dilyn terfysgoedd Washington

Darllen rhagor