Enw llawn: Ceri Haf Pritchard

Dyddiad geni: 13/08/1988

Man geni: Bangor


Petai Ceri Haf Pritchard yn disgrifio’i hun mewn tri gair, ‘pengaled, ffyddlon ac optimist’ fyddai’r geiriau hynny. Mae’n byw ac yn gweithio ym Mangor fel hyfforddwr personol, ac yn edrych ymlaen at ddechrau cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion uwchradd mewn chwaraeon ym mis Medi. Mae’n edrych ymlaen at ysbrydoli’r genhedlaeth ifanc a dangos bod gymaint mwy o fewn eu cyrraedd nac y mae ambell i un efallai yn ei gredu.

“Mae symud yn chwarae rhan enfawr yn fy mywyd. Yn yr ysgol ro’n i’n rybish yn addysg gorfforol. Doeddwn i byth yn cael fy newis i ddim un o’r timau – o’n i’n cuddio yn y gornel. On i’n un o’r rheiny lle roedd fy misglwyf yn digwydd mwy nag unwaith y mis, achos oedd gas gen i chwaraeon. Roeddwn i mor hunanymwybodol.”

Mae’n dweud ei bod yn lwcus bod ei mam a’i thad wedi sicrhau ei bod yn cael mynd i wersi Kung fu o oed ifanc.

“Gyda’r Kung fu, roeddwn i’n symud yn reit aml a dw i meddwl bod hynny wedi fy helpu i gyrraedd lle ydw i… Dyna pam es i mewn i ymarfer corff, ro’n i eisiau dangos i bobol y medran nhw wneud hynny hefyd. Dyna pam dw i eisiau gwneud cwrs TAR ymarfer corff ysgol uwchradd. Taswn i heb gael mam a dad yn rhoi fi drwy weithgareddau allgyrsiol fel kung fu, mi faswn i’n dal i gasáu chwaraeon fel oeddwn i yn yr ysgol.”

Mae’n dweud hefyd bod chwaraeon a ffitrwydd wedi ei helpu i oresgyn amseroedd tywyll, pan oedd ei hymennydd yn brysur, a bod buddion corfforol ffitrwydd yn fonws ychwanegol i hynny.

“Mae fy ymennydd wedi rhoi amser caled i mi ar adegau, a be’ dw i wedi gweld mwy na dim sydd wedi helpu fi ydi symud a ffitrwydd. Mae symud jest yn gwneud byd o les i ’meddwl i.

“Erbyn rŵan, yn ogystal â thrio cadw fy meddwl yn dawel, dw i’n trio symud fel pan y bydda i’n 75 i 80 oed os byw ac iach a dal ar y blaned, dw isio gallu codi os dw i’n disgyn, neu eisiau cadw fy siwt-cês fy hun pan dw i’n mynd ar y cruise – felly mae hynny yng nghefn fy meddwl i hefyd.”

Mae Ceri wedi rhedeg marathons, hanner marathons, ac wedi beicio o Lundain i Paris yn ogystal â cherdded mynydd uchaf mynyddoedd yr Atlas ym Morocco a theithio yn Nepal.

“Dwi wedi bod ar deithiau rhyngwladol amazing. Ond maen nhw’n rywbeth mae unrhyw un yn gallu’i wneud rili, a dyna be’ sy’n ysbrydoli fi – pan dw i’n gweld pobol normal o bob oed, bob maint a phob cymeriad yn gwneud y pethau yma. Ar y funud, dw i’n licio codi pwysau a ‘workouts crossfit’ a Hyrox.”

Mae’n dweud ei bod yn hoffi gweld y gwydr yn hanner llawn, ac mae’r feddylfryd hon yn ei hysbrydoli i geisio profiadau ac anturiaethau newydd.

“Pan ddaw fy amser i ben, dydw i ddim eisiau edrych yn ôl a meddwl ‘beth petai?’ Rydw i am ddweud ‘ia’ i bob cyfle sy’n dod fy ffordd, a hyd yn oed os dydyn nhw ddim yn gweithio, dw i am fod yn falch fy mod i wedi eu trio… Dwi jest ddim yn deall “I can’t“, yn arbennig pan mae’n dod i bethau mwy corfforol,” meddai.

Wynebu’r ‘tywyllwch’, a hud Disney

Ond dyw bywyd ddim wastad wedi bod yn fêl i gyd i Ceri. Mae hi wedi wynebu amseroedd tywyll ar ôl torri i lawr yn emosiynol ddwywaith.

“Wnes i dorri i lawr, ac aeth y byd yn dywyll, dywyll. Es i ’nôl at Mam a Dad, a jest aros yn y gwely. Doedd gen i ddim byd ar ôl. Ro’n i’n teimlo’n numb ac wedyn mewn poen emosiynol eithriadol. Ges i ail episôd wedyn ar ôl gorffen perthynas hirdymor. Doeddwn i wir ddim yn gweld sut y byddwn i’n dod allan ohono. Ond mi wnes i.

“Dwi dal yn sefyll achos y gefnogaeth anhygoel ges i gan fy nheulu a ffrindiau. Beth sy’n anodd ydi’r effaith gafodd o ar fy nheulu i – dw i dal i geisio gwneud heddwch efo hynny. Pan mae’r byd yn mynd yn dywyll, wna’i wastad jest trio cofio, er mor anodd yw’r boen ar y pryd, fod popeth yn pasio. Felly, mae yna olau.

“Mae amser efo teulu yn bwysig i mi. Maen nhw’n ‘groundio’ fi, maen nhw wastad yn gefn i mi, dim ots pa benderfyniad gwirion dw i’n wneud nac i ba ran o’r byd dw i’n mynd, pa weithgarwch boncyrs dw i eisiau’i wneud nesaf – maen nhw wastad yn gefn i mi, a wastad yno ar y llinell ddarfod efo fi. Maen nhw wastad y bobol dw i eisiau’u ffonio gyntaf,” meddai.

Un o’r pethau mae’n hoffi ei wneud gyda’i theulu yw mynd i Disneyland Paris. Tyfodd i fyny yn gwylio ffilmiau Disney. Cafodd ei gwyliau cyntaf yno yn bymtheg oed, ac ers hynny maen nhw wedi mynd fel teulu yn flynyddol, ac eithrio dros gyfnod Covid.

“Mae gen i ddychymyg mawr, a dw i’n licio diweddglo hapus… Pan ydan i’n mynd, dydi o ddim byd fel bywyd go iawn. Fedr person jest dianc i fyd hollol wahanol yno. Mae gen ti’r rhyddid i fod yn beth bynnag ti eisiau bod yno, sy’n wych. Mae o’n lle mor gynhwysol a saff. Mae pobol o bob oed yn cael gwirioni efo’r cymeriadau maen nhw’n eu gweld yn y parc, ac yn cael gwisgo i fyny.

“Mae dyfyniad Disney yn golygu lot i mi:

All our dreams can come true, if we have the courage to pursue them.

“Dwi’n trio cadw hyn yn fy mhen bob dydd. Rydan ni gyd yn amau ein hunain o bryd i’w gilydd, ond os ydan ni dal i gredu, does dim rhaid i’n dyheadau ni fod yn freuddwydion yn unig.”

Er ei bod yn berson sy’n “gweld y da mewn pawb”, mae’n dweud mai un o’r pethau sy’n ei chythruddo yw pobol sy’n teimlo bod ganddyn nhw “hawl i farn dros fywydau eraill”.

“Fel merch yn fy nhridegau heb blant, yn aml mae pobol yn gofyn pam bod gen i ddim plant, neu’n gofyn pam dwi ddim yn cael plant. Dwi ddim rili’n meddwl mai hynny yw fy llwybr. Ond mae pobol yn meddwl bod ganddyn nhw’r hawl i gael barn ar y penderfyniadau mae pobol yn eu gwneud mewn bywyd. Dwi’n meddwl y dylai pobol jest adael i bobol fyw.”

Breuddwydion

Tasai Ceri yn cael diwrnod efo unrhyw un, yn fyw neu’n farw, byddai’n dymuno cael y diwrnod hwnnw naill ai’n gwylio gig Elvis Presley, gan ei bod yn gefnogwr brwd, neu gael un diwrnod arall gyda’i thaid.

“Fe gollais Taid pan oeddwn i’n 19, pan oeddwn i jest yn dod i’r oed lle oeddwn i’n sylwi beth oedd gen i yn Nain a Taid. Dw i’n meddwl, fel teulu, rydan ni wastad yn meddwl, ‘Beth fasa Taid yn ddeud?’

“Roedd ganddo hen dy ffarm yn y Bala heb wres canolog. Roedd o’n biwtiffwl o dŷ. Roedd gen ti le tân yn yr ystafell fyw, a wedyn roedd cadair Taid, a dim ond Taid fyddai’n eistedd ynddi. Wedyn, double sofa yn wynebu Taid, a wedyn cadair Nain. Mi faswn i wrth fy modd yn eistedd rhwng y ddau ohonyn nhw, jest yn gwrando arnyn nhw drwy’r dydd.

“Dwi’n un o’r rheina sy’n trio gweld yr hud yn y byd pan mae pethau’n mynd yn dywyll. Dwi dal i gredu bod pobol rydan ni wedi eu colli yn edrych droson ni yn y sêr, er mor cheesy mae hynny yn swnio.”