Enw: Lara Rebecca
Dyddiad geni: 21/06/2000
Man geni: Caerdydd
“Un o’r mythau mwyaf am anorecsia yw ei fod yn ymwneud â phwysau yn unig. Mewn gwirionedd, mae’n anhwylder seicolegol cymhleth sy’n ymwneud â llawer mwy na dim ond bwyd a phwysau.”
Dyma farn Lara Rebecca, siaradwr cyhoeddus a sylfaenydd Keep Smiling Collective, sy’n cyhoeddi podlediad iechyd meddwl cyson sydd bellach yn bedair oed. Er i salwch anorecsia bron ei lladd, bellach mae’n ysbrydoli eraill sydd ar eu teithiau adferiad.
Gofod yw Keep Smiling Collective sy’n codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, addysg, yn annog twf adferiad ysbrydoledig a phositifrwydd drwy adrodd straeon gonest ac unigryw.
Fe ddechreuodd anhwylder bwyta Rebecca yn raddol yn ystod ei harddegau.
“Yn ddigon buan, roeddwn i’n consumed gan hunaniaeth fy anorecsia, ac roedd fy mywyd ac ymddygiadau yn cael eu dominyddu gan fy anhwylder bwyta,” meddai.
Ond fe ddechreuodd wella pan sylweddolodd fod angen iddi “gydnabod yr agwedd seicolegol” ar ei phroblemau, yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar yr elfennau symptomatig.
“Roedd angen i mi edrych yn ddyfnach. Roedd hyn yn caniatáu ar gyfer gwellhad mwy llwyddiannus yn y tymor hir. Roedd y broses yn anodd, ond rwy’ wedi dysgu cymaint amdanaf fy hun yn ystod y daith.”
Cyfryngau cymdeithasol
Mae’n credu mai’r sialens fwyaf i bobol ifanc sy’n ceisio gwella o anhwylderau bwyta yn y byd digidol yw’r “dylanwad negyddol o’r cyfryngau cymdeithasol.”
“Gall fod yn lle gwenwynig os nad yw’n cael ei ddefnyddio’n gywir, gan achosi cymharu â safonau afrealistig, hunan-barch isel, ac ymbellhau oddi wrth y foment bresennol.”
Y cyngor sydd ganddi i unigolion yw cymryd cam yn ôl, a bod yn “ymwybodol o sut rydych chi’n ymgysylltu â’r apiau, a chanolbwyntiwch ar adeiladu hunan-werthfawrogiad o’ch mewn”.
“Dydw i ddim yn ofni llithro yn ôl, gan fy mod wedi mynd i’r afael â fy triggers, ac wedi datblygu casgliad iach o fecanweithiau ymdopi. Hefyd, rwy’n mynychu therapi yn rheolaidd, ac yn parhau i weithio ar fy meddylfryd a fy natblygiad personol – gan ganiatáu newid hirdymor.”
Yn ei hamser rhydd, mae’n caru chwarae cerddoriaeth, yn bennaf y piano ond mae hefyd yn chwarae’r ffliwt, yr ukelele, ac yn gallu chwarae’r sacsoffon hefyd.
Mae’n benderfynol o weithio’n galed i chwalu stigma, am ei bod o’r farn ei bod yn bwysig bod pobol yn deall y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r anhwylderau hyn ac yn gweld y gobaith am wella.
“Rwy’n gwneud hyn hefyd drwy fy mhodlediad, sydd bellach yn bedair oed. Rwy’ wedi cael y pleser o gynnwys gwesteion anhygoel a gweithwyr proffesiynol i rannu eu straeon ac addysgu. Mae’r platfform hwn wedi fy ngalluogi i gyrraedd cynulleidfa ehangach, gan ledaenu’r neges o obaith a dealltwriaeth ymhellach fyth.”
Y dyfodol
Mae Lara Rebecca yn awyddus i barhau i addysgu, codi ymwybyddiaeth a dadstigmaiddio’r sgyrsiau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl ac anhwylderau bwyta.
“Gobeithio, trwy hyn, y gallwn greu diwylliannau mwy empathetig lle mae pobol yn deall pwysigrwydd rhoi blaenoriaeth i’w lles seicolegol eu hunain ac eraill,” meddai.
Mae hefyd yn mwynhau’r byd academaidd yn fawr, ac ar fin gorffen ei gradd Meistr mewn Seicoleg Chwaraeon ac yn ystyried gwneud PhD yn y dyfodol.