Enw llawn: Steph Healy
Oed: 49 mlwydd oed
Man geni: Dwyrain Swyddog Efrog (Byw ym Mangor bellach)
Cafodd Steph Healy, sy’n byw ym Mangor gyda’i gŵr a thri mab, ei “rhyfeddu’n llwyr” ar ôl profi gong bath (baddon sain) am y tro cyntaf yng Nghaeredin, wrth ymweld â theulu ychydig flynyddoedd yn ôl. O’r eiliad honno, fe wyddai ei bod eisiau gweithio gyda phobol ym maes iacháu sain.
Math o fyfyrdod anweithredol yw baddonau gong neu sain, lle mae unigolyn yn “ymdrochi” yn nirgryniadau sain gwahanol gongiau – dirgryniadau sydd, yn ôl rhai, yn medru iacháu person. Mae’r arfer o ddefnyddio sain i bwrpas iacháu yn dyddio’n ôl i ddiwylliannau hynafol, gyda’r cofnodion cynharaf o’r arferiad yn dyddio yn ôl i’r oesoedd hynafol yn yr Aifft a Groeg.
Fe hyfforddodd Steph Healy gyda’r College of Sound Healing am ychydig dros ddwy flynedd cyn gweithio gyda’r cyhoedd. Roedd hi’n dysgu yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar y pryd, ac roedd gwneud y fath newid yn ei bywyd yn gofyn am ysbryd ‘mentro’ go iawn, meddai. Ond wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae’n dweud ei bod hi “mor falch” ei bod hi wedi dilyn ei greddf a chymhwyso fel Therapydd Sain llawn amser a thiwtor ar gyfer y Coleg.
“Fel plentyn, roeddwn i bob amser wrth fy modd â natur, p’un a oeddwn yn penlinio’n ddwfn mewn mwd ar y rhandir yn ‘helpu’ fy nhad, neu yn mwynhau hafau yn gwersylla yn Ewrop (Almaenes yw fy mam),” meddai, gan ddweud ei bod hi’n hoff o sain a cherddoriaeth hefyd.
Yr elfennau a’r planedau
Mae gan Steph Healy ugain gong yn ei chasgliad cyfredol, ac mae’n eu defnyddio nhw’n bennaf at ddibenion addysgu. Mae’n sôn ei bod yn bwysig i fyfyrwyr roi cynnig ar “amrywiaeth o gongiau” (pob metel, arddull a maint gwahanol), i weld pa rai maen nhw’n cysylltu â nhw fwyaf dwfn.
Mae tri mis cyntaf y cwrs yn y coleg yn ymwneud â gweithio gyda’r Gong, bob dydd, ym mhob ysbryd ac emosiwn “i glirio’r corff a’r meddwl o egni dwys” i gael bod mewn “lle da” i weithio gydag eraill, eglura.
“Yn bersonol, rwy’n hoffi gweithio gyda’r cylchoedd naturiol o’n cwmpas, felly dw i’n defnyddio Gongs elfennol (gan ein bod wedi’n gwneud o ddaear, tân, dŵr, aer a llwch sêr) a Gongs planedol (sydd wedi’u tiwnio i amleddau – frequencies – sbin planedau gwahanol yn y bydysawd, a hynny yn ei dro yn cysylltu â rhai rhannau o’n corff, meddwl ac emosiynau.
“Mae’r gongiau yn cymryd amser hir i’w gwneud ac maen nhw’n ddrud. Maen nhw wedi’u creu o arian nicel yn bennaf, neu efydd a po fwyaf y gong, y mwyaf y mae’n ei gostio!”
‘Gwahaniaeth bach’
Petai Steph Healy yn cael sgwrs gydag unrhyw un mewn bywyd (sy’n fyw neu’n farw), gyda’i thad yr hoffai i’r sgwrs honno fod.
“Bu farw fy nhad pan oeddwn yn saith oed, felly byddwn wrth fy modd yn cael sgwrs gydag ef am fywyd, ar noson gynnes, serennog, y ddau ohonom yn eistedd y tu allan, gyda thatws wedi’u lapio mewn ffoil yn coginio ar y tân gwersyll,” meddai.
Un ffaith ar hap amdani yw ei bod yn ddyslecsig, dyspracsig ac mae ganddi ddyscalcwlws.
Pe bai hi’n cael unrhyw ddawn arbennig yn rhodd, bod yn “berchen ar ffon hud i daenu caredigrwydd a thrugaredd ar draws y byd ac ymhlith y ddynoliaeth” fyddai honno, meddai,
“Cyn i mi farw, gobeithio y bydda i wedi gwneud gwahaniaeth bach yn y byd.”