Enw: Anwen Mair Edwards (Byth yn defnyddio’r Mair)
Dyddiad Geni: 19/03/1975
Man geni: Ysbyty Cyffredinol Pen-y-bont ar Ogwr. Bellach wedi’i ddymchwel. Tai sydd yno bellach, tafliad carreg i ffwrdd o gae rygbi Pen-y-bont, Cae’r Bragdy.
Athrawes Cerddoriaeth yw Anwen Edwards, sy’n disgrifio’i hun fel ‘hwntw balch’. Astudiodd yn ferch ifanc yn Ysgol Gyfun Llanhari, lle datblygodd ei diddordeb eang mewn cerddoriaeth. Mae’n hoffi cyfansoddi, canu, chwarae’r piano a chanu’r delyn.
“Roedd y corau, partïon, ensembles, deuawdau yn ddi-ri, roedd eisteddfodau a chyngherddau yn binacl y flwyddyn ysgol,” meddai. “Cefais athro piano arbennig a dysgodd i mi bod llawer mwy i wersi piano na dim ond canu’r piano. Cefais fwynhad mawr a phrofiadau cerddorol eang tu hwnt yno.
“Bu mam a dad yn gefn mawr i mi, gan gefnogi pob gweithgaredd a dangos gwerthoedd arbennig i mi. Dwi’n eu hedmygu am roi gwreiddiau i mi ym Mhen-y-bont ar aelwyd llawn cariad, ac am ddysgu gwerthoedd a moesau sydd hynod o bwysig i fi – cariad at ddiwylliant Cymraeg, a pharch at ddiwylliannau eraill.
“Rhoddwyd rhyddid i mi, eu hunig blentyn, i fynd a dilyn fy nhrywydd fy hun. Mae’r hyder a ddangoswyd ynof ganddyn nhw yn amhrisiadwy. Dw i hefyd wedi cymryd yr un agwedd gyda fy mhlant fy hun.”
Mae hi’n aelod o Gôr Seiriol, ond ar gyfnod seibiant o flwyddyn ar hyn o bryd gan ei bod yn dilyn cwrs cwnsela sy’n digwydd disgyn ar yr un noson â’r ymarferion.
“Mae gen i’r ysfa i helpu eraill, ac mae’r sgiliau gwrando gweithredol dw i’n eu meithrin ar y cwrs yn mynd i fod o fudd,” meddai.
Trawsnewid
Ond chwalodd ei byd yn ddarnau man fis Rhagfyr 2021, pan gafodd hi ddiagnosis o ganser y fron; profiad wnaeth, yng ngeiriau Anwen, ei ‘thrawsnewid’.
“Ar y pryd, roeddwn ar fy mwya’ ffit, a dw i mor ddiolchgar am hynny am fy mod i’n grediniol bod hynny wedi helpu i mi wella. Cefais dair llawdriniaeth i dynnu’r canser ar ddechrau 2022, cyn canfod y buaswn yn elwa o driniaeth cemotherapi. Daeth y driniaeth i ben yng Ngorffennaf 2022, ac er i mi fod yn glir o ganser, dw i wedi dysgu byw gyda’r sgil effeithiau. Dw i hefyd yn byw gyda ’mysedd wedi croesi – mae’r posibilrwydd iddo ddod ’nôl yn fyw iawn.
“Doeddwn i ddim eisiau cael fy ngweld fel rhywun sâl. Mi wnes i’n siŵr ’mod i’n codi bob dydd – roeddwn i am i fywyd teuluol fod mor normal â phosib i’r plant. Llwyddais i gasglu’r plant o’r ysgol bob dydd, oni bai am un diwrnod lle’r oedd y nausea yn ormod. Llwyddais i gerdded milltiroedd wrth fynd trwy’r driniaeth. Roedd bod allan yn yr awyr agored yn help mawr i fy iechyd meddwl, yn sicr.
Er iddi geisio defnyddio’r cold cap yn ystod ei sesiwn cemotherapi cyntaf, mae’n sôn na weithiodd, ac ymhen pythefnos roedd hi wedi dechrau colli ei gwallt.
“Es i a mam i siopa am wig yn Lerpwl, a ches i ddwy wig arbennig. Roedden nhw gymaint gwell na fy ngwallt go iawn. Derbyniais sawl sylwad positif am fy ngwallt, a bu’n rhaid i mi gyfaddef nad fy ngwallt go iawn oedd e.”
Mae’n sôn mai rhai o’r pethau mwyaf gwerthfawr iddi yn ystod y cyfnod anodd hwn oedd cefnogaeth ffrindiau a theulu agos.
“Roeddwn yn ddiolchgar iawn i’r criw oedd yn dod efo fi am dro, ac am fy ffrindiau oedd yn fy ngwahodd am baned neu bryd bwyd. Yn ystod cemo yn aml, roedd blas bwyd a diod yn hollol afiach – ond doedd dim ots am hynny; roedd y gwmnïaeth a’r sgwrsio yn beth arbennig.”
Cefnogaeth a chariad
Yn ystod un o’i sesiynau cemotherapi, gofynnodd un o staff Ward Alaw a fyddai diddordeb gan Anwen ymuno â chôr newydd sbon ar gyfer unrhyw un oedd wedi cael eu heffeithio gan ganser. Ddiwedd Medi 2022, cafodd Côr Law yn Llaw ei sefydlu. Un o amcanion y côr yw codi arian at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd.
“Dyma’r tro cyntaf i mi ddod ar draws pobol leol oedd wedi bod trwy brofiad tebyg i mi – roedd cerdded i mewn i’r ymarfer cyntaf a dod ar draws yr holl bobol arbennig yma yn sbesial iawn. Ychydig a wyddwn i bryd hynny y byddwn, maes o law, yn arwain y côr, a daeth y côr yn rhan annatod o fy adferiad. Mae’r gefnogaeth, cyfeillgarwch, y canu a’r cariad yn arbennig ac wn i ddim lle faswn i hebddo.”
Mae Anwen yn ei disgrifio’n “fraint sefyll o flaen y côr”, ac yn dweud ei bod yn aml yn meddwl am yr aelodau – “pob un â’i stori unigryw a’i reswm dros fod yno.”
Does gan Anwen ddim ‘breuddwyd’, fel y cyfryw, gan mai’r “pethau bach” sydd yn bwysig iddi erbyn hyn. Ond un peth yr hoffai ei wneud yw sefydlu ardal neu le diogel lle gall cleifion, cyn-gleifion, aelodau teulu neu ffrindiau ddod am baned a sgwrs – cyfle hefyd iddi ddefnyddio ei sgiliau cwnsela i helpu unrhyw un sydd angen clust i wrando er mwyn helpu eraill sy’n mynd drwy amser anodd oherwydd canser.