Bu’r llynedd yn llewyrchus i fenywod y tîm rygbi cenedlaethol, ac mae lle i fod yn dawel obeithiol am yr hyn sydd i ddod dros y deuddeg mis nesaf…

2023 oedd y “flwyddyn orau o bell ffordd” i dîm rygbi merched Cymru, medd y capten.

Rhwng dod yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a chael cystadlu ymysg goreuon y byd yn Seland Newydd, roedd hi’n ddipyn o flwyddyn i Hannah Jones a’i thîm.