Malan Wilkinson sy’n bwrw golwg ar gymeriadau gwahanol/arloesol ac obsesiynol, gan gynnig mewnwelediad i fydau sydd heb eu harchwilio a rhoi llais i is-ddiwylliannau Cymru. Ei gobaith yw bwrw sbot-olau ar achosion canran o gymdeithas sy’n gyfyngedig o ran cyfleoedd i gael eu darganfod. Yn ei cholofn ddiweddaraf, mae’n rhoi sylw i un sydd wrth ei bodd â chathod a bwydydd o bedwar ban byd…
Enw llawn: Wendy Foulds
Dyddiad geni: 19/11/67
Man geni: Bangor
Mae Wendy Foulds yn gweithio’n rhan-amser yn Swyddfa Docynnau Siop Reilffordd Cwm Rheidol ym Mhontarfynach ger Aberystwyth, ac mae’n artist sydd â stondin gelf yn yr hen swyddfa bost yn Aber, lle mae’n gwerthu ei gwaith bedwar diwrnod yr wythnos.
“Mae steil fy nghelf i dipyn bach yn cwyrci, naïf efallai – mae na lot o bobol wedi dweud eu bod nhw’n licio steil a lliw yn fy lluniau. Dw i wedi bod yn greadigol erioed, ond doeddwn i erioed wedi eistedd i lawr a gwneud llun tan ychydig cyn y cyfnod clo,” meddai.
Dyna pryd ddechreuodd Wendy fynd i ddosbarthiadau Zoom ac astudio dyfrlliw, gouache, acrylics a gweld pa un roedd hi’n ei fwynhau orau.
“Mae wedi rhoi gymaint o hyder i mi rŵan. Mwya’ dw i’n ei wneud, mwya’ o hyder dw i’n ei gael,” meddai, cyn egluro mai’r llefydd sy’n ei hysbrydoli fel artist yw Aberystwyth, Caernarfon (lle cafodd ei magu), a Sir Fôn – i gyd yn llefydd mae ganddi ymlyniad oes â nhw ar ôl byw neu brofi amser yn yr ardaloedd gwahanol.
“Mi faswn i wrth fy modd yn cael arddangosfa fy hun ryw ddiwrnod – dyna’r gôl rili, i bobol ddod yna a gweld fy nghelf ar y wal. Ond ar y funud, dw i’n gwneud yn dda yn y siop yn Aberystwyth, a dw i’n rili hapus sut dw i’n mynd ymlaen.”
Mam a ‘chreadigrwydd’
“Colli fy mam mor ifanc oedd y peth anoddaf i mi ei brofi. ‘Dw i’n meddwl bod hynny wedi cael cryn effaith ar fy mywyd i,” meddai Wendy, cyn egluro bod y golled wedi bod yn sydyn ac annisgwyl.
Collodd Wendy ei mam rhwng y Dolig a’r Flwyddyn Newydd pan oedd yn 30 oed, ar ôl iddi ddioddef o ymlediad yr ymennydd.
“Dydi o ddim yn rywbeth dw i wedi dod drosto – dw i jest yn gwybod sut i fyw efo fo rŵan. Mae amser yn helpu fel mae pobol yn ei ddweud – ond dydi o ddim yn mynd i ffwrdd.”
Mae’n cofio mor greadigol oedd ei mam a sut – yn ôl pob tebygolrwydd – mae hi wedi etifeddu ei thalentau creadigol ganddi hi, ac nid gan ei thad sy’n beiriannydd.
“Roedd Mam bob tro yn dŵdlo efo gwneud blodau, yn greadigol, dyna dw i’n cofio fwyaf, a Dad bob tro yn dweud ’na dyna le o’n i’n cael fy nghreadigrwydd. Ond cacennau sbwng oedd fy hoff bethau i oedd hi’n gwneud – dwi’n licio coginio gymaint hefyd.
“Dwi’n meddwl lot am Mam, mae hi yn fy mreuddwydion i’n aml, a dweud y gwir. Mae yna dros ugain mlynedd ers iddi farw. Y freuddwyd dw i’n cael o hyd ydi ein bod ni dal yn mynd i siopa efo’n gilydd. Mae’n siŵr mai hwnna ’swn i’n licio gwireddu mwy na dim un arall taswn i’n cael gwireddu un freuddwyd arbennig.”
‘Smyglo cathod i’r tŷ’
“Dwi’n hoffi cathod erioed. Pan ro’n i’n blentyn, roedd cathod y stryd yn dod ata i i gyd, ac mi o’n i’n smyglo nhw i mewn i’r tŷ heb i Mam wybod, ac yn eu bwydo nhw. Mae cofio hynny yn reit ddoniol,” meddai.
Muggles yw enw cath Wendy, ac mae cathod yn ei hysbrydoli i greu ei gwaith celf.
“Yn amlwg, rydan ni’n ffans o Harry Potter, ond mae Andrew [ei gŵr] a fi yn meddwl y byd ohono. Does gynnon ni ddim plant, felly Muggles ydi bob dim i ni. Mae o’n cael bob dim gynnon ni ac yn cael ei sbwylio’n rhacs.”
Ond nid arlunio a gofalu am gathod yw unig ddoniau Wendy. Fe enillodd raglen Casa Dudley yn 2008, ac mae coginio yn un arall o’i phrif ddiddordebau.
“Mae bwyd yn beth mawr yn fy mywyd i. Dw i wrth fy modd arbrofi efo bob mathau o fwydydd gwahanol; mae bwyta allan yn beth mawr yn fy mywyd hefyd. Fydda i bob tro yn gwneud bwyd o sgratsh, byth yn defnyddio bwyd wedi’i brosesu,” meddai, cyn dweud ei bod yn hoffi creu ryseitiau yn seiliedig ar ddylanwadau bwydydd o amrywiol wledydd fel Croatia a’r Eidal.
Mae prynu cynhwysion lleol yn bwysig iddi, ac mae’n mwynhau cefnogi’r farchnad ffermwyr lleol yn Aber ddwywaith y mis.