Malan Wilkinson sy’n bwrw golwg ar gymeriadau gwahanol/arloesol ac obsesiynol, gan gynnig mewnwelediad i fydau sydd heb eu harchwilio a rhoi llais i is-ddiwyllianau Cymru. Ei gobaith yw bwrw sbot-olau ar achosion canran o gymdeithas sy’n gyfyngedig o ran cyfleoedd i gael eu darganfod. Yn ei cholofn ddiweddaraf, Warden Eglwys a Gwas Allor sydd dan sylw…
Enw llawn: Guto Morgan Jones
Dyddiad Geni: 2/2/1989
Man geni: Bangor
Wnes i gyfarfod Guto am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Bangor. Roedd y ddau ohonom yn laslanciau ffres oedd yn astudio Hanes yn y Brifysgol. Bellach, mae Guto Morgan Jones yn Warden Eglwys yn Llansadwrn ac yn Was Allor yn yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor. Dw i’n cofio sgwrsio gyda Guto tu allan i’w ystafell yn neuadd breswyl John Morris-Jones (neu JMJ!) bryd hynny a gweld ei holl lyfrau hanes yn sefyll yn bictiwr di-lwch a thaclus mewn un llinell syth ar ei ddesg – a meddwl – dyma gymeriad!
Prif ddiddordeb Guto yw hanes. A petai’n cael dewis unrhyw gyfnod hanesyddol i ganolbwyntio arno, y Rhyfel byd Cyntaf fyddai hwnnw.
“Mae yna rywbeth am y cyfnod hwnnw yn ein hanes sydd wedi fy nghyffwrdd i, fel dywedwyd ryw dro ar y BBC, ‘most wars are forgotten, this hasn’t due to the body of literature regarding experience left to us from this conflict…’
“Dw i’n cofio clywed fy offeiriad plwy yn sôn mewn pregeth bod gan Iddewon arferiad o gerdded ymlaen i’r dyfodol wrth edrych yn ôl, er mwyn peidio â cholli golwg o’r gorffennol. Dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol a datblygu perthynas well gyda Duw.”
Ond wyth mlynedd yn ôl, fe drodd byd Guto ar ei ben i lawr ar ôl iddo dderbyn diagnosis o diwmor yr ymennydd. Roedd y tiwmor, heb ymwybod iddo, wedi bod yn casglu a thyfu yn araf ers blynyddoedd.
“Roedd y cyfnod rhwng y diagnosis cychwynnol yn Ysbyty Gwynedd a chael y llawdriniaeth a gwybod yn ‘Ysbyty Walton mai tyfiant benine oedd o yn gyfnod eithaf pryderus i fi ac i’m teulu. Ond, roedd ymddiriedaeth fy mod am gael y gofal gora yno.
“Roedd y gofal ges i a’r teulu gan Walton gyda’r gora fedrith unrhyw un ei gael. Mi roedd llety i deuluoedd newydd agor gan Walton ac mi gafodd Mam a Dad y cyfle i aros yno yn hytrach na theithio o ogledd orllewin Cymru.”
Grym Gweddi
Mae’n sôn i’w ‘fagwraeth Gristnogol’ ei helpu’n fawr yn ystod y cyfnod tywyll yma.
“Dw i’n cofio clywed cyn-Gaplan yr Ysbyty yn deud bod grym gweddi yn medru bod yr un mor effeithiol â thriniaeth feddygol, ac roedd gwybod fy mod i a’r teulu yng ngweddïau’r plwy adra yn gysur. Ar y cyfan roedd yna bedwar gair fu’n gwbl greiddiol i fi ddod drwyddi: derbyn, ffydd, gobaith a chariad.”
Mae’n dweud bod crefydd wedi bod yno iddo erioed. Roedd ei daid (ochor ei fam) yn Offeiriad gyda’r Eglwys yng Nghymru ac mae’n cofio cael ‘sgyrsiau am bethau eang efo fo ar faterion hanesyddol a chrefyddol.’
“Yn ystod gwasanaethau Gosber ar Gan (Evensong) yn yr Eglwys Gadeiriol, mi fydda i’n gweithredu mewn rôl wahanol fel Byrllysgwr (Virger) sydd yn rôl seremonïol yn yr Eglwys erbyn hyn. Tydi’r ddelwedd ystrydebol Dad’s Army bod y Byrllysgwr yn unigolyn sydd ag wyneb fel tasa hi yn wythnos wlyb ym Mangor Uchaf ddim o angenrheidrwydd yn un teg chwaith!” meddai.
Petai Guto yn cael dewis ciniawa gydag unrhyw un o gwbl, gyda Saunders Lewis fyddai hwnnw.
“Mae ei ddylanwad o ar hanes diweddar Cymru yn amhrisiadwy o safbwynt Tynged yr Iaith a llosgi’r Ysgol Fomio gyda J Williams a Lewis Valentine. Oherwydd rhai o’i ddaliadau gwleidyddol a’r ffaith ei fod yn aelod o Eglwys Rhufain, mewn cymdeithas a oedd dan ddylanwad Protestaniaeth ymneilltuol, fe’i gwelwyd fel ffigwr ymylol. Fe ddisgrifiodd Gerallt Lloyd Owen o fel y gŵr sydd ar y gorwel. Mi faswn i wrth fy modd yn cael trafod pethau diwylliedig a hanesyddol efo fo a rhoi’r byd yn ei le efo fo.”
‘Gwella pob canser’
Tra ein bod ni’n breuddwydio, mi ofynnais iddo petai’n cael gwireddu unrhyw freuddwyd o gwbl, beth fyddai hwnnw a pham. Ymweld â bedd ei hen hen ewyrth a fu farw allan yn Mesopotamia yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fyddai hynny, meddai. Mi fuodd farw o afiechyd, sydd ddim yn cael yr un sylw a’r rhai sydd yn marw adeg brwydr. Sonia ei fod wedi ei gladdu yn un o fynwentydd y Commonwealth War Graves Commission yn Baghdad.
Yn ail, byddai wrth ei fodd yn gweld yr un buddsoddiad yn cael ei roi i driniaeth i wella pob canser, yn enwedig tiwmor yr ymennydd.