Malan Wilkinson sy’n bwrw golwg ar gymeriadau gwahanol/arloesol ac obsesiynol, gan gynnig mewnwelediad i fydau sydd heb eu harchwilio a rhoi llais i is-ddiwyllianau Cymru. Ei gobaith yw bwrw sbot-olau ar achosion canran o gymdeithas sy’n gyfyngedig o ran cyfleoedd i gael eu darganfod. Yn ei cholofn ddiweddaraf, achubwr anifeiliaid a cheidwad gwenyn sydd dan sylw…
Enw: Bethan Russell Williams
Dyddiad geni: 30/05/1966
Man Geni: Pwllheli
Mae Bethan Russell Williams wedi gweithio yn y sector gwirfoddol yn helpu eraill ers tua deng mlynedd ar hugain bellach, er iddi addysgu a hyfforddi’n wreiddiol fel cyfreithiwr. Mae’n gweithio ar hyn o bryd fel Prif Swyddog Mantell Gwynedd. Ond, yn ei bywyd personol, does dim gwell ganddi nag achub a gofalu am anifeiliaid – yn arbennig rhai sydd wedi bod drwy drawma neu amser caled. Ymhlith yr anifeiliaid mae’n eu cadw mae alpacas.
“Mi gawson ni alpacas acw yn 2011. Tri o hogia sgynnon ni – Ronnie Wood, Bob Dylan a Willy Nile. Mae’r enwau yn adlewyrchu hoff gerddoriaeth y gŵr a minnau. Pan oedd John yn ymddeol yn 2011, gofynnais iddo, “Be’ wyt ti isio yn bresant riteirio, John?” Ei ateb oedd “alpacas”… Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach, mae’r “hogiau” yn rhan bwysig o’n teulu bach ni ac mae gynnon ni feddwl mawr ohonynt.
“Rydan ni’n defnyddio eu gwlân a’u baw yn y polytunnel ac yn yr ardd fel gwrtaith. Rydan ni yn tyfu lot o lysiau a bwydydd ein hunain, felly mae’r hogiau yn darparu cyflenwad diddiwedd o wrtaith organig gwych i ni.”
Eglura fod y gwlân yn cadw’r pridd yn llaith ac yn helpu i gadw’r malwod draw.
‘Ffrind gorau’
Mae yna lawer o anifeiliaid gwahanol wedi bod yn nhŷ Bethan Russell Williams dros y blynyddoedd. Am bron i ugain mlynedd, roedd ganddi gi defaid trilliw o’r enw Pwt.
“Mae hi yn byw yn fy nghalon o hyd. Un o’r anifeiliaid mwya’ arbennig i mi erioed gael y fraint o’i magu a chyd-fyw efo hi. Ffrind gorau. Mi fuodd hi ar holl fynyddoedd Cymru efo fi pan oeddwn i’n ifanc. Fyddai Pwt yn giamstar ar Grib Goch,” meddai.
“Mynd o un pen i’r llall yn ysgafn ei throed a’i llygaid yn cadw golwg barcud 360. Mae cŵn defaid mor, mor arbennig. Torrais fy nghalon pan gollais i hi, ond mi oedd hi yn bron i ugain oed ac wedi cael bywyd anhygoel. Achub hi wnes i gan rywun oedd yn “cael gwared” ohoni yn gi reit ifanc. Dyna ydi hanes llawer o’r anifeiliaid acw.”
Mae hi’n teimlo’n gryf yn erbyn bridio unrhyw gi tra bod llochesi mor llawn ohonyn nhw, a chymaint o gŵn yn cael eu difa’n ddyddiol.
Ci arall wedi’i achub sydd acw yn nhŷ Bethan yw Marley y Mwngral.
“Hanner staffie a hanner beagle ydi o, ac yn werth y byd. Mi welais o yn cael ei hysbysebu ar y we gan loches cwn yn Preston. “This is Marley, he loves cats”. Mi oedd yna bedair cath acw ar y pryd, felly roedd cael ci oedd yn cyd-dynnu efo nhw yn hollbwysig. Mi oedd Marley bach wedi ei bigo fyny gan y Warden Cŵn yn Preston. Ci stryd oedd o. Mi fuo fo bron â chael ei roi i gysgu pan oedd ei saith diwrnod yn lloches yr Awdurdod Lleol wedi dod i ben a neb wedi ei hawlio. Yn ffodus iddo fo, ac i ni, mi gymerodd lloches Homeless Hounds yn Preston y cradur bach i mewn er mwyn chwilio am gartref iddo. Mi aethon ni i’w weld, syrthio mewn cariad efo fo, a’i fabwysiadu yn syth.”
Cadw gwenyn
Hobi mwy diweddar gan Bethan Russell Williams ydi cadw gwenyn.
“Pan oeddwn i’n blentyn yn tyfu fyny yn Llanbedrog, mi fyddai cymydog i ni, Goronwy Bryn Eglwys, yn cadw cychod gwenyn reit wrth ochr tŷ ni. Ryw ddwsin o gychod oedd gynno fo, ond mi oeddan ni wedi ein magu efo gwenyn o gwmpas, byth eu hofn, ac yn gwybod fod eu cynnyrch yn llesol. Mêl Goronwy oeddan ni yn cael at bron bob anhwylder, boed yn annwyd neu beth bynnag.”
Mae gan Bethan bellach bedwar cwch ei hun gyda gwenyn arbennig ynddyn nhw.
“Dwi wedi bod yn lwcus i gael lot o help gan Alun fy ffrind, sydd yn arbenigwr ar y grefft o gadw a magu gwenyn. Penderfynais beidio tynnu mêl oddi wrthynt llynedd a’u gadael i fwynhau’r bwyd gaeaf oeddynt wedi ei gasglu dros y gwanwyn a’r haf.
“Eleni, mae’r cychod yn gryf a llawn, ac mi fyddaf yn cynaeafu dipyn bach i mi fy hun a theulu a chyfeillion gan sicrhau fod gan y gwenyn fwy na digon i’w cadw dros y gaeaf.”
Yn annhebyg i’r alpacas, does gan y gwenwyn ddim enwau, meddai.
“Heblaw bod yna 80,000 o wenyn ymhob cwch, fysa gan bob un o’r rheiny enwau hefyd!”
… ac achub ieir
Mae Bethan Russell Williams a’i gŵr hefyd yn achub ieir.
“Rydan ni wedi cymryd rhai o’r batteries dros y blynyddoedd, a rŵan o’r cages. Mae’r llefydd masnachol mawr yma yn cadw ieir bach am flwyddyn, ac wedyn yn eu difa am eu bod heibio’r amser dodwy gorau. Mae’n sefyllfa gwbl uffernol.
“Dros y blynyddoedd, dwi wedi helpu efo achub miloedd o ieir bach sydd yn dŵad trwy’r Battery Hen Welfare Trust. Mae gynnon ni wastad ryw ugain o ieir bach acw. Mae’r alpacas yn cadw unrhyw lwynog draw, felly maen nhw yn cael mwynhau bywyd cymharol rydd acw. Mae’r wyau yn dda hefyd wrth gwrs!”
Un o’r pethau gorau i’w gweld, yn ôl Bethan, yw gollwng yr ieir bach ar laswellt a’u “gweld nhw yn teimlo eu traed bach ar y ddaear am y tro cyntaf, a rhyddid i gael symud o gwmpas.
“Mae’r pethau bach wedi cael bywyd hunllefus yn y llefydd masnachol mawr yma. Peidiwch byth â phrynu wyau sydd yn hyrwyddo’r ymarfer dieflig o gadw ieir bach mewn caets.”