Malan Wilkinson sy’n bwrw golwg ar gymeriadau gwahanol/arloesol ac obsesiynol, gan gynnig mewnwelediad i fydau sydd heb eu harchwilio a rhoi llais i is-ddiwyllianau Cymru. Ei gobaith yw bwrw sbot-olau ar achosion canran o gymdeithas sy’n gyfyngedig o ran cyfleoedd i gael eu darganfod. Yn ei cholofn ddiweddaraf, y bît-bocsiwr Ed Holden sydd dan sylw…


Enw: Ed Holden

Dyddiad Geni: 28/10/83

Man Geni: Llanelwy

 

Un o atgofion cyntaf y rapiwr a cherddor Ed Holden yw gweld y bit-bocsiwr a rapiwr Americanaidd adnabyddus Rahzel yn dod ymlaen ar raglen Yo! MTV Raps yn chwech oed. O’r eiliad honno, roedd yn gwybod yn syth mai dyma yr oedd o eisiau ei wneud mewn bywyd.

Bît-bocsio – i’r rhai ohonoch sy’n anghyfarwydd â’r genre gerddorol – yw’r grefft o greu curiadau cerddoriaeth gyda rhythmau gwahanol efo’r corff, ceg, trwyn, gwddw a’r frest. Mae bît-bocsio heddiw yn gysylltiedig â diwylliant hip-hop. Cyfeirir ato’n aml fel “y bumed elfen” yn hip-hop, er nad yw’n gyfyngedig i gerddoriaeth hip-hop yn unig.

“Neshi jest meddwl pan welais i o ar y teledu, ‘BE AR Y DDAEAR?!’ – ac mi o’n i’n hollol obsessed efo bît-bocsio o’r eiliad honno ymlaen,” meddai Ed Holden.

“Be dw i’n licio ydi dy fod di’n gallu gwneud miwsig lle bynnag ti’n mynd – fedri di jest defnyddio dy gorff i wneud bob mathau o wahanol fathau o fiwsig. Mae o’n rhywbeth anhygoel i’w wneud.”

‘Canolbwyntio ar fod yn fi a bod yn hapus’

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Ed Holden, yn ei eiriau ei hun, yn “byw’r freuddwyd”.

“Dwi’n troi i fyny i weithio efo pobol oedran gwahanol, a dw i’n gwneud y pethau positif yma, sgwennu creadigol, recordio raps, siarad am yr iaith Gymraeg, a dw i’n gwneud hynny literally bob diwrnod o ’mywyd i.

“Pan o’n i’n ifanc, fy mreuddwyd i oedd world takeover a bod yn enwog a ballu… Jay-Z lefel, ond rŵan, dw i’n ddigon hapus i ddeud fy mod i’n byw’r freuddwyd. Dw i genuinely yn. Dw i’n deffro yn y bora, a dw i’n cadw yn super fit a dw i’n neud loads o betha rili positif cyn hyd yn oed mynd i’r gwaith. ‘Dw i’n cyrraedd gwaith a dw i’n bod yn super creadigol a gwneud stwff yna, dw i’n mynd adra, yn cario mlaen, dwi’m rili’n yfad dim mwy felly mae bob dim dw i’n wneud – dwi’n canolbwyntio ar fod yn fi a bod yn hapus.”

Mae’n sôn i un o’r uchafbwyntiau mwyaf ei yrfa ddigwydd yn ddiweddar, ar ôl i’r rapiwr Americanaidd Chuck D o Public Enemy chwarae ei sengl ddiwethaf efo Guilty Simpson, rapiwr o Detroit.

“Wnaeth o roi shout out i fi a’r iaith Gymraeg. Mae hwnna i fi yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa. Mae yna bethau anhygoel yn bodoli yn y bydysawd a weithiau rydan ni’n tiwnio i mewn iddyn nhw a weithiau ddim, rydan ni gyd jest yma i joio’r daith.”

Un freuddwyd dyw Ed heb ei gyflawni eto yw rapio yn Gymraeg o dan Oleuadau’r Gogledd. “Mi fasa hynna yn anhygoel, gallu perfformio stwff Cymraeg o dan y Northern Lights, rap Cymraeg hefyd…”

‘Rho dy ffôn yn dy boced’

Un o’r cynghorion mwyaf sydd gan Ed Holden i gyd-artisiaid, cynhyrchwyr a cherddorion yw gwneud yr hyn sydd yn eu gwneud yn hapus ac i beidio â phoeni yn ormodol am ‘likes’ a byw bywydau ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Gwna be’ sy’n dy wneud yn hapus. Adeilada dîm o bobol o dy gwmpas, yn hytrach na jest byw dy fywyd ar social media.

“Ddiwedd y dydd – ymwneud wyneb yn wyneb efo pobol ydi’r peth pwysicaf, ac os fedri di adeiladu’r berthynas yna efo pobol, dyna’r peth pwysig.

“Cer i gigs, dweda ‘Helo!’ wrth bobol, paid ag eistedd yn y gongl ar dy ffôn. Dyro dy ffôn yn dy boced. Cer at bobol, cyflwyna dy hun, dechreua sgwrs – adeilada berthynas efo pobol. Mae hwnna wedi mynd ar goll yn ddiweddar, a hwnna ydi’r darn pwysicaf mewn miwsig.”

Dyw’r cerddor ddim chwaith ofn methu neu dderbyn ymateb negyddol.

“Os ti’n trio rhywbeth tro cyntaf a dio’m yn gweithio allan, dim ots achos mae o’n rhan o’r stori sy’n cael ei sgwennu allan ar y pryd. Y mwyaf o frawddegau a pharagraffau ti’n gallu ychwanegu at y llyfr, y gorau fydd y llyfr. Mae angen cymryd a thrin bywyd fel’na a jest peidio ymateb yn emosiynol i bob dim.”