Mae digrifwr fu’n rhedeg siop ffrogiau priodas ac yn athrawes Ddrama, newydd ddechrau swydd newydd yn hyrwyddo rhai o eglwysi’r gogledd.

Symudodd Katie Gill-Williams i’r Felinheli ger Bangor ddeng mlynedd yn ôl, gan ddechrau dysgu Cymraeg y diwrnod wedyn.

Drama a chomedi ydy pethau’r fam 38 oed gafodd ei magu rhwng Lerpwl a Manceinion, mewn gwirionedd, ac yn ddiweddar mae hi wedi dechrau gwneud perfformiadau stand-yp byr yn Gymraeg.