Rwy’n gobeithio y byddai pawb yn cytuno erbyn hyn ei bod yn bechod cael gwared ag enwau cynhenid Cymraeg a dodi rhai Saesneg yn eu lle.

Carwn ofyn felly i’r BBC a Radio Cymru’n benodol paham y penderfynwyd defnyddio’r gair Saesneg ‘Rhodes‘ wrth adrodd ar y tannau ofnadwy ar yr ynys hyfryd honno.

Mae gan y Gymraeg enw cywir a chyfarwydd am yr ynys, sef Rhodos.  Pam lai ei ddefnyddio?

 

Dafydd Williams

Sgeti