Dymuniadau gorau i Twm Morys fel Meuryn swyddogol Ymrysonfeydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu sawl cyfeiriad a thrafodaeth yn ddiweddar am swydd y Meuryn ac olrheiniwyd hanes yr Ymrysonfeydd gynhaliwyd yn yr Eisteddfodau, ond yn rhyfedd iawn fe anwybyddwyd un ffaith greiddiol, sef mai mabwysiadu enw barddol y beirniad swyddogol yn yr Ymrysonfeydd radio a ddyfeisiwyd gan Sam Jones ac a ddarlledwyd yn niwedd pedwardegau a dechrau pumdegau y ganrif ddiwethaf a wnaed wedi cyfnod y Meuryn gwreiddiol.