Dyma luniau trawiadol o dri o brifeirdd bro’r Steddfod – sy’n rhan o gywaith ffotograffig unigryw sy’n dogfennu ein beirdd cyfoes.

Emyr Young yw’r ffotograffydd, a’i syniad ef oedd mynd ati i dynnu lluniau’r holl brifeirdd sy’n fyw heddiw. Dechreuodd ar y dasg yn ôl ym mis Hydref 2022 ac mae’n amau ei fod hyd yma wedi tynnu llun dros 50 o feirdd yn eu cartrefi ac ar hyd ac ar led y wlad.